|
|
1 Deffra! Deffra! Dangos dy nerth, Seion!
Gwisga dy ddillad hardd,
Jerwsalem, y ddinas sanctaidd!
Fydd y paganiaid aflan sydd heb eu henwaedu
byth yn dod i mewn i ti eto.
2 Cod ar dy draed, ac ysgwyd y llwch oddi arnat,
eistedd ar dy orsedd, Jerwsalem!
Tynna'r gefynnau oddi am dy wddf
Seion, y gaethferch hardd!
3 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Cawsoch eich gwerthu am ddim,
a fydd arian ddim yn eich rhyddhau chi.”
4 Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:“I ddechrau, aeth fy mhobl i fyw dros dro yn yr Aifft;
ac wedyn dyma Asyria yn eu gormesu nhw.
5 Felly, beth sy'n digwydd yma?”
—meddai'r
ARGLWYDD.“Mae fy mhobl wedi'u cipio i ffwrdd am ddim rheswm,
ac mae'r rhai sy'n eu rheoli yn gwawdio.”
—meddai'r
ARGLWYDD.“Mae pethau drwg yn cael eu dweud amdana i drwy'r amser.
6 Ond bryd hynny bydd fy mhobl yn fy nabod,
ac yn gwybod mai fi ydy'r un sy'n dweud,
‘Dyma fi!’”
yn dod dros y mynyddoedd
yn cyhoeddi fod heddwch.
Mae ganddo newyddion da –
mae e'n cyhoeddi achubiaeth
ac yn dweud wrth Seion,
“Dy Dduw di sy'n teyrnasu!”
8 Clyw! Mae'r rhai sy'n gwylio dy furiau yn galw;
maen nhw'n gweiddi'n llawen gyda'i gilydd!
Maen nhw'n gweld, o flaen eu llygaid,
yr
ARGLWYDD yn dod yn ôl i Seion.adfeilion Jerwsalem!
Mae'r
ARGLWYDD yn cysuro'i boblac yn mynd i ollwng Jerwsalem yn rhydd.
ARGLWYDD wedi dangos ei nerthi'r cenhedloedd i gyd,
ac mae pobl o ben draw'r byd yn gweld
ein Duw ni yn achub.
11 Ewch! Ewch! I ffwrdd â chi!
Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan!
Chi sy'n cario llestri'r
ARGLWYDD,Croescadwch eich hunain yn lân wrth fynd allan oddi yno.
12 Ond does dim rhaid i chi adael ar frys
na dianc fel ffoaduriaid,
achos mae'r
ARGLWYDD yn mynd o'ch blaen chi,ac mae Duw Israel yn eich amddiffyn o'r tu cefn.
13 “Edrychwch! Bydd fy ngwas yn llwyddo;
bydd yn cael ei ganmol a'i godi yn uchel iawn.
14 Fel roedd llawer wedi dychryn o'i weld
yn edrych mor ofnadwy – prin yn ddynol
(doedd e ddim yn edrych fel dyn),
15 bydd e'n puro Ref llawer o genhedloedd.
Bydd brenhinoedd yn fud o'i flaen –
byddan nhw'n gweld rhywbeth oedd heb ei egluro,
ac yn deall rhywbeth roedden nhw heb glywed amdano.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity