|
|
Mae'r Meistr, yr
ARGLWYDD hollbwerusyn mynd i gymryd o Jerwsalem a Jwda
bopeth sy'n eu cynnal a'u cadw nhw:
bwyd a dŵr,
barnwr a phroffwyd,
yr un sy'n dewino a'r arweinydd;
strategydd a hudwr medrus,
a'r un sy'n sibrwd swynau.
4 Bydda i'n rhoi bechgyn i lywodraethu arnyn nhw,
a bwlis creulon i'w rheoli nhw.
5 Bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd –
un yn erbyn y llall.
Bydd pobl ifanc yn ymosod ar hen bobl,
a phobl gyffredin yn ymosod ar y bonheddig.
6 Bydd dyn yn gafael yn ei gyfaill
yn nhŷ ei dad, a dweud:
“Mae gen ti gôt –
bydd di'n feistr arnon ni.
Cei di wneud rhywbeth o'r llanast yma,”
7 Ond bydd y llall yn protestio, ac yn dweud,
“Alla i ddim gwella'ch briwiau chi;
does gen i ddim bwyd yn y tŷ
a does gen i ddim côt chwaith.
Peidiwch gwneud fi'n feistr arnoch chi!”
a Jwda wedi syrthio,
am ddweud a gwneud pethau
yn erbyn yr
ARGLWYDD,a herio'i fawredd.
9 Mae eu ffafriaeth wrth farnuCroes yn tystio yn eu herbyn;
maen nhw'n arddangos eu pechod fel Sodom,
heb geisio cuddio dim!
Gwae nhw! Maen nhw wedi
dod â dinistr arnyn nhw eu hunain.
10 Dywed:Bydd hi'n dda ar y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn;
byddan nhw'n cael bwyta ffrwyth eu gweithredoedd.
11 Ond gwae y rhai sy'n gwneud drwg,
bydd pethau'n ddrwg arnyn nhw;
byddan nhw'n cael blas o'r hyn wnaethon nhw i bobl eraill.
12 Bydd plant yn feistri ar fy mhobl,
a merched yn eu rheoli.
O fy mhobl,
mae dy arweinwyr yn dy gamarwain;
maen nhw wedi dy ddrysu.
mae'n codi ar ei draed i farnu'r bobloedd.
ARGLWYDD yn dod â'r cyhuddiad ymayn erbyn arweinwyr a thywysogion ei bobl:
“Chi ydy'r rhai sydd wedi dinistrio'r winllan! Ref
Mae'r hyn sydd wedi'i ddwyn oddi ar y tlawd
yn eich tai chi.
15 Sut allech chi feiddio sathru fy mhobl i,
a gorthrymu'r rhai tlawd?”
—meddai'r Meistr, yr
ARGLWYDD hollbwerus.“Mae merched Seion mor falch,
yn dal eu pennau i fyny,
yn fflyrtian â'u llygaid
ac yn cerdded gyda chamau bach awgrymog,
a'u tlysau ar eu traed yn tincian wrth iddyn nhw fynd.”
17 Felly bydd y Meistr yn gwneud i rash
ddod ar bennau merched Seion.
Bydd yr
ARGLWYDD yn siafio'u talcennau nhw. 18 Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn cael gwared â'u tlysau nhw – y tlysau traed, y rhubanau, yr addurniadau siâp cilgant, 19 y clustdlysau, y breichledau, a'r fêl; 20 y diadem, y cadwyni, a'r sash; y ffiolau persawr a'r swyndlysau; 21 y sêl-fodrwy a'r fodrwy drwyn; 22 y dillad hardd, y cotiau, a'r siôl; y pyrsiau, 23 y gwisgoedd sidan, a'r dillad lliain; y twrban a'r clogyn. 24 Wedyn –yn lle persawr bydd pydredd;
yn lle'r rhwymyn bydd rhaff;
yn lle steil gwallt bydd moelni;
yn lle mantell wedi'i brodio bydd sachliain.
Ie, cywilydd yn lle harddwch.
25 Bydd dy ddynion yn cael eu lladd â'r cleddyf,
a'th filwyr yn syrthio yn y frwydr.
26 Bydd galaru wrth giatiau'r ddinas –
a hithau wedi'i gwagio
ac yn eistedd ar lawr.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity