|
|
am fod yr
ARGLWYDD wedi fy eneinio i'w wasanaethu.Mae wedi fy anfon i gyhoeddi
newyddion da i'r tlodion,
i drin briwiau'r rhai sydd wedi torri eu calonnau,
a chyhoeddi fod y rhai sy'n gaeth i gael rhyddid,
ac i ollwng carcharorion yn rhydd;
2 i gyhoeddi fod blwyddyn ffafr yr
ARGLWYDD yma,a'r diwrnod pan fydd Duw yn dial;
i gysuro'r rhai sy'n galaru –
dwrban ar eu pennau yn lle lludw,
ac olew llawenydd yn lle galar,
mantell mawl yn lle ysbryd anobaith.
Byddan nhw'n cael eu galw yn goed hardd,
wedi'u plannu gan yr
ARGLWYDD i arddangos ei ysblander.4 Byddan nhw'n ailadeiladu'r hen hen adfeilion,
yn codi lleoedd oedd wedi'u dinistrio,
ac yn adfer trefi oedd wedi'u difa
a heb neb yn byw ynddyn nhw ers cenedlaethau.
5 Bydd dieithriaid yn gofalu am dy ddefaid di,
ac estroniaid yn aredig y tir ac yn trin y coed gwinwydd.
6 Byddwch chi'n cael eich galw yn ‛Offeiriaid yr
ARGLWYDD‛,‛Gweision Duw‛ fydd y teitl arnoch chi.
Byddwch chi'n bwydo ar gyfoeth y cenhedloedd
ac yn mwynhau eu holl drysorau nhw.
7 Yn lle'r cywilydd byddwch chi'n derbyn siâr ddwbl,
ac yn lle'r gwarth byddwch chi'n dathlu yn eich etifeddiaeth.
Felly, byddan nhw'n etifeddu siâr ddwbl yn eu tir,
ac yn profi llawenydd fydd yn para am byth.
ARGLWYDD; dw i'n caru cyfiawnder,ac yn casáu gweld lladrata'r offrwm sydd i'w losgi.
Bydda i'n siŵr o roi eu gwobr iddyn nhw,
a bydda i'n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth.
9 Bydd eu plant yn adnabyddus ymhlith y cenhedloedd,
a'u disgynyddion ymhlith y bobloedd.
Bydd pawb sy'n eu gweld nhw'n cydnabod
mai nhw ydy'r rhai mae'r
ARGLWYDD wedi'u bendithio. ARGLWYDD yn fy ngwneud i mor llawen,ac mae fy Nuw yn fy ngwefreiddio i.
Mae e wedi fy ngwisgo ag achubiaeth
a rhoi cyfiawnder yn fantell o'm cwmpas.
Dw i fel priodfab yn gwisgo twrban hardd,
neu briodferch wedi'i haddurno â'i thlysau.
11 Fel mae planhigion yn tyfu o'r ddaear,
a ffrwythau'n tyfu yn yr ardd,
bydd fy Meistr, yr
ARGLWYDD,yn gwneud i gyfiawnder a moliant
dyfu yng ngŵydd y cenhedloedd i gyd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity