|
|
Fel y gwyntoedd stormus sy'n rhuthro drwy'r Negef,
mae e'n dod o'r anialwch, o wlad sydd i'w hofni.
2 Cafodd gweledigaeth erchyll ei rhoi i mi:
“Mae'r bradwr yn bradychu, a'r dinistrydd yn dinistrio!
Ymlaen, Elam! Gwarchae arni, Media!
Dw i am roi taw ar y griddfan mae wedi'i achosi.”
3 Yn sydyn, mae fy nghorff yn ddolur i gyd;
Mae poenau yn gafael yno i
fel gwraig mewn poen wrth gael babi.
Dw i wedi fy llethu gan beth dw i'n ei glywed,
ac wedi dychryn gan beth dw i'n ei weld.
4 Mae'r galon yn pwmpio a dw i'n crynu mewn panig.
Mae fy mreuddwyd am wawr newydd wedi troi'n hunllef:
wedi troi'n “Gosodwch wylwyr!”
“Bwytwch ac yfwch!”
wedi troi'n “Codwch swyddogion! Paratowch y tarianau!”
6 Achos dyma ddwedodd y Meistr wrtho i:
“Dos, gosod wyliwr i edrych allan,
a dweud beth mae'n ei weld.
7 Pan fydd yn gweld cerbyd gyda phâr o geffylau,
marchog ar asyn neu farchog ar gamel,
dylai ddal sylw a gwylio'n ofalus.”
8 Yna mae'r gwyliwr yn gweiddi'n uchel:
“Meistr, dw i wedi sefyll ar y tŵr gwylio drwy'r dydd,
ac wedi edrych allan bob nos.
9 Ac edrych draw! Mae rhywun yn dod –
dyn mewn cerbyd gyda phâr o geffylau!”
Ac mae'n gweiddi'n uchel,
“Mae wedi syrthio! Mae Babilon wedi syrthio!
Mae'r delwau o'i holl dduwiau yn ddarnau mân ar lawr!”
10 Chi sydd wedi dioddef – fy mhobl ar fy llawr dyrnu:
dw i wedi dweud wrthoch chi
beth glywais i gan yr
ARGLWYDD hollbwerus,Duw Israel.
Mae rhywun yn galw arna i o Seir: Ref
“Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?
Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?”
“Mae'r bore yn dod, ond daw'r nos yn ôl.
Os ydych chi am ofyn eto, gofynnwch.
Trowch! Dewch yn ôl!”
Cuddiwch yn nrysni'r anialwch, chi grwydriaid Dedan! Ref
14 Rhowch ddiod o ddŵr i'r sychedig, chi sy'n byw yn Tema; Ref
rhowch fara i'r ffoaduriaid.
15 Maen nhw'n dianc rhag y rhyfel,
rhag y cleddyf sydd wedi'i dynnu o'r wain,
rhag y bwa sy'n barod i saethu,
a rhag caledi'r frwydr.
16 Achos dyma ddwedodd fy Meistr wrtho i: “Mewn blwyddyn union Ref bydd ysblander Cedar Ref wedi darfod; 17 nifer fach iawn o arwyr Cedar sy'n saethu gyda'r bwa fydd ar ôl.” Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity