|
|
(Micha 4:1-3)
1 Y neges gafodd Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem:2 Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr
ARGLWYDDwedi'i osod yn ben ar y mynyddoedd eraill,
a'i godi'n uwch na'r bryniau.
Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno,
3 a llawer o bobl yn mynd yno a dweud:
“Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr
ARGLWYDD, Refa mynd i deml Duw Jacob,
iddo ddysgu ei ffyrdd i ni,
ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.”
Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod,
a neges yr
ARGLWYDD o Jerwsalem.4 Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloeddCroes
ac yn setlo dadleuon rhwng pobloedd lawer.
Byddan nhw'n curo'u cleddyfau yn sychau aradr
a'u gwaywffyn yn grymanau tocio.
Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,
nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.Croes
gadewch i ni fyw yng ngolau'r
ARGLWYDD.6 Achos rwyt ti wedi gwrthod dy bobl,
pobl Jacob,
am eu bod nhw'n llawn o ofergoelion y dwyrain,
yn dweud ffortiwn fel y Philistiaid
ac yn gwneud busnes gydag estroniaid.
7 Mae'r wlad yn llawn o arian ac aur;
does dim diwedd ar eu trysorau.
Mae'r wlad yn llawn o feirch rhyfel;
does dim diwedd ar eu cerbydau rhyfel.
8 Mae'r wlad yn llawn eilunod diwerth,
ac maen nhw'n plygu i addoli gwaith eu dwylo –
pethau maen nhw eu hunain wedi'u creu!
9 Bydd pobl yn cael eu darostwng
a phawb yn cywilyddio –
paid maddau iddyn nhw!
a chladdu eich hunain yn y llwch,
rhag i ysblander a mawredd yr
ARGLWYDDeich dychryn chi!
11 Bydd y ddynoliaeth yn cael ei darostwng am ei balchder,
a hunanhyder pobl feidrol yn cael ei dorri.
Dim ond yr
ARGLWYDD fydd yn cael ei ganmolbryd hynny!
ARGLWYDD hollbwerus ddiwrnod arbennigi ddelio gyda phob un balch a snobyddlyd,
a phawb sy'n canmol eu hunain – i dorri eu crib nhw!
13 Bydd yn delio gyda cedrwydd Libanus,
sydd mor dal ac urddasol;
gyda choed derw Bashan;
14 gyda'r holl fynyddoedd uchel
a'r bryniau balch;
a phob wal solet;
16 gyda llongau masnach Tarshish, Ref
a'r cychod pleser i gyd.
17 Dyna pryd bydd balchder y ddynoliaeth yn cael ei dynnu i lawr,
a hunanhyder pobl yn syrthio.
Dim ond yr
ARGLWYDDfydd yn cael ei ganmol bryd hynny!
18 Bydd yr eilunod diwerth yn diflannu.
19 Bydd pobl yn mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau
a thyllau yn y ddaear –
rhag i ysblander a mawredd yr
ARGLWYDDeu dychryn pan fydd yn dod
ac yn gwneud i'r ddaear grynu.
yn taflu'r eilunod arian a'r eilunod aur
i'r tyrchod daear a'r ystlumod –
yr eilunod wnaethon nhw i'w haddoli.
21 Byddan nhw'n mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau,
a hafnau yn y clogwyni,
rhag i ysblander a mawredd yr
ARGLWYDDeu dychryn pan fydd yn dod
ac yn gwneud i'r ddaear grynu.
22 Peidiwch rhoi'ch ffydd mewn pobl
sydd â dim byd ond anadl yn eu ffroenau!
Achos pa werth sydd iddyn nhw?
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity