|
|
1 Byddwch dawel a gwrando, ynysoedd;
dw i am i'r bobloedd gael nerth newydd.
Boed iddyn nhw nesáu i ddweud eu dweud.
Gadewch i ni ddod at ein gilydd yn y llys barn.
2 Pwy sydd wedi codi'r un o'r dwyrain? Ref
Pwy mae Cyfiawnder yn ei alw i'w ddilyn?
Mae'n rhoi gwledydd iddo eu concro,
ac i fwrw eu brenhinoedd i lawr.
Mae ei gleddyf yn eu gwneud fel llwch,
a'i fwa yn eu gyrru ar chwâl fel us.
ac yn pasio heibio'n ddianaf;
dydy ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr!
4 Pwy sydd wedi gwneud hyn i gyd?
Pwy alwodd y cenedlaethau o'r dechrau? –
Fi, yr
ARGLWYDD, oedd yno ar y dechraua bydda i yno yn y diwedd hefyd. Fi ydy e!
5 Mae'r ynysoedd yn gweld, ac maen nhw'n ofni;
mae pob cwr o'r ddaear yn crynu.
Dyma nhw'n dod, maen nhw'n agos!
ac mae un yn annog y llall, “Bydd yn ddewr!”
7 Mae'r saer coed yn annog y gof aur,
a'r un sy'n bwrw gyda'r morthwyl
yn annog yr un sy'n taro'r einion.
Mae'n canmol y gwaith sodro, “Mae'n dda!”
ac yna'n ei hoelio'n saff, a dweud,
“Fydd hwnna ddim yn symud!”
8 Ond Israel, ti ydy fy ngwas i,Croes
Jacob, ti dw i wedi'i ddewis –
disgynyddion Abraham, fy ffrind i.
a'th alw o ben draw'r byd,
a dweud wrthot ti: “Ti ydy fy ngwas i.”
Dw i wedi dy ddewis di!
Dw i ddim wedi troi cefn arnat ti!
10 Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti.Croes
Paid dychryn – fi ydy dy Dduw di!
Dw i'n dy nerthu di ac yn dy helpu di,
dw i'n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde.
11 Bydd pawb sy'n codi yn dy erbyn di
yn cael eu cywilyddio a'u drysu.
Bydd y rhai sy'n ymladd yn dy erbyn di
yn diflannu ac yn marw.
12 Byddi'n edrych am y rhai sy'n ymosod arnat ti
ac yn methu dod o hyd iddyn nhw.
Bydd y rhai sy'n rhyfela yn dy erbyn di
yn diflannu ac yn peidio â bod.
ARGLWYDD, ydy dy Dduw di,yn rhoi cryfder i dy law dde di,
ac yn dweud wrthot ti: “Paid bod ag ofn.
Bydda i'n dy helpu di.”
14 Paid bod ag ofn, y pryf Jacob,
y lindys bach Israel –
Bydda i'n dy helpu di!
—meddai'r
ARGLWYDD.Fi sy'n dy ryddhau di, sef Un Sanctaidd Israel.
15 Bydda i'n dy wneud di yn sled ddyrnu –
un newydd, hefo llawer iawn o ddannedd.
Byddi'n dyrnu mynyddoedd a'u malu
ac yn gwneud bryniau fel us.
a bydd gwynt stormus yn eu chwythu i ffwrdd.
Bydd corwynt yn eu gyrru ar chwâl.
Ond byddi di'n llawenhau yn yr
ARGLWYDD,Ac yn canu mawl i Un Sanctaidd Israel.
17 Ond am y bobl dlawd ac anghenus
sy'n chwilio am ddŵr ac yn methu cael dim,
ac sydd bron tagu gan syched,
bydda i, yr
ARGLWYDD, yn eu hateb nhw;fydda i, Duw Israel, ddim yn eu gadael nhw.
18 Bydda i'n gwneud i nentydd lifo ar y bryniau anial,
ac yn agor ffynhonnau yn y dyffrynnoedd.
Bydda i'n troi'r anialwch yn byllau dŵr,
a'r tir sych yn ffynhonnau.
19 Bydda i'n plannu coed cedrwydd yno,
coed acasia, myrtwydd, ac olewydd;
bydda i'n gosod coed cypres,
coed llwyfen a choed pinwydd hefyd –
20 er mwyn i bobl weld a gwybod,
ystyried a sylweddoli
mai'r
ARGLWYDD sydd wedi gwneud hyn,ac mai Un Sanctaidd Israel sydd wedi peri iddo ddigwydd.
21 “Cyflwynwch eich achos,” meddai'r
ARGLWYDD.“Sut ydych chi am bledio?” meddai Brenin Jacob.
22 “Dewch â'ch duwiau yma i ddweud wrthon ni
beth sy'n mynd i ddigwydd.
Beth am ddweud wrthon ni beth broffwydon nhw yn y gorffennol –
i ni allu penderfynu wrth weld y canlyniadau,
neu ddweud beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol?
23 Dwedwch wrthon ni beth sydd i ddod,
er mwyn i ni gael gwybod eich bod chi'n dduwiau!
Gwnewch rywbeth – da neu ddrwg –
fydd yn gwneud i ni ryfeddu!
24 Ond y gwir ydy, dych chi ddim yn bod;
allwch chi wneud dim byd o gwbl!
Mae rhywun sy'n dewis eich addoli chi yn ffiaidd!
25 Fi wnaeth godi'r un o'r gogledd, ac mae wedi dod:
yr un o'r dwyrain sy'n galw ar fy enw i.
Mae wedi sathru arweinwyr fel sathru mwd
neu fel mae crochenydd yn sathru clai.
26 Pwy arall ddwedodd am hyn wrthon ni o'r dechrau?
Pwy wnaeth ddweud am y peth ymlaen llaw,
i ni allu dweud, ‘Roedd e'n iawn!’?
Wnaeth neb sôn am y peth – ddwedodd neb ddim.
Na, does neb wedi'ch clywed chi'n dweud gair!
27 Fi wnaeth ddweud gyntaf wrth Seion:
‘Edrychwch! Maen nhw'n dod!’
Fi wnaeth anfon negesydd gyda newyddion da i Jerwsalem!
28 Dw i'n edrych, a does yr un o'r rhain
yn gallu rhoi cyngor nac ateb cwestiwn gen i.
29 Y gwir ydy, eu bod nhw'n afreal –
dŷn nhw'n gallu gwneud dim byd o gwbl!
Mae eu delwau metel mor ddisylwedd ag anadl!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity