|
|
1 “Cod! Disgleiria! Mae dy olau wedi dod.
Mae ysblander yr
ARGLWYDD wedi gwawrio arnat!2 Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear
a thywyllwch dudew dros y gwledydd,
bydd yr
ARGLWYDD yn tywynnu arnat ti,a bydd ei ysblander i'w weld arnat.
3 Bydd cenhedloedd yn dod at dy oleuni,
a brenhinoedd yn troi at dy wawr ddisglair.
Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw'n dod atat ti!
Bydd dy feibion yn dod o wledydd pell,
a dy ferched yn cael eu cario adre.
5 Pan weli hyn byddi'n wên i gyd;
bydd dy galon yn curo wrth brofi'r wefr.
Bydd cyfoeth y moroedd yn cael ei roi i ti,
a chyfoeth y gwledydd yn dod atat.
6 Bydd gyrroedd o gamelod yn llenwi dy strydoedd,
camelod o Midian, Effa a Sheba. Ref
Byddan nhw'n cario aur a thus,
ac yn canu mawl i'r
ARGLWYDD.7 Bydd holl ddefaid a geifr Cedar yn cael eu casglu atat,
a bydd hyrddod Nebaioth Ref yna i ti eu defnyddio;
byddan nhw'n aberthau derbyniol ar fy allor i.
Bydda i'n gwneud fy nhŷ hardd yn harddach fyth!
8 Pwy ydy'r rhain sy'n symud fel cwmwl,
ac yn hedfan fel colomennod i'w nythod?
9 Mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu,
a llongau masnach Tarshish Ref ar y blaen.
Maen nhw'n dod â dy blant o bell,
a'u harian a'u haur hefo nhw,
i'w cyflwyno i'r
ARGLWYDD dy Dduw –Un Sanctaidd Israel, sydd wedi dy anrhydeddu.
10 Bydd estroniaid yn ailadeiladu dy waliau,
a'u brenhinoedd nhw yn dy wasanaethu di.
Achos, er fy mod wedi dy daro di pan oeddwn i'n ddig,
dw i am ddangos tosturi a bod yn garedig.
11 Bydd dy giatiau ar agor drwy'r amser;
fyddan nhw ddim yn cael eu cau ddydd na nos –
er mwyn i gyfoeth y cenhedloedd
a'u brenhinoedd gael ei gario i mewn.
sy'n gwrthod dy wasanaethu yn syrthio;
bydd y gwledydd hynny'n cael eu dinistrio'n llwyr.
13 Bydd coed gorau Libanus yn dod i ti –
coed cypres, planwydd a phinwydd i harddu fy nghysegr,
ac anrhydeddu'r lle mae fy nhraed i'n gorffwys.
14 Bydd plant y rhai oedd yn dy ormesu
yn dod o dy flaen ac ymgrymu.
Bydd y rhai oedd yn dy gasáu
yn plygu'n isel ar y llawr wrth dy draed di.
Byddan nhw'n dy alw di yn ‘Ddinas yr
ARGLWYDD’,a ‘Seion Un Sanctaidd Israel’.
a dy gasáu, a neb yn mynd drwot ti,
bydda i'n dy wneud di'n destun balchder am byth –
yn llawenydd o un genhedlaeth i'r llall.
16 Byddi'n yfed o laeth y cenhedloedd,
ac yn sugno bronnau brenhinoedd.
Wedyn byddi di'n gwybod
mai fi ydy'r
ARGLWYDD sy'n dy achub,Ie, fi, Un Cryf Jacob, sy'n dy ollwng di'n rhydd.
17 Bydda i'n dod ag aur yn lle pres ac arian yn lle haearn,
pres yn lle coed a haearn yn lle cerrig.
‛Heddwch‛ fydd yn llywodraethu arnat,
a ‛Cyfiawnder‛ fydd dy feistr.
18 Fydd neb yn gweiddi ‘Trais!’ yn y wlad byth eto,
a fydd dim dinistr o fewn dy ffiniau.
Byddi'n galw dy waliau yn ‛Achubiaeth‛
a dy giatiau yn ‛Foliant‛.
19 Fydd dim angen yr haul i oleuo'r dydd,
na llewyrch y lleuad yn olau yn y nos.
Yr
ARGLWYDD fydd dy olau di am byth,a bydd ysblander dy Dduw yn disgleirio arnat.
20 Fydd dy haul ddim yn machlud byth mwy,
a llewyrch y lleuad ddim yn cilio;
yr
ARGLWYDD fydd dy olau di am byth,a bydd dy gyfnod o alaru drosodd.
21 Bydd dy bobl i gyd yn gyfiawn,
ac yn etifeddu'r tir am byth.
Nhw ydy'r blagur dw i wedi'i blannu,
gwaith fy llaw sy'n fy anrhydeddu.
22 Bydd yr un fechan yn troi yn llwyth,
a'r lleiaf yn troi'n genedl fawr.
Fi ydy'r
ARGLWYDD!Pan ddaw'r amser iawn bydda i'n gwneud hyn ar frys!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity