|
|
(2 Brenhinoedd 20:1-11; 2 Cronicl 32:24-26)
1 Tua'r adeg yna roedd Heseceia'n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw. Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: rho drefn ar dy bethau, achos ti'n mynd i farw; fyddi di ddim yn gwella.” 2 Ond dyma Heseceia yn troi at y wal ac yn gweddïo, 3 “O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crio. 4 Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Eseia: 5 “Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud (Duw Dafydd dy dad): “Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i'n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti. 6 Dw i'n mynd i dy achub di a'r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i'n amddiffyn y ddinas yma. 7 A dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i brofi y bydd e'n gwneud beth mae e wedi'i addo: 8 Edrych! Dw i'n mynd i wneud i'r cysgod sydd wedi disgyn ar risiau Ahas fynd yn ôl i fyny ddeg gris.”’” Yna dyma gysgod yr haul yn codi oddi ar ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi disgyn arnyn nhw. 9 Dyma ysgrifennodd Heseceia, brenin Jwda, ar ôl iddo wella o'i salwch: 10 “Meddyliais,‘Dw i'n mynd i farw, a minnau'n ddim ond canol oed.
Dw i wedi cael fy anfon drwy giatiau Annwn Ref
am weddill fy nyddiau.’
11 Meddyliais:‘Ga i byth weld yr
ARGLWYDDyn y bywyd hwn eto,
nac edrych ar y ddynoliaeth
fel y rhai sydd wedi peidio â bod.’
12 Mae fy mywyd wedi'i gymryd oddi arna i
a'i symud fel pabell bugail.
Roedd fy mywyd wedi ei rolio i fyny fel lliain
wedi'i dorri i ffwrdd o'r wŷdd.
Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.
13 Yn y bore, roedd fel petai llew yn malu fy esgyrn i gyd.
Rhwng y bore a'r nos byddet wedi rhoi diwedd arna i.
14 Dw i'n trydar fel gwennol neu durtur,
ac yn cŵan fel colomen,
wrth i'm llygaid blinedig fethu edrych i fyny.
‘Fy
ARGLWYDD, dw i'n cael fy llethu!Achub fi!’
Dwedodd wrtho i beth fyddai'n ei wneud,
a dyna wnaeth e!
Roedd rhaid i mi gerdded yn ofalus
am fod fy enaid mor chwerw.
16 Mae fy arglwydd wedi fy nghuddio,
ac mae bywyd yn fy nghalon eto.
Mae'r
ARGLWYDD wedi rhoi gorffwys i mi.‘Rwyt ti'n fy iacháu ac wedi fy nghadw'n fyw.’
17 Yn wir, roedd yr holl chwerwder yma
yn lles i mi:
‘Ceraist fi, a'm hachub o bwll difodiant,
a thaflu fy holl bechodau tu ôl i ti.’
18 ‘Dydy'r rhai sydd yn Annwn Ref ddim yn diolch i ti,
a dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy foli di.
Dydy'r rhai sydd wedi disgyn i'r pwll
ddim yn gobeithio yn dy ffyddlondeb di.
19 Y rhai byw, dim ond y rhai byw
sy'n gallu diolch i ti fel dw i'n gwneud heddiw.
Mae tad yn dweud wrth ei blant
am dy ffyddlondeb di:
ARGLWYDD wedi'n hachub ni!Gadewch i ni ganu offerynnau cerdd
yn nheml yr
ARGLWYDDweddill ein bywydau!’”
21 Roedd Eseia wedi dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi'u gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.” 22 Roedd Heseceia wedi gofyn, “Pa arwydd ga i y bydda i'n mynd i fyny i deml yr ARGLWYDD eto?”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity