|
|
(2 Brenhinoedd 19:1-13)
1 Pan glywodd y Brenin Heseceia hyn, dyma fe'n rhwygo'i ddillad, gwisgo sachliain a mynd i deml yr ARGLWYDD. 2 A dyma fe'n anfon Eliacim, arolygwr y palas, Shefna, yr ysgrifennydd, a rhai o'r offeiriaid hynaf at y proffwyd Eseia fab Amos. Roedden nhw hefyd yn gwisgo sachliain. 3 A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae Heseceia'n dweud: ‘Mae hi'n ddiwrnod o argyfwng, o gerydd ac o gywilydd, fel petai plant ar fin cael eu geni a'r fam heb ddigon o nerth i'w geni nhw. 4 Petaet ti'n gweddïo dros y rhai ohonon ni sy'n dal ar ôl yn y ddinas, falle y byddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn cymryd sylw o beth ddwedodd y swyddog gafodd ei anfon gan frenin Asyria i enllibio'r Duw byw, ac yn ei gosbi.’” 5 Pan aeth gweision y Brenin Heseceia at Eseia, 6 dyma Eseia'n dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth eich meistr: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid gadael i'r ffaith fod gweision bach brenin Asyria yn gwneud sbort am fy mhen i dy ddychryn di.7 Dw i'n mynd i godi ofn arno fe.
Bydd e'n clywed si am rywbeth
ac yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun.
Bydda i'n gwneud iddo gael ei ladd
â'r cleddyf yn ei wlad ei hun.”’”
(2 Brenhinoedd 19:8-13)
8 Yn y cyfamser, roedd prif swyddog brenin Asyria wedi mynd yn ôl a darganfod fod ei feistr wedi gadael Lachish a'i fod yn ymladd yn erbyn tref Libna. 9 Roedd wedi clywed fod y Brenin Tirhaca (oedd o dras Affricanaidd) Ref ar ei ffordd i ymosod arno. Felly, dyma fe'n anfon negeswyr at Heseceia eto: 10 “Dwedwch wrth Heseceia, brenin Jwda: ‘Peidiwch gadael i'r Duw dych chi'n ei drystio eich twyllo chi i feddwl na fydd Jerwsalem yn syrthio i ddwylo brenin Asyria. 11 Dych chi'n gwybod yn iawn fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r gwledydd eraill i gyd. Ydych chi'n mynd i ddianc? 12 Gafodd y gwledydd ddinistriodd fy rhagflaenwyr eu hachub gan eu duwiau? – Beth am Gosan, Haran, Retseff, a phobl Eden oedd yn Telassar? 13 Ble mae brenin Chamath? Neu frenin Arpad? Neu frenhinoedd Lahir, Seffarfaîm, Hena, ac Ifa?’”(2 Brenhinoedd 19:14-19)
14 Ar ôl i Heseceia gymryd y llythyr gan y negeswyr, a'i ddarllen, aeth i'r deml a'i osod allan o flaen yr ARGLWYDD. 15 Yna dyma Heseceia'n gweddïo: 16 “O ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, sy'n eistedd ar dy orsedd uwchben y cerwbiaid. Ti sydd Dduw – yr unig un – dros deyrnasoedd y byd i gyd. Ti wnaeth greu'r bydysawd a'r ddaear.Croes 17 O ARGLWYDD, plîs gwrando! Agor dy lygaid, ARGLWYDD! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy'n enllibio'r Duw byw! 18 ARGLWYDD, mae'n wir fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r bobloedd i gyd, a'u tiroedd, 19 ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi'u cerfio gan bobl, i'w haddoli. 20 Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r ARGLWYDD, yr unig un go iawn.”(2 Brenhinoedd 19:20-34)
21 Yna dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Am dy fod ti wedi gweddïo am Senacherib, brenin Asyria, 22 dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud yn ei erbyn:“Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di!
Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben!
Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phen
tu ôl i dy gefn.
23 Pwy wyt ti'n ei enllibio a'i wawdio?
Yn erbyn pwy wyt ti'n codi dy lais,
ac yn troi dy lygaid yn sarhaus?
Yn erbyn Un Sanctaidd Israel!
24 Ti wedi defnyddio dy weision
i enllibio'r Meistr, a dweud,
‘Gyda'r holl gerbydau rhyfel sydd gen i
dringais i ben y mynyddoedd uchaf, ac i ben draw Libanus.
Torrais i lawr y coed cedrwydd talaf, a'r coed pinwydd gorau,
er mwyn cyrraedd copa uchaf y llechweddau coediog.
25 Dw i wedi cloddio ffynhonnau ac yfed o'u dŵr.
Sychais holl ganghennau afon Nîl hefo gwadn fy nhraed.’
26 Mae'n rhaid dy fod wedi clywed!
Fi sydd wedi trefnu'r cwbl ers talwm –
mae'r cwbl wedi'i gynllunio ers amser maith,
a nawr dw i'n troi'r cwbl yn ffaith:
i ti droi caerau yn bentyrrau o rwbel.
27 Does gan y bobl sy'n byw ynddyn nhw ddim nerth,
maen nhw'n ddigalon, ac wedi'u cywilyddio.
Maen nhw fel planhigion mewn cae, neu dyfiant ar ben to
wedi'i grino gan wynt y dwyrain.
28 Dw i'n gwybod popeth amdanat ti
– dy symudiadau di i gyd,
a sut rwyt ti wedi bod yn strancio yn fy erbyn i.
29 Am dy fod ti wedi strancio yn fy erbyn i,
a minnau wedi gorfod gwrando ar dy eiriau haerllug,
dw i'n mynd i roi bachyn drwy dy drwyn a ffrwyn yn dy geg,
a gwneud i ti fynd yn ôl y ffordd daethost.”
30 A dyma fydd yr arwydd i ti, Heseceia, fod hyn yn wir:Byddi'n bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun eleni,
a'r flwyddyn nesa beth fydd wedi tyfu o hwnnw.
Ond y flwyddyn wedyn cewch hau a medi,
plannu gwinllannoedd a bwyta'u ffrwyth nhw.
31 Bydd y bobl yn Jwda sydd wedi dianc a'u gadael ar ôl
yn bwrw eu gwreiddiau eto, ac yn dwyn ffrwyth.
32 Bydd y rhai sy'n weddill yn lledu allan o Jerwsalem;
y rhai o Fynydd Seion wnaeth ddianc.
Mae'r
ARGLWYDD hollbwerus yn benderfynolo wneud hyn i gyd.’
33 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am frenin Asyria:‘Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma.
Fydd e ddim yn saethu saeth i mewn iddi;
fydd e ddim yn ymosod arni hefo tarian,
nac yn codi rampiau i warchae yn ei herbyn.
34 Bydd e'n mynd yn ôl y ffordd ddaeth e.
Na, fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma.’
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn. 35 ‘Dw i'n mynd i amddiffyn ac achub y ddinas yma, er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’”(2 Brenhinoedd 19:35-37)
36 A dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd allan ac yn taro cant wyth deg pum mil o filwyr Asyria. Erbyn y bore wedyn roedden nhw i gyd yn gyrff meirw. 37 Felly dyma Senacherib, brenin Asyria, yn codi ei wersyll, mynd yn ôl i Ninefe ac aros yno. 38 Un diwrnod, pan oedd e'n addoli yn nheml ei dduw Nisroch, dyma'i feibion, Adram-melech a Saretser, yn ei ladd gyda'r cleddyf ac yna'n dianc i ardal Ararat. Ref A dyma fab arall iddo, Esar-chadon, Ref yn dod yn frenin yn ei le.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity