|
|
“Ble mae'r dystysgrif ysgariad rois i i'ch mam
pan anfonais hi i ffwrdd?
I bwy oeddwn i mewn dyled
nes gorfod eich gwerthu chi iddyn nhw?
Cawsoch eich gwerthu am fod mor ddrwg;
cafodd eich mam ei hanfon i ffwrdd am eich bod wedi gwrthryfela.
2 Pam oedd neb yna pan ddes i?
Pam wnaeth neb ateb pan oeddwn i'n galw?
Ydy fy llaw i'n rhy wan i ryddhau?
Ydw i'n rhy wan i achub?
Edrychwch! Fi wnaeth geryddu'r môr a'i sychu!
Galla i droi afonydd yn anialwch!
Roedd pysgod yn pydru am eu bod heb ddŵr,
wedi marw o syched!
3 Galla i wisgo'r awyr mewn du
a'i gorchuddio â sachliain.”
dafod i mi siarad ar ei ran;
dw i wedi dysgu sut i gysuro'r blinedig.
Bob bore mae'n fy neffro i ac yn fy nghael i wrando
fel mae disgybl yn gwrando ac yn dysgu.
ARGLWYDD, wedi fy nysgu i wrando,a dw i ddim wedi gwrthryfela
na throi fy nghefn arno.
6 Rhoddais fy nghefn i'r rhai oedd yn fy chwipio,
a'm gên i'r rhai oedd yn tynnu'r farf.
Wnes i ddim cuddio fy wyneb
oddi wrth yr amarch a'r poeri.
ARGLWYDD, yn fy helpu –felly dw i ddim yn derbyn yr amarch.
Dw i'n gwneud fy wyneb yn galed fel fflint,
a dw i'n gwybod na fydda i'n cywilyddio.
8 Mae'r un sy'n fy amddiffyn i wrth fy ymyl –
pwy sy'n meiddio ymladd yn fy erbyn?
Gadewch i ni wynebu'n gilydd!
pwy sydd am fy ngwrthwynebu i?
Gadewch iddo ddod ata i!
ARGLWYDD yn fy helpu i –pwy sy'n mynd i'm cael yn euog o wneud drwg?
Edrychwch! Byddan nhw'n treulio fel dilledyn;
bydd gwyfyn yn eu difetha nhw.
ARGLWYDD?Pwy sy'n gwrando ar lais ei was?
Dylai'r sawl sy'n cerdded mewn tywyllwch dudew,
heb olau ganddo o gwbl,
drystio'r
ARGLWYDDa phwyso ar ei Dduw.
11 Ond chi sy'n cynnau'ch tân eich hunain
ac yn paratoi ffaglau –
cerddwch yng ngolau fflam eich tân
a'r ffaglau ydych wedi'u tanio!
Dyma fydd yn dod i chi o'm llaw i:
byddwch chi'n gorwedd i gael eich poenydio!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity