|
|
1 Dewch yma, chi wledydd, i wrando!
Gwrandwch ar hyn, chi bobloedd y byd!
Boed i'r ddaear a phawb arni wrando –
y byd, a phopeth sydd ynddo.
ARGLWYDD wedi digio gyda'r gwledydd;mae'n wyllt gyda'u holl fyddinoedd,
a bydd yn eu dinistrio a'u lladd nhw.
3 Bydd y rhai gaiff eu lladd yn cael eu taflu allan –
bydd y drewdod yn ofnadwy
a bydd y mynyddoedd wedi'u trochi â'u gwaed.
4 Bydd y sêr i gyd yn diffodd,
a'r awyr yn cael ei rholio fel sgrôl.
Bydd y sêr i gyd yn syrthio
fel dail yn disgyn o'r winwydden,
neu ffrwyth aeddfed oddi ar goeden ffigys.
5 “Bydd fy nghleddyf i'w weld yn yr awyr,
ac edrychwch, bydd yn syrthio ar Edom,
ar y bobl dw i wedi'u dedfrydu i'w difrodi.”Croes
ARGLWYDD am drochi ei gleddyf mewn gwaed,a'i fodloni gyda braster anifeiliaid –
gwaed ŵyn a bychod geifr,
a'r braster ar arennau hyrddod.
Ydy, mae'r
ARGLWYDD yn cynnal aberth yn Bosra,a lladdfa yn Edom.
7 Bydd ychen gwyllt yn syrthio gyda nhw,
bustych a theirw.
Bydd eu tir wedi socian mewn gwaed,
a'r llawr wedi'i orchuddio gan fraster.
ARGLWYDD ddydd i ddial –mae'n bryd i dalu'r pwyth yn ôl ar ran Seion.
9 Bydd afonydd o byg yn gorlifo yn Edom,
a bydd ei phridd yn troi'n lafa.
Bydd ei thir yn troi'n byg sy'n llosgi,
10 a fydd y tân ddim yn diffodd ddydd na nos;
bydd mwg yn codi ohono am byth.
Bydd yn gorwedd yn adfeilion am genedlaethau;
fydd neb yn cerdded y ffordd honno byth bythoedd.
11 Bydd tylluanod a draenogod yn ei meddiannu;
y dylluan wen a'r gigfran fydd yn nythu yno.
Bydd Duw yn ei mesur i achosi anhrefn
ac yn ei phwyso i'w gwagio.
Does dim y fath beth â theyrnas ar ôl!
Mae ei harweinwyr i gyd wedi diflannu.
13 Bydd drain yn tyfu yn ei phlastai,
danadl a mieri yn ei threfi caerog.
Bydd y wlad yn gartref i siacaliaid,
ac yn dir i'r estrys fyw ynddo.
14 Bydd ysbrydion yr anialwch a bwganod yn cyfarfod yno,
a'r gafr-ddemoniaidCroes yn galw ar ei gilydd.
Yno bydd creaduriaid y nos yn gorffwys ac yn nythu,
15 a neidr wenwynig yn gorwedd ar ei hwyau,
i'w deor a gofalu amdanyn nhw.
Bydd adar rheibus hefyd yn casglu yno,
pob un gyda'i gymar.
16 Astudiwch a darllenwch sgroliau'r
ARGLWYDD,heb adael dim allan, a heb golli llinell.
Yr
ARGLWYDD sydd wedi gorchymyn y cwbl,a'i ysbryd e sydd wedi'u casglu at ei gilydd.
17 Fe sydd wedi rhoi ei siâr i bob un
ac wedi rhannu'r tir rhyngddyn nhw hefo llinyn mesur.
Bydd yn etifeddiaeth iddyn nhw am byth –
byddan nhw'n byw yno ar hyd yr oesoedd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity