|
|
Ariel, y ddinas lle roedd Dafydd yn byw!
Mae'r blynyddoedd yn mynd heibio
a'r gwyliau yn pasio yn eu tro.
2 Ond dw i'n mynd i'w phoenydio,
a bydd yn griddfan ac ochneidio.
Bydd Ariel yn allor i aberthu i mi.
3 Bydda i'n gwersylla o dy gwmpas,
yn gwarchae arnat hefo byddin
ac offer gwarchae i ymosod arnat ti.
4 Byddi'n cael dy dynnu i lawr, a byddi'n galw o'r pridd;
bydd dy eiriau fel rhywun yn mwmian o'r llwch.
Byddi'n swnio fel ysbryd yn codi o'r pridd;
bydd dy eiriau fel rhywun yn sibrwd o'r llwch.
5 A bydd y dyrfa greulon ddaeth yn dy erbyn
yn cael ei malu fel llwch mân.
Bydd y dyrfa o ormeswyr
fel us yn cael ei chwythu i ffwrdd.
Yn sydyn, mewn chwinciad,
ARGLWYDD hollbwerus yn eu cosbigyda tharan, daeargryn a sŵn byddarol,
gyda corwynt, storm, a thân yn dinistrio.
7 A bydd yr holl genhedloedd wnaeth ryfela yn erbyn Ariel
– ymosod arni, ei gwarchae a'i gormesu –
fel breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos.
8 Bydd fel rhywun sy'n llwgu'n breuddwydio ei fod yn bwyta,
ac yna'n deffro a'i fol yn dal yn wag;
neu rywun sydd â syched arno yn breuddwydio ei fod yn yfed,
ac yna'n deffro yn teimlo'n wan a'i geg yn sych grimp.
Felly bydd hi ar yr holl genhedloedd
sy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.
9 Arhoswch. Cewch eich syfrdanu!
Ydych chi'n hollol ddall?
Wedi meddwi – ond ddim ar win!
Yn chwil – ond ddim ar gwrw!
ARGLWYDD wedi'ch gwneud chi'n gysglyd.Mae e wedi cau eich llygaid chi'r proffwydi,
ac wedi rhoi mwgwd dros eich pennau chi sy'n cael gweledigaethau.
11 Mae pob gweledigaeth fel neges mewn dogfen sydd wedi'i selio. Mae'n cael ei rhoi i rywun sy'n gallu darllen, gan ofyn iddo, “Darllen hwn i mi”, ond mae hwnnw'n ateb, “Alla i ddim, mae wedi'i selio.” 12 Yna mae'n cael ei rhoi i rywun sydd ddim yn gallu darllen, gan ofyn i hwnnw, “Darllen hwn i mi”, a'i ateb e ydy, “Dw i ddim yn gallu darllen.” 13 Dyma ddwedodd y Meistr:Mae'r bobl yma'n dod ata i
ac yn dweud pethau gwych amdana i,
ond mae eu calonnau'n bell oddi wrtho i.
Dydy eu haddoliad nhw yn ddim ond
traddodiad dynol wedi'i ddysgu iddyn nhw.
14 Felly, dw i'n mynd i syfrdanu'r bobl yma
dro ar ôl tro gydag un rhyfeddod ar ôl y llall.
Ond bydd doethineb y deallus yn darfod,
a chrebwyll pobl glyfar wedi'i guddio.
15 Gwae'r rhai sy'n ceisio cuddio'u cynlluniau
oddi wrth yr
ARGLWYDD,y rhai sy'n gweithio yn y tywyllwch,
ac yn dweud, “Pwy sy'n ein gweld ni?”
“Pwy sy'n gwybod amdanon ni?”
Ydy'r crochenydd i gael ei ystyried fel clai?
Fel petai'r hyn gafodd ei greu yn dweud am yr un a'i gwnaeth,
“Wnaeth e mohono i!”
Neu'r hyn gafodd ei siapio yn dweud am yr un a'i siapiodd,
“Dydy e'n deall dim!”
17 Yn fuan iawn, oni fydd Libanus
yn cael ei throi'n berllan,
a Carmel yn cael ei ystyried yn goedwig.
18 Bryd hynny, bydd y byddar yn clywed geiriau o lyfr,
a bydd llygaid pobl ddall yn gweld
ar ôl bod mewn tywyllwch dudew.
19 Bydd y rhai sy'n cael eu gorthrymu
yn llawenhau yn yr
ARGLWYDD,a'r bobl dlotaf yn gorfoleddu
yn Un Sanctaidd Israel.
20 Fydd dim gormeswyr o hynny ymlaen,
a bydd y rhai sy'n gwawdio yn peidio â bod;
bydd pawb sy'n dal ati i wneud drwg
yn cael eu torri i ffwrdd –
21 y rhai sy'n gwneud i rywun edrych fel troseddwr,
ac yn gosod trap i'r un sy'n erlyn yn y llys wrth giatiau'r ddinas,
a gwneud iddo droi ymaith achos cyfiawn gyda dadl wag.
22 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Deulu Jacob – y Duw brynodd ryddid i Abraham:Fydd Jacob ddim yn cael ei gywilyddio eto!
Fydd ei wyneb ddim yn gwelwi eto!
23 Achos pan fyddan nhw'n gweld eu planta beth fydda i wedi'i wneud yn eu plith,
byddan nhw'n anrhydeddu fy enw i.
Bydd pobl yn anrhydeddu Un Sanctaidd Jacob
Ac yn dangos parch go iawn at Dduw Israel.
24 Bydd y rhai sydd wedi mynd ar gyfeiliorn yn dod i ddeall,
a'r rhai sy'n cwyno o hyd wedi dysgu gwers.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity