|
|
yn difetha'r tir a'i adael yn wag!
Mae'n ei droi â'i ben i lawr,
ac yn gwasgaru'r rhai sy'n byw arno.
i'r offeiriad ac i'r bobl gyffredin,
i'r gwas a'i feistr,
i'r forwyn a'i meistres,
i'r gwerthwr a'r prynwr,
i'r benthyciwr a'r un sy'n benthyg,
i'r credydwr a'r un mewn dyled.
3 Bydd y tir yn hollol wag – wedi'i ysbeilio'n llwyr.
Yr
ARGLWYDD sydd wedi dweud.4 Mae'r tir yn sych; mae'n gwywo.
Mae'r byd yn gwanio; mae'n gwywo.
Mae ei phobl bwysica yn wan.
5 Mae'r tir ei hun wedi'i lygru
gan y rhai sy'n byw arno.
Maen nhw wedi anwybyddu'r ddysgeidiaeth,
newid y deddfau, a thorri'r ymrwymiad oedd i fod am byth.
6 Dyna pam mae'r wlad wedi'i melltithio'n llwyr,
a'i phobl yn cael eu cosbi.
Dyna pam mae'r rhai sy'n byw ar y tir wedi diflannu,
nes bod bron neb ar ôl.
7 Mae'r sudd grawnwin yn sychu
a'r coed gwinwydd yn gwywo,
a'r holl hwyl a'r miri'n troi'n riddfan.
8 Mae sŵn llawen y tambwrîn wedi tewi,
yr holl firi swnllyd wedi peidio,
a sain hyfryd y delyn yn dawel.
9 Does neb yn canu wrth yfed gwin,
ac mae'r cwrw yn blasu'n chwerw.
10 Dinas mewn anhrefn wedi'i dryllio!
Pob tŷ wedi'i gau i fyny, rhag i rywun fynd iddo.
11 Mae pobl yn gweiddi am win ar y strydoedd:
mae pob hwyl wedi peidio,
a miri wedi'i daflu allan o'r wlad.
12 Mae'r ddinas wedi'i gadael mewn llanast llwyr,
a'i giatiau wedi'u dryllio'n ddarnau.
ymhlith y gwledydd:
Fel coeden olewydd sy'n cael ei hysgwyd,
a'r lloffa sy'n digwydd pan mae'r cynhaeaf grawnwin drosodd.
14 Ond bydd rhai'n codi eu lleisiau
ac yn gweiddi'n llawen!
Bydd rhai'n canu clod o'r gorllewin
am fod yr
ARGLWYDD mor fawreddog. ARGLWYDD yn y dwyrainac ar arfordir ac ynysoedd y gorllewin –
addolwch enw'r
ARGLWYDD, Duw Israel.16 Mae canu i'w glywed o ben draw'r byd:
“Mae'r Un Cyfiawn mor wych!”
Ond wedyn dw i'n dweud:
“Mae ar ben arna i! Mae ar ben arna i! Gwae fi!
Mae bradwyr yn bradychu!
Bradwyr yn bradychu â'u brad!”
i bawb sy'n byw yn y wlad!
18 Bydd pawb sy'n ffoi mewn dychryn
yn disgyn i lawr i dwll.
A bydd pawb sy'n dringo o'r twll
yn cael ei ddal mewn trap!Croes
Mae'r llifddorau wedi'u hagor yn yr awyr,
ac mae sylfeini'r ddaear yn crynu.
19 Mae'r tir wedi cracio drosto;
mae wedi hollti'n ddarnau,
ac yn cael ei erydu'n llwyr.
20 Mae'r tir yn gwegian fel meddwyn,
ac yn sigledig fel cwt gwyliwr.
Bydd yn cael ei lorio gan euogrwydd,
bydd yn syrthio, a byth yn codi eto!
ARGLWYDDyn cosbi pwerau'r awyr uchod
a brenhinoedd y ddaear isod.
22 Byddan nhw'n cael eu casglu at ei gilydd
fel carcharorion mewn dwnsiwn,
a'u cloi yn y carchar,
i wynebu eu tynged ar ôl amser hir.
23 Bydd y lleuad yn cywilyddio a'r haul yn swil,
pan fydd yr
ARGLWYDD hollbwerus yn teyrnasuar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem,
yn ei holl ysblander o flaen arweinwyr y bobl.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity