|
|
bydd yr
ARGLWYDDyn cosbi Lefiathan, y neidr wibiog,
gyda'i gleddyf llym, mawr a didostur –
Lefiathan, y neidr droellog;
a bydd yn lladd Rahab, anghenfil y môr. Ref Croes
2 Bryd hynny byddwch yn canu'r gân, "Y Winllan Hyfryd": ARGLWYDD, sy'n gofalu amdani,ac yn ei dyfrio hi bob amser.
Dw i'n ei gwylio hi nos a dydd,
rhag i rywun wneud niwed iddi.
petai rhywun yn rhoi drain a mieri i mi,
byddwn yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn,
ac yn eu llosgi nhw'n ulw.
5 Ond os ydyn nhw am i mi eu hamddiffyn nhw,
rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi;
ie, rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi.
6 Mae'r amser yn dod pan fydd Jacob yn bwrw gwreiddiau,
ac Israel yn tyfu ac yn blodeuo –
bydd y byd i gyd yn llawn o'i ffrwyth.
7 Gafodd e ei daro fel yr un wnaeth ei daro fe?
Wnaeth e ddiodde lladdfa debyg i'r un wnaeth ei ladd e?
8 Cafodd ei yrru i ffwrdd a'i gaethgludo i'w alw i gyfrif.
Cafodd ei chwythu i ffwrdd gan wynt cryf ar ddydd y storm.
9 Felly, dyma sut mae gwneud iawn am fai Jacob,
a dyma fydd canlyniad symud ei bechod:
Bydd cerrig yr allor yn cael eu malu i gyd
fel petaen nhw'n garreg galch –
a pholion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth
wedi'u torri i gyd.
10 Mae'r ddinas gaerog wedi'i gadael yn wag,
cartrefi gwag wedi'u gadael fel tir diffaith.
Mae lloi yn pori yno, yn gorwedd i lawr
ac yn bwyta popeth sydd ar y canghennau.
11 Yna mae'r brigau'n sychu ac yn torri,
ac mae merched yn dod ac yn cynnau tân hefo nhw.
Pobl oedd ddim yn deall oedden nhw;
felly doedd Duw'n dangos dim trugaredd,
doedd eu Crëwr yn dangos dim caredigrwydd atyn nhw.
12 Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn ysgwyd y goeden, o afon Ewffrates i Wadi'r Aifft; Ref a byddwch chi, blant Israel, yn cael eich casglu bob yn un! 13 Bryd hynny, bydd y corn hwrdd Ref yn cael ei ganu; bydd y rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria, a'r rhai oedd wedi cael eu gyrru i wlad yr Aifft, yn dod i addoli'r ARGLWYDD ar y mynydd cysegredig, Ref yn Jerwsalem.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity