|
|
Fydd y cynllun ddim yn llwyddo,
Fydd y peth ddim yn digwydd.
8-9 Damascus ydy prifddinas Syria,
a Resin ydy pennaeth Damascus.
Samaria ydy prifddinas Effraim,
a Remaleia ydy pennaeth Samaria.
Mewn llai na chwe deg pum mlynedd
bydd Effraim wedi chwalu a pheidio â bod yn bobl.
Os na wnewch chi gredu,
wnewch chi'n sicr ddim sefyll.”
10 Dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag Ahas eto: 11 “Gofyn i'r ARGLWYDD dy Dduw roi arwydd i ti – unrhyw beth, does dim ffiniau.” 12 Ond dyma Ahas yn ateb, “Na wna i, dw i ddim am roi'r ARGLWYDD ar brawf.” 13 Yna dwedodd Eseia, “Gwrandwch, balas Dafydd. Ydy e ddim yn ddigon eich bod chi'n trethu amynedd pobl heb orfod trethu amynedd fy Nuw hefyd? 14 Felly, mae'r Meistr ei hun yn mynd i roi arwydd i chi! Edrychwch, bydd y ferch ifanc yn feichiog, ac yn cael mab – a bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel. Ref Croes 15 Cyn iddo ddod i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da, bydd yn bwyta caws colfran a mêl. 16 Cyn iddo allu gwrthod y drwg a dewis y da, bydd tir y ddau frenin rwyt ti'n eu hofni wedi'i adael yn wag. 17 Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i ti a dy bobl a phalas dy dad fynd drwy gyfnod na fu ei debyg ers i Effraim Ref wrthryfela yn erbyn Jwda – bydd yn dod â brenin Asyria yma.” 18 Bryd hynny,bydd yr
ARGLWYDD yn chwibanu ar y gwybedsydd yn afonydd pell yr Aifft
a'r gwenyn sydd yng ngwlad Asyria.
19 Byddan nhw'n dod ac yn glanio
yn y cymoedd cul, serth
a'r hafnau sydd yn y creigiau,
yn y llwyni drain
a'r lleoedd i ddyfrio anifeiliaid.
20 Bryd hynny,bydd y Meistr yn defnyddio'r rasel
mae wedi'i llogi yr ochr draw i afon Ewffrates
(sef brenin Asyria)
i siafio'r pen a'r blew ar y rhannau preifat;
a bydd yn siafio'r farf hefyd.
21 Bryd hynny,bydd dyn yn cadw heffer a dwy afr.
22 Byddan nhw'n rhoi digon o laeth
iddo fwyta caws colfran.
Caws colfran a mêl fydd bwyd
pawb sydd ar ôl yn y wlad.
23 Bryd hynny,bydd pobman lle roedd mil o goed gwinwydd
(oedd yn werth mil o ddarnau arian)
yn anialwch o ddrain a mieri.
24 Dim ond gyda bwa saeth fydd dynion yn mynd yno,
am fod y tir i gyd yn anialwch o ddrain a mieri.
25 Fydd neb yn mynd i'r bryniau
i drin y tir gyda chaib
am fod cymaint o ddrain a mieri.
Yn lle hynny bydd yn dir agored
i wartheg a defaid bori arno.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity