|
|
1 Bydd yr anialwch a'r tir sych yn llawen,
bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo –
yn blodeuo'n sydyn fel saffrwn.
2 Bydd yn dathlu'n llawen ac yn gweiddi;
bydd ysblander Libanus yn cael ei roi iddi,
a harddwch Carmel a Saron.
Byddan nhw'n gweld ysblander yr
ARGLWYDD,a harddwch ein Duw ni.
a gwnewch y gliniau gwan yn gadarn.
“Byddwch yn ddewr, peidiwch bod ag ofn.
Edrychwch ar eich Duw – mae e'n dod i ddial ar eich gelynion!
Y tâl dwyfol!
Ydy, mae e'i hun yn dod i'ch achub chi!”
5 Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor,
a chlustiau pobl fyddar hefyd.
6 Bydd y cloff yn neidio fel hydd,
a'r mud yn gweiddi'n llawen!
Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch,
ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch.
7 Bydd y tywod poeth yn troi'n bwll dŵr,
a'r tir sych yn ffynhonnau'n ffrydio.
Bydd y fan lle roedd siacaliaid yn gorweddian
yn troi'n gorsydd o frwyn.
8 Bydd priffordd, ie, ffordd yno
sy'n cael ei galw, ‛Y Ffordd Sanctaidd‛.
Fydd neb sy'n aflan yn cael teithio arni –
mae ar gyfer y rhai sy'n cerdded y Ffordd.
Fydd ffyliaid ddim yn crwydro ar ei hyd.
a fydd anifail gwyllt ddim yn dod yn agos ati –
fydd dim i'w gael yno.
Ond bydd y rhai sydd wedi'u rhyddhau
yn cerdded ar ei hyd.
ARGLWYDD yn rhyddyn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu!
Bydd y llawenydd sy'n para am byth
yn goron ar eu pennau!
Byddan nhw'n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd,
am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity