|
|
1 Gwae'r rhai sy'n mynd i lawr i'r Aifft am help,
a'u ffydd mewn ceffylau rhyfel:
y rhai sy'n dibynnu ar eu holl gerbydau
a'u nifer fawr o farchogion,
yn lle edrych ar Un Sanctaidd Israel
a gofyn am help yr
ARGLWYDD.CroesMae e'n dod â thrwbwl,
a dydy e ddim yn torri ei air.
Bydd yn codi yn erbyn y genedl ddrwg
a'r rhai sy'n ei helpu i bechu.
3 Pobl feidrol ydy'r Eifftiaid, nid Duw,
a'u ceffylau yn gnawd, nid ysbryd!
Pan fydd yr
ARGLWYDD yn estyn ei law,bydd yr helpwr yn baglu
a'r un sy'n cael ei help yn syrthio –
bydd hi wedi darfod ar y ddau gyda'i gilydd!
4 Dyma mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud wrtho i:Fel mae llew, neu lew ifanc,
yn rhuo uwchben ei ysglyfaeth,
a ddim yn dychryn wrth glywed sŵn
criw o fugeiliaid yn dod ar ei ôl;
dyna sut bydd yr
ARGLWYDD hollbwerus yn dod i lawri ymladd dros Fynydd Seion ar ei bryn.
5 Fel mae adar yn hofran yn yr awyr,
bydd yr
ARGLWYDD hollbwerusyn amddiffyn Jerwsalem.
Bydd yn ei hamddiffyn a'i hachub,
yn ei harbed a'i rhyddhau.
6 Blant Israel, trowch yn ôl at yr Un dych chi wedi gwrthryfela mor ddifrifol yn ei erbyn. 7 Bryd hynny bydd pob un ohonoch yn gwrthod yr eilunod o arian ac aur a wnaeth eich dwylo pechadurus.8 “Bydd Asyria'n cael ei difa,
ond nid gan gleddyf dynol;
cleddyf Duw fydd yn eu taro.
Byddan nhw'n ffoi rhag y cleddyf,
ond bydd eu milwyr gorau'n gaethweision.
9 Bydd eu ‛craig‛ yn diflannu mewn dychryn,
a'u swyddogion yn ffoi rhag baner eu gelyn.”
Dyna mae'r
ARGLWYDD yn ei ddweud –yr un sydd â'i dân yn Seion,
a'i ffwrnais yn Jerwsalem.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity