|
|
“Sanctaidd! Sanctaidd! Mor sanctaidd
ydy'r
ARGLWYDD hollbwerus!Mae ei ysblander yn llenwi'r ddaear gyfan!”
4 Roedd sylfeini ffrâm y drws yn ysgwyd wrth iddyn nhw alw, a'r neuadd yn llenwi gyda mwg. 5 Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i'n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda'm llygaid fy hun – yr ARGLWYDD hollbwerus.” 6 Yna dyma un o'r seraffiaid yn hedfan ata i, ac roedd ganddo farworyn poeth wedi'i gymryd oddi ar yr allor mewn gefel. 7 Cyffyrddodd fy ngwefusau gydag e, a dweud, “Edrych, mae hwn wedi cyffwrdd dy wefusau di, felly mae dy euogrwydd di wedi mynd, a thalwyd iawn am dy bechod.” 8 Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i'n mynd i'w anfon? Pwy sy'n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi'n dweud, “Dyma fi; anfon fi.” 9 Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma:‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall;
edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’
tro eu clustiau'n fyddar,
a chau eu llygaid –
rhag iddyn nhw weld â'u llygaid,
clywed â'u clustiau,
deall go iawn,
a throi a chael eu hiacháu.”
11 Dyma fi'n gofyn, “Am faint o amser, fy Arglwydd?” A dyma fe'n ateb:“Nes bydd trefi wedi'u dinistrio
a neb yn byw ynddyn nhw:
tai heb bobl ynddyn nhw,
a'r tir wedi'i ddifetha a'i adael yn ddiffaith.”
ARGLWYDD yn gyrru'r boblogaeth i ffwrdd –a bydd llawer iawn o ardaloedd gwag drwy'r wlad.
13 Ond os bydd un rhan o ddeg ar ôl,
fydd honno eto'n cael ei losgi?
“Bydd fel coeden anferth neu dderwen wedi'i thorri i lawr,
a dim ond boncyff ar ôl.
Ond bydd y boncyff yn ddechrau newydd,
fel had sanctaidd.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity