BARNWYR 11
Jefftha
1 Roedd dyn yn Gilead o'r enw Jefftha, oedd yn filwr dewr. Putain oedd ei fam, ond roedd e wedi cael ei fagu gan ei dad, Gilead.
2 Roedd gan Gilead nifer o feibion eraill hefyd – plant i'w wraig. Pan oedd y rhain wedi tyfu, dyma nhw'n gyrru Jefftha i ffwrdd. “Fyddi di'n etifeddu dim o eiddo'r teulu. Mab i wraig arall wyt ti.”
3 Felly roedd rhaid i Jefftha ddianc oddi wrth ei frodyr. Aeth i fyw i ardal Tob, ac yn fuan iawn roedd yn arwain gang o rapsgaliwns gwyllt.
4 Roedd hi beth amser ar ôl hyn pan ddechreuodd yr Ammoniaid ryfela yn erbyn Israel.
5 A dyna pryd aeth arweinwyr Gilead i ardal Tob i ofyn i Jefftha ddod yn ôl.
6 “Tyrd yn ôl i arwain y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid,” medden nhw wrtho.
7 “Ond roeddech chi'n fy nghasáu i,” meddai Jefftha. “Chi yrrodd fi oddi cartref! A dyma chi, nawr, yn troi ata i am eich bod chi mewn trwbwl!”
8 “Mae'n wir,” meddai arweinwyr Gilead wrtho. “Dŷn ni yn troi atat ti i ofyn i ti arwain y frwydr yn erbyn yr Ammoniaid. Ond cei fod yn bennaeth Gilead i gyd ar ôl hynny!”
9 A dyma Jefftha'n dweud, “Iawn. Os gwna i ddod gyda chi, a'r ARGLWYDD yn gadael i mi ennill y frwydr, fi fydd eich pennaeth chi.”
10 Ac meddai'r arweinwyr, “Mae'r ARGLWYDD yn dyst a bydd yn ein barnu ni os na wnawn ni fel ti'n dweud.”
11 Felly dyma Jefftha'n mynd gydag arweinwyr Gilead a chafodd ei wneud yn bennaeth ac arweinydd y fyddin. A dyma Jefftha'n ailadrodd telerau'r cytundeb o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa.
12 Anfonodd Jefftha negeswyr at frenin yr Ammoniaid i ofyn pam roedd e'n ymosod ar y wlad.
13 Yr ateb roddodd brenin yr Ammoniaid oedd, “Am fod pobl Israel wedi dwyn ein tir ni pan ddaethon nhw o'r Aifft – yr holl ffordd o afon Arnon yn y de i afon Jabboc yn y gogledd, ac at yr Iorddonen yn y gorllewin. Rho'r tir yn ôl i mi, a fydd yna ddim rhyfel.”
14 Dyma Jefftha'n anfon negeswyr yn ôl at frenin Ammon, i ddweud,
15 “Wnaeth Israel ddim dwyn y tir oddi ar bobloedd Moab ac Ammon.
16 Pan ddaethon nhw allan o'r Aifft, dyma nhw'n teithio drwy'r anialwch at y Môr Coch Ref ac yna ymlaen i Cadesh.
17 Anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom, yn gofyn, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di?’ Ond wnaeth brenin Edom ddim gadael iddyn nhw. Gofynnodd Israel yr un peth i frenin Moab ond doedd yntau ddim yn fodlon gadael iddyn nhw groesi. Felly dyma bobl Israel yn aros yn Cadesh.
18 Wedyn dyma nhw'n mynd rownd Edom a Moab – pasio heibio i'r dwyrain o wlad Moab, a gwersylla yr ochr draw i afon Arnon. Wnaethon nhw ddim croesi tir Moab o gwbl (afon Arnon oedd ffin Moab).
19 Ar ôl hynny, dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, a gofyn iddo fe, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di i ni fynd i'n tir ein hunain?’
20 Ond doedd Sihon ddim yn trystio pobl Israel i adael iddyn nhw groesi'i dir. Felly dyma fe'n galw'i fyddin at ei gilydd a chodi gwersyll yn Iahats, i ymosod ar Israel.
21 Yr ARGLWYDD, Duw Israel, wnaeth eu galluogi nhw i drechu Sihon a'i fyddin. A dyma Israel yn cymryd tiroedd yr Amoriaid i gyd –
22 o afon Arnon yn y de i afon Jabboc yn y gogledd, ac o'r anialwch yn y dwyrain i'r Iorddonen yn y gorllewin.
23 “Felly, yr ARGLWYDD, Duw Israel, wnaeth yrru'r Amoriaid allan o flaen pobl Israel. Wyt ti'n meddwl y gelli di ei gymryd oddi arnyn nhw?
24 Cadw di beth mae dy dduw Chemosh wedi'i roi i ti. Dŷn ni am gadw tiroedd y bobloedd mae'r ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'n blaen ni.
25 Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gryfach na Balac fab Sippor, brenin Moab? Wnaeth e fentro ffraeo gyda phobl Israel? Wnaeth e ymladd yn eu herbyn nhw?
26 Mae pobl Israel wedi bod yn byw yn y trefi yma ers tri chan mlynedd – Cheshbon ac Aroer a'r pentrefi o'u cwmpas, a'r trefi sydd wrth afon Arnon. Pam dych chi ddim wedi'u cymryd nhw yn ôl cyn hyn?
27 Na, dw i ddim wedi gwneud cam â ti. Ti sy'n dechrau'r rhyfel yma. Heddiw, bydd yr ARGLWYDD, y Barnwr, yn penderfynu pwy sy'n iawn – pobl Israel neu'r Ammoniaid!”
28 Ond wnaeth brenin Ammon ddim cymryd sylw o neges Jefftha.
29 Yna dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Jefftha. Dyma fe'n arwain ei fyddin drwy diroedd Gilead a Manasse, pasio drwy Mitspe yn Gilead, a mynd ymlaen i wynebu byddin yr Ammoniaid.
30 Dyma fe'n addo ar lw i'r ARGLWYDD, “Os gwnei di adael i mi guro byddin yr Ammoniaid,
31 gwna i roi i'r ARGLWYDD beth bynnag fydd gyntaf i ddod allan o'r tŷ i'm cwrdd i pan af i adre. Bydda i'n ei gyflwyno'n offrwm i'w losgi'n llwyr i Dduw.”
32 Yna dyma Jefftha a'i fyddin yn croesi i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth iddo.
33 Cafodd yr Ammoniaid eu trechu'n llwyr, o Aroer yr holl ffordd i Minnith, a hyd yn oed i Abel-ceramîm – dau ddeg o drefi i gyd. Dinistriodd nhw'n llwyr! Roedd yr Ammoniaid wedi'u trechu gan Israel.
34 Pan aeth Jefftha adre i Mitspa, pwy redodd allan i'w groesawu ond ei ferch, yn dawnsio i gyfeiliant tambwrinau. Roedd hi'n unig blentyn. Doedd gan Jefftha ddim mab na merch arall.
35 Pan welodd hi, dyma fe'n rhwygo'i ddillad. “O na! Fy merch i. Mae hyn yn ofnadwy. Mae'n drychinebus. Dw i wedi addo rhywbeth ar lw i'r ARGLWYDD, a does dim troi'n ôl.”
36 Meddai ei ferch wrtho, “Dad, os wyt ti wedi addo rhywbeth i'r ARGLWYDD, rhaid i ti gadw dy addewid. Mae'r ARGLWYDD wedi cadw ei ochr e a rhoi buddugoliaeth i ti dros dy elynion, yr Ammoniaid.
37 Ond gwna un peth i mi. Rho ddau fis i mi grwydro'r bryniau gyda'm ffrindiau, i alaru am fy mod byth yn mynd i gael priodi.”
38 “Dos di,” meddai wrthi. A gadawodd iddi fynd i grwydro'r bryniau am ddeufis, yn galaru gyda'i ffrindiau am na fyddai byth yn cael priodi.
39 Yna ar ddiwedd y deufis, dyma hi'n dod yn ôl at ei thad, a dyma fe'n gwneud beth roedd e wedi'i addo. Roedd hi'n dal yn wyryf pan fuodd hi farw.
Daeth yn ddefod yn Israel
40 fod y merched yn mynd i ffwrdd am bedwar diwrnod bob blwyddyn, i goffáu merch Jefftha o Gilead.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity