|
|
1 “Hei! Os oes syched arnoch chi, dewch at y dŵr!
Os nad oes gynnoch chi arian, dewch beth bynnag!
Prynwch a bwytwch.
Dewch! Prynwch win a llaeth heb arian – mae am ddim!
2 Pam gwario'ch arian ar rywbeth sydd ddim yn fwyd,
a'ch cyflog ar rywbeth sydd ddim yn bodloni?
Gwrandwch yn ofalus arna i!
Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion.
3 Gwrandwch arna i, a dewch yma.
Os gwnewch chi wrando, cewch fyw!
Bydda i'n gwneud ymrwymiad hefo chi
fydd yn para am bythCroes –
fel y bendithion sicr wnes i eu haddo i Dafydd.Croes
4 Gwnes i e'n dyst i bobloedd,
yn arweinydd yn rheoli gwledydd.”
5 Byddi di'n galw ar genedl wyt ti ddim yn ei nabod,
a bydd cenedl sydd ddim yn dy nabod di
yn rhedeg atat ti – o achos yr
ARGLWYDD dy Dduw,Un Sanctaidd Israel sydd wedi dy anrhydeddu di.
ARGLWYDD tra mae ar gael!Galwch arno tra mae'n agos!
7 Rhaid i'r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg,
a'r rhai sy'n creu helynt ar eu bwriadau –
troi'n ôl at yr
ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd;troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau.
8 Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath â'ch bwriadau chi,
a dydy fy ffyrdd i ddim yr un fath â'ch ffyrdd chi
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.9 Fel mae'r nefoedd gymaint uwch na'r ddaear,
mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chi,
a'm bwriadau i yn well na'ch bwriadau chi.
10 Ond fel y glaw a'r eira sy'n disgyn o'r awyr
a ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio'r ddaear
gan wneud i blanhigion dyfu
a rhoi hadau i'w hau a bwyd i'w fwyta,
11 felly mae'r neges dw i'n ei chyhoeddi:
dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith –
mae'n gwneud beth dw i eisiau,
ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas.
12 Ie, byddwch chi'n mynd allan yn llawen
ac yn cael eich arwain mewn heddwch.
Bydd y mynyddoedd a'r bryniau'n bloeddio canu o'ch blaen,
a'r coed i gyd yn curo dwylo.
13 Bydd coed pinwydd yn tyfu yn lle drain,
a llwyni myrtwydd yn lle mieri.
Byddan nhw'n sefyll yno i atgoffa pobl am yr
ARGLWYDD,fel arwydd parhaol fydd ddim yn cael ei dynnu i lawr.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity