|
|
1 “Gwae chi, blant ystyfnig,” meddai'r
ARGLWYDD –“yn gwneud cynlluniau sy'n groes i be dw i eisiau,
a ffurfio cynghreiriau wnes i ddim eu hysbrydoli!
A'r canlyniad? –
Pentyrru un pechod ar y llall!
2 Rhuthro i lawr i'r Aifft heb ofyn i mi,
a gofyn i'r Pharo eu hamddiffyn
a'u cuddio dan gysgod yr Aifft.
3 Ond bydd cael y Pharo i amddiffyn yn codi cywilydd,
a bydd cuddio dan gysgod yr Aifft yn siom mawr,
4 er bod ganddo swyddogion yn Soan
a llysgenhadon mor bell â Chanes. Ref
am fod yr Aifft yn dda i ddim iddyn nhw –
dim help o gwbl!
Fyddan nhw'n elwa dim,
ond yn profi siom a chywilydd.”
6 Neges am ‛Anifeiliaid y Negef‛:Yn nhir trafferthion a chaledi,
gwlad y llewes a'r llew cry,
y neidr a'r wiber wibiog,
maen nhw'n cario'u cyfoeth ar gefn asynnod,
a'u trysorau ar gefn camelod,
ar ran pobl sy'n dda i ddim.
7 Mae'r Aifft yn ddiwerth! Dŷn nhw ddim help o gwbl!
Felly, dw i'n ei galw hi'n “Yr un falch sy'n fud.”
8 Tyrd nawr, ysgrifenna hyn ar lechen a'i gofnodi mewn sgrôl,
i fod yn dystiolaeth barhaol i'r dyfodol.
9 Achos maen nhw'n bobl anufudd ac yn blant sy'n twyllo –
plant sy'n gwrthod gwrando
ar beth mae'r
ARGLWYDD yn ei ddysgu.10 Pobl sy'n dweud wrth y rhai sy'n cael gweledigaethau,
“Peidiwch â cheisio gweledigaeth,”
ac wrth y proffwydi, “Peidiwch proffwydo
a dweud wrthon ni beth sy'n iawn.
Dwedwch bethau neis – er eu bod yn gelwydd!
11 Trowch o'r ffordd! Ewch oddi ar y llwybr iawn!
Stopiwch ein hatgoffa ni am Un Sanctaidd Israel!”
12 Felly, dyma mae Un Sanctaidd Israel yn ei ddweud:Am eich bod wedi gwrthod y neges yma,
a dewis rhoi'ch ffydd mewn gormeswr twyllodrus –
13 bydd y bai yma fel wal uchel yn bochio,
ac yn sydyn, mewn chwinciad, mae'n syrthio.
fel jwg pridd yn cael ei falu'n deilchion –
bydd wedi darfod.
Fydd dim un darn yn ddigon o faint
i godi marwor o badell dân neu wagio dŵr o bwll.
15 Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel, yn ei ddweud:“Os trowch yn ôl a trystio cewch eich achub;
wrth aros yn llonydd a chredu y cewch fuddugoliaeth.”
Ond dych chi ddim yn fodlon gwneud hynny.
“Gadewch i ni ddianc ar gefn meirch!” –
a dyna wnewch chi.
“Gadewch i ni farchogaeth yn gyflym!” –
ond bydd y rhai sydd ar eich ôl yn gyflymach!
17 Bydd un gelyn yn bygwth a mil yn dianc;Croes
pump yn bygwth a phawb yn dianc.
Bydd cyn lleied ar ôl, byddan nhw fel
polyn fflag ar ben bryn,
neu faner ar ben mynydd.
bydd yn siŵr o godi i faddau i chi.
Achos mae'r
ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn,ac mae'r rhai sy'n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!
19 Wir i chi, bobl Seion – chi sy'n byw yn Jerwsalem – fyddwch chi ddim yn wylo wedyn. Bydd e'n garedig atoch chi pan fyddwch chi'n galw. Bydd e'n ateb yr eiliad mae'n eich clywed chi. 20 Er bod y Meistr wedi rhoi helynt i chi'n fwyd, a dioddefaint yn ddŵr, fydd y Duw sy'n eich tywys ddim yn cuddio mwyach, byddwch yn ei weld yn eich arwain. 21 Wrth wyro i'r dde neu droi i'r chwith, byddwch yn clywed llais y tu ôl i chi'n dweud: “Dyma'r ffordd; ewch y ffordd yma!” 22 Byddwch yn ffieiddio'r delwau wedi'u gorchuddio ag arian, a'r delwau metel ag aur yn eu gorchuddio. Byddwch yn eu taflu i ffwrdd fel cadach misglwyf, ac yn dweud, “Budreddi!” 23 Bydd e'n rhoi glaw i'r had rwyt wedi'i hau yn y pridd, a bydd y tir yn rhoi cnwd da, cyfoethog. Bydd digonedd o borfa i dy anifeiliaid bryd hynny, 24 a bydd yr ychen a'r asynnod sy'n gweithio ar y tir yn cael eu bwydo gyda'r ebran gorau, wedi'i nithio â fforch a rhaw. 25 Bydd nentydd a ffrydiau o ddŵr yn llifo ar bob mynydd a bryn uchel – ar ddiwrnod y lladdfa fawr pan fydd y tyrau amddiffynnol yn syrthio. 26 Bydd y lleuad yn disgleirio fel yr haul, a bydd yr haul yn disgleirio saith gwaith cryfach nag arfer (fel golau saith diwrnod mewn un!) ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briwiau ei bobl, ac yn iacháu'r anafiadau gawson nhw pan darodd e nhw.yn dod o bell, yn wyllt gynddeiriog,
yn corddi o'i fewn.
Mae'n siarad yn ddig, a'i eiriau fel tân yn difa.
28 Mae ei dymer fel llifogydd gwyllt
yn cyrraedd at y gwddf.
Bydd yn ysgwyd y cenhedloedd
mewn gogr i'w dinistrio,
ac yn rhoi ffrwyn yng ngheg pobloedd
i'w harwain ar gyfeiliorn.
fel petai'n noson i ddathlu gŵyl.
Byddwch yn llawen ac yn dawnsio i gyfeiliant pib
wrth fynd i fynydd yr
ARGLWYDD, Craig Israel. ARGLWYDD yn bloeddio'n uchel,a bydd ei fraich gref yn dod i lawr
ac yn eu taro'n wyllt gynddeiriog,
fel fflamau tân yn difa,
neu gorwynt, storm a chenllysg.
ARGLWYDD yn chwalu Asyria,sef y wialen ddefnyddiodd i daro.
32 Bydd yn eu waldio gyda'r pastwn ddewisodd
ac yn eu curo i gyfeiliant drymiau a thelynau,
pan fydd yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn.
33 Mae'r goelcerth angladdol wedi'i pharatoi cyn hyn;
mae'n barod ar gyfer eu brenin.
Mae'r pwll tân yn ddwfn ac yn llydan,
ac mae digon o goed i'w tanio.
Bydd anadl yr
ARGLWYDDfel llif lafa yn dod i'w llosgi.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity