|
|
6 “Mae'r bobl yma wedi gwrthod dŵr Siloa, Ref
sy'n llifo'n dawel,
ac wedi plesio Resin a mab Remaleia.
7 Felly, bydd y Meistr yn gwneud i holl ddŵr cryf
yr Ewffrates lifo drostyn nhw –
sef brenin Asyria a'i fyddin.
Bydd fel afon yn torri allan o'i sianelau,
ac yn gorlifo'i glannau.
8 Bydd yn rhedeg drwy Jwda fel llifogydd
ac yn codi at y gwddf.
Mae ei adenydd wedi'u lledu
dros dy dir i gyd, Emaniwel!”
9 Casglwch i ryfel, chi bobloedd – ond cewch eich dryllio!
Gwrandwch, chi sydd ym mhen draw'r byd:
paratowch i ryfela – ond cewch eich dryllio;
paratowch i ryfela – ond cewch eich dryllio!
10 Cynlluniwch strategaeth – ond bydd yn methu!
Cytunwch beth i'w wneud – ond fydd e ddim yn llwyddo.
Achos mae Duw gyda ni!
12 “Peidiwch dweud, ‘Cynllwyn ydy e!’
bob tro mae'r bobl yma'n dweud fod cynllwyn!
Does dim rhaid dychryn na bod ag ofn
beth maen nhw'n ei ofni.
ARGLWYDD hollbwerus ydy'r un i'w barchu!Fe ydy'r unig un i'w ofni,
a dychryn rhagddo!
ond i ddau deulu brenhinol Israel
bydd yn garreg sy'n baglu pobl
a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.
Bydd fel trap neu fagl
i'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem.
yn syrthio ac yn cael eu dryllio;
ac eraill yn cael eu rhwymo a'u dal.”
19 Bydd pobl yn dweud wrthoch chi,
“Ewch i holi'r swynwyr a'r dewiniaid
sy'n sgrechian a griddfan.
Oni ddylai pobl geisio'u ‛duwiau‛ –
holi'r meirw ar ran y byw?”
20 “At y gyfraith a'r dystiolaeth!
Os nad ydyn nhw'n siarad yn gyson â'r neges yma,
maen nhw yn y tywyllwch.”
21 Maen nhw'n cerdded o gwmpas
mewn eisiau a newyn.
Am eu bod yn llwgu byddan nhw'n gwylltio
ac yn melltithio'u brenin a'u ‛duwiau‛,
wrth edrych i fyny.
does dim i'w weld ond trwbwl a thywyllwch,
düwch a gwewyr meddwl –
bydd wedi'i daflu i dywyllwch dudew.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity