|
|
bydd saith o ferched yn gafael mewn un dyn,
ac yn dweud, “Gad i ni dy briodi di –
Gwnawn fwyta ein bwyd ein hunain,
a gwisgo'n dillad ein hunain.
Ond cymer ein cywilydd ni i ffwrdd!” Ref
bydd blaguryn yr
ARGLWYDDyn rhoi harddwch ac ysblander,
a bydd ffrwyth y tir
yn cynnig urddas a mawredd
i'r ychydig rai fydd ar ôl yn Israel.
3 Bydd y rhai sydd ar ôl yn Seion
ac wedi'u gadael yn Jerwsalem
yn cael eu galw'n sanctaidd –
pawb yn Jerwsalem sydd i fod i gael byw.
ARGLWYDD wedi glanhaubudreddi merched Seion,
bydd yn cael gwared ag euogrwydd Jerwsalem –
drwy farnu a charthu.
ARGLWYDD yn dod â chwmwl yn y dydda thân yn llosgi yn y nos,Croes
a'u gosod uwchben y cysegr a'r man cyfarfod ar Fynydd Seion.
Yn wir, bydd ei ysblander yn hongian fel canopi dros bopeth.
6 Bydd fel caban i gysgodi rhag y gwres yn ystod y dydd,
ac yn lloches i gysgodi rhag y storm o law.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity