BARNWYR 14
Samson yn priodi
1 Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna. Yno, roedd merch ifanc wedi dal ei lygad, un o ferched y Philistiaid.
2 Pan aeth yn ôl adre, dyma fe'n dweud wrth ei dad a'i fam, “Dw i wedi gweld merch ifanc yn Timna – un o ferched y Philistiaid. Ewch i'w nôl hi i fod yn wraig i mi.”
3 Ond dyma'i rieni'n ateb, “Mae'n rhaid bod yna ferch ifanc arall rywle – un o dy berthnasau; un o dy bobl dy hun. Mae'r Philistiaid yn baganiaid. Ref Pam ddylet ti fynd atyn nhw i gael gwraig?” “Ewch i'w nôl hi,” meddai Samson. “Hi dw i eisiau. Mae hi'n bishyn.”
4 (Doedd ei dad a'i fam ddim yn sylweddoli mai'r ARGLWYDD oedd tu ôl i hyn i gyd, a'i fod yn creu cyfle i achosi helynt i'r Philistiaid. Y Philistiaid oedd yn rheoli Israel ar y pryd.)
5 Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna gyda'i rieni. Pan oedd wrth ymyl gwinllannoedd Timna, dyma lew ifanc yn rhuthro ato.
6 A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus nes iddo rwygo'r llew a'i ladd gyda dim ond nerth braich, fel petai'n fyn gafr bach ifanc. (Ond wnaeth e ddim dweud wrth ei rieni beth roedd e wedi'i wneud.)
7 Yna aeth Samson yn ei flaen i Timna a siarad â'r ferch ifanc. Roedd e wir yn ei ffansïo hi.
8 Beth amser ar ôl hynny, aeth Samson i Timna i'w phriodi hi. Ar ei ffordd, aeth i weld beth oedd ar ôl o'r llew oedd wedi ymosod arno. Cafodd fod haid o wenyn yn byw yn sgerbwd yr anifail a bod mêl ynddo.
9 Dyma fe'n crafu peth o'r mêl gyda'i ddwylo, a'i fwyta wrth gerdded. Aeth yn ôl at ei rieni a rhoi peth o'r mêl iddyn nhw i'w fwyta. (Ond wnaeth e ddim dweud wrthyn nhw ei fod wedi crafu'r mêl allan o sgerbwd y llew.)
10 Ar ôl hyn, aeth ei dad gydag e i Timna i weld y ferch. A dyma Samson yn trefnu parti, am mai dyna fyddai dynion ifanc oedd am briodi yn arfer ei wneud bryd hynny.
11 Pan welodd y Philistiaid Samson, dyma nhw'n rhoi tri deg o ffrindiau i gadw cwmni iddo yn y parti.
12 A dyma Samson yn dweud wrthyn nhw, “Gadewch i mi osod pos i chi. Os rhowch chi'r ateb i mi cyn diwedd y parti mewn wythnos, gwna i roi mantell newydd a set o ddillad newydd i'r tri deg ohonoch chi.
13 Ond os allwch chi ddim datrys y pos, bydd rhaid i bob un ohonoch chi roi mantell a set o ddillad newydd i mi.”
“Iawn,” medden nhw, “gad i ni glywed beth ydy dy bos di.”
14 A dyma ddwedodd e:
“Daeth bwyd o'r bwytawr;
rhywbeth melys o'r un cryf.”
Aeth tri diwrnod heibio a doedden nhw ddim yn gallu meddwl am yr ateb.
15 Yna'r diwrnod wedyn, dyma nhw'n mynd at wraig Samson a'i bygwth: “Tricia dy ŵr i ddweud beth ydy'r ateb i'r pos, neu byddwn ni'n dy losgi di a theulu dy dad. Wnest ti'n gwahodd ni yma i'n gwneud ni'n fethdalwyr?”
16 Felly dyma wraig Samson yn mynd ato a dechrau crio ar ei ysgwydd. “Ti'n fy nghasáu i. Ti ddim yn fy ngharu i. Ti wedi rhoi pos i rai o'r bechgyn a ddim yn fodlon dweud wrtho i beth ydy'r ateb.” Meddai Samson wrthi, “Ond dw i ddim hyd yn oed wedi dweud wrth dad a mam. Pam ddylwn i ddweud wrthot ti?”
17 Buodd hi'n crio ar ei ysgwydd nes oedd y parti bron ar ben. Yna ar y seithfed diwrnod, dyma Samson yn dweud yr ateb wrthi am ei bod hi wedi swnian gymaint. A dyma hi'n mynd i ddweud wrth y dynion ifanc.
18 Cyn iddi fachlud y noson honno, dyma ddynion y dref yn mynd at Samson a dweud, “Beth sy'n fwy melys na mêl? A beth sy'n gryfach na llew?” A dyma Samson yn ateb, “Fyddech chi ddim wedi datrys y pos heb gymryd mantais o'm gwraig i!” Ref
19 Yna dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus. Aeth i Ashcelon a lladd tri deg o ddynion. Cymerodd eu dillad a'u rhoi i'r dynion oedd wedi ateb y pos. Roedd wedi gwylltio'n lân, felly aeth adre at ei rieni.
20 Cafodd ei wraig ei rhoi i'r un oedd wedi bod yn was priodas iddo.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity