|
|
1 Gwrandwch ar hyn, bobl Jacob –
chi sy'n cael eich galw wrth yr enw ‛Israel‛
ac yn ddisgynyddion i Jwda,
sy'n tyngu i enw'r
ARGLWYDDac yn galw ar Dduw Israel –
ond heb fod yn ddidwyll wrth wneud hynny.
2 (Maen nhw'n galw eu hunain yn ‛bobl y ddinas sanctaidd‛,
ac yn honni pwyso ar Dduw Israel,
sef yr
ARGLWYDD hollbwerus):3 “Dw i wedi sôn ers talwm am y pethau fyddai'n digwydd;
dwedais yn glir i bawb glywed.
Yna'n sydyn gweithredais, a dyma nhw'n digwydd.
4 Rôn i'n gwybod mor benstiff wyt ti –
mae gewynnau dy wddf fel haearn
a dy dalcen yn galed fel pres.
5 Dyna pam wnes i roi gwybod i ti'n bell yn ôl,
a dweud yn glir cyn i ddim ddigwydd –
rhag i ti ddweud, ‘Fy eilun-dduw wnaeth hyn,
fy eilun a'm delw metel wnaeth ei drefnu.’
6 Ti wedi clywed hyn i gyd; edrych,
pam wnei di ddim cydnabod y peth?
A nawr dw i'n mynd i ddweud pethau newydd,
pethau cudd allet ti ddim eu gwybod o'r blaen
7 pethau newydd sbon, ddim o'r gorffennol.
Ti ddim wedi clywed hyn cyn heddiw,
rhag i ti ddweud, ‘Rôn i'n gwybod hynny!’
8 Ti ddim wedi clywed, a ti ddim yn gwybod;
allet ti ddim bod wedi clywed hyn o'r blaen.
Er fy mod i'n gwybod dy fod ti'n twyllo
ac yn cael dy alw'n rebel ers i ti gael dy eni,
9 dw i wedi atal fy llid er mwyn cadw fy enw da
a bod yn amyneddgar er mwyn i mi gael fy moli;
dw i wedi ymatal rhag dy ddinistrio di.
10 Edrych, dw i wedi dy buro di, ond nid fel arian;
dw i wedi dy brofi di yn ffwrnais dioddefaint.
11 Er fy mwyn fy hun yn unig dw i'n gwneud hyn –
pam ddylai fy enw da gael ei halogi?
Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall!
12 Gwrandwch arna i, bobl Jacob,
ac Israel, y rhai dw i wedi'u galw:
Fi ydy e – fi ydy'r cyntaf,
a fi ydy'r olaf hefyd.
13 Gosodais sylfeini'r ddaear gyda'm dwylo fy hun,
a lledu'r awyr gyda'm llaw dde.
Dw i'n eu galw nhw,
ac maen nhw'n sefyll gyda'i gilydd.
14 ‘Dewch at eich gilydd i gyd, a gwrando!
Pa un o'ch duwiau ddwedodd am y pethau yma? –
y bydd ffrind Ref yr
ARGLWYDDyn cyflawni ei fwriad yn erbyn Babilon,
ac yn defnyddio'i holl nerth yn erbyn pobl Caldea.’ Ref
Fi ddaeth ag e allan, a bydd yn llwyddo.
16 Dewch ata i yma i glywed hyn:
‘Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol erioed;
a phan mae'n digwydd dw i yna.’”
Felly nawr mae fy Meistr, sef yr
ARGLWYDD,wedi fy anfon i gyda'i ysbryd.
17 Dyma mae'r ARGLWYDD sy'n dy ollwng yn rhydd yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel:“Fi ydy'r
ARGLWYDD dy Dduw,sy'n dy ddysgu di er dy les,
ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.
18 O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion!
Byddai dy heddwch yn llifo fel afon,
a dy gyfiawnder fel tonnau'r môr.
19 Byddai gen ti ddisgynyddion fel y tywod,
a plant mor niferus â'r gronynnau o dywod.
Fyddai eu henw nhw ddim wedi'i dorri i ffwrdd
a'i ddileu o'm gŵydd i.
20 Ewch allan ar frys o Babilon,
dianc oddi wrth bobl Caldea!
Dwedwch beth sy'n digwydd a gweiddi'n llawen.
Cyhoeddwch y peth!
Anfonwch y neges i ben draw'r byd!
Dwedwch: ‘Mae'r
ARGLWYDD wedi gollwngei was Jacob yn rhydd!
21 Wnaethon nhw ddim profi syched,
er iddo eu harwain nhw drwy'r anialwch.
Gwnaeth i ddŵr lifo o'r graig iddyn nhw;
holltodd y graig a dyma ddŵr yn tasgu allan.’
22 Does dim heddwch i bobl ddrwg.”Croes—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity