|
|
1 Edrychwch, bydd brenin yn teyrnasu yn gyfiawn,
a'i dywysogion yn rheoli yn deg.
2 Bydd pob un ohonyn nhw fel cysgod rhag y gwynt
a lloches rhag y storm,
fel nentydd o ddŵr mewn tir sych
neu gysgod craig enfawr mewn crasdir.
3 Bydd llygaid y rhai sy'n gweld yn edrych,
a chlustiau'r rhai sy'n clywed yn gwrando.
4 Bydd y difeddwl yn oedi ac yn sylwi,
a thafod y rhai sydd ag atal dweud yn siarad yn glir.
5 Fydd y ffŵl ddim yn cael ei alw'n ŵr bonheddig,
na'r twyllwr yn cael ei anrhydeddu.
6 Achos dweud pethau ffôl mae ffŵl
a chynllunio i wneud pethau drwg.
Mae'n ymddwyn yn annuwiol
ac yn dweud celwydd am yr
ARGLWYDD.Mae'n gadael y newynog hefo stumog wag
ac yn gwrthod rhoi diod i'r sychedig.
7 Mae arfau'r twyllwr yn ddrwg.
Mae'n cynllunio i wneud drwg –
dinistrio pobl dlawd drwy eu twyllo
a cham-drin yr anghenus yn y llys.
8 Ond mae bwriadau'r person anrhydeddus yn dda,
ac mae bob amser yn gwneud beth sy'n nobl.
9 Chi wragedd cyfforddus, safwch!
Gwrandwch arna i!
Chi ferched heb bryder yn y byd,
gwrandwch beth dw i'n ddweud!
cewch chi sydd mor hyderus eich ysgwyd.
Bydd y cynhaeaf grawnwin yn methu,
a dim ffrwyth i'w gasglu.
11 Dylech chi sy'n gyfforddus ddechrau poeni!
Dylech chi sydd mor ddibryder ddechrau crynu!
Tynnwch eich dillad! Stripiwch!
Gwisgwch sachliain am eich canol,
12 ac am y bronnau sy'n galaru!
Dros y caeau hyfryd a'r coed gwinwydd ffrwythlon,
13 dros dir fy mhobl bydd drain a mieri yn tyfu.
Ie, dros yr holl dai hyfryd a'r dre llawn miri.
14 Bydd y palas wedi'i adael a'r ddinas boblog yn wag.
Bydd y tyrau amddiffyn ar y bryniau
yn troi'n foelydd am byth –
yn gynefin i asynnod gwyllt a phorfa i breiddiau.
15 Dyna sut bydd hi, nes i ysbryd oddi uchod gael ei dywallt arnon ni,
i'r anialwch gael ei droi'n gaeau ffrwythlon,
a'r caeau droi'n goedwig.
16 Bryd hynny, bydd cyfiawnder yn aros yn yr anialwch
a thegwch yn cartrefu yn y caeau;
17 bydd cyfiawnder yn arwain i heddwch,
ac wedyn bydd llonydd a diogelwch am byth.
18 Bydd fy mhobl yn byw mewn cymunedau saff,
tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel.
19 Er i'r goedwig gael ei thorri i lawr gan genllysg
ac i'r ddinas orwedd mewn cywilydd,
20 y fath fendith fydd i chi sy'n hau wrth ffrydiau dŵr,
ac yn gollwng yr ych a'r asyn yn rhydd i bori.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity