|
|
Mae gynnon ni ddinas gref;
achubiaeth ydy ei waliau mewnol ac allanol hi.
i'r genedl gyfiawn ddod i mewn
a gweld ei ffyddlondeb.
3 Mae'r rhai sy'n dy drystio di
yn gallu bod yn hollol dawel eu meddwl.
ARGLWYDD bob amser,achos, wir, mae'r
ARGLWYDD yn graig am byth.5 Mae'n tynnu'r rhai balch i lawr.
Mae'n gwneud i'r ddinas saff syrthio –
syrthio i'r llawr nes bydd yn y llwch.
6 Mae'n cael ei sathru dan draed –
traed y rhai anghenus, a sodlau'r rhai tlawd.
7 Mae'r llwybr yn wastad i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn;
rwyt ti'n gwneud ffordd y cyfiawn yn llyfn.
ARGLWYDD, i wneud y peth iawn;cofio dy enw di ydy'n hiraeth dyfnaf ni.
9 Yn y nos dw i'n dyheu amdanat o waelod calon,
mae'r cwbl sydd ynof yn dy geisio di'n daer;
achos pan mae'r hyn sy'n iawn yn dy olwg di'n cael ei wneud yn y wlad,
maen nhw'n dysgu beth sy'n iawn i bawb yn y byd.
10 Pan mae'r un sy'n gwneud drwg yn cael ei esgusodi,
dydy e ddim yn dysgu beth sy'n iawn.
Mae'n dal i wneud drwg mewn gwlad o bobl onest –
dydy e'n dangos dim parch at fawredd yr
ARGLWYDD. ARGLWYDD, rwyt ar fin gweithreduond dŷn nhw ddim wedi sylwi.
Gad iddyn nhw gywilyddio wrth weld
dy sêl dros dy bobl,
a'th dân yn llosgi dy elynion.
ARGLWYDD! Ti wedi rhoi heddwch perffaith i ni;Ti sydd wedi cyflawni'r cwbl ar ein rhan!
ARGLWYDD ein Duw,mae meistri eraill wedi bod yn ein rheoli,
ond dim ond ti oedden ni'n ei gydnabod.
14 Mae'r lleill wedi marw, a fyddan nhw ddim yn byw;
cysgodion ydyn nhw, a wnân nhw byth godi.
Ti wnaeth benderfynu eu tynged,
eu dinistrio a chael gwared â phob atgof ohonyn nhw.
15 Ti wedi gwneud i'r genedl dyfu, O
ARGLWYDD,Ti wedi gwneud i'r genedl dyfu, ac ennill anrhydedd i ti dy hun.
Ti wedi estyn ffiniau'r wlad.
ARGLWYDD, pan oedd hi'n argyfwng arnyn nhwdyma nhw'n dy geisio di.
Roeddet ti wedi'u ceryddu nhw
am yr holl sibrwd swynion.
17 Roedden ni o dy flaen di, O
ARGLWYDD,fel gwraig ar fin cael plentyn,
yn gwingo ac yn sgrechian mewn poen.
18 Ond os oedden ni'n feichiog, os oedden ni'n gwingo,
doedden ni'n geni dim byd ond gwynt.
Gafodd y wlad mo'i hachub,
a doedd dim plant wedi'u geni i fyw yn y tir.
19 Ond bydd dy feirw di yn dod yn fyw!Croes
Bydd cyrff marw yn codi eto!
Deffrwch a chanwch yn llawen,
chi sy'n byw yn y pridd!
Bydd dy olau fel gwlith y bore
yn rhoi bywyd i dir y meirwon.
20 Ewch, fy mhobl! Ewch i'ch ystafelloedd,
a chloi'r drysau ar eich hôl.
Cuddiwch am funud fach, nes i'w lid basio heibio.
ARGLWYDD yn dod allani gosbi pobl y ddaear am eu drygioni.
Bydd y tir yn dangos y trais fu arno,
a ddim yn cuddio'r rhai gafodd eu lladd byth mwy.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity