BARNWYR 18
Llwyth Dan yn setlo yn Laish
1 Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Tua'r un adeg, roedd llwyth Dan yn edrych am rywle i setlo i lawr. Doedden nhw ddim wedi llwyddo i gymryd y tir oedd wedi cael ei roi iddyn nhw, fel gweddill llwythau Israel.
2 Felly dyma lwyth Dan yn anfon pump o ddynion dewr o Sora ac Eshtaol i ysbïo'r wlad. Dyma nhw'n cyrraedd tŷ Micha ym mryniau Effraim, a dyna ble wnaethon nhw aros dros nos.
3 Tra oedden nhw yno, dyma nhw'n nabod acen y dyn ifanc o lwyth Lefi, a mynd ato a dechrau'i holi, “Pwy ddaeth â ti yma? Beth wyt ti'n wneud yma? Beth ydy dy fusnes di?”
4 A dyma fe'n dweud wrthyn nhw beth oedd Micha wedi'i wneud iddo. “Dw i wedi cael swydd ganddo, fel offeiriad,” meddai.
5 “Oes gen ti neges gan Dduw i ni?” medden nhw. “Dŷn ni eisiau gwybod os byddwn ni'n llwyddiannus.”
6 A dyma'r offeiriad yn ateb, “Gallwch fod yn dawel eich meddwl. Mae'r ARGLWYDD gyda chi bob cam o'r ffordd!”
7 Felly dyma'r pump yn mynd ymlaen ar eu taith ac yn dod i Laish. Doedd y bobl oedd yn byw yno yn poeni am ddim – roedden nhw fel pobl Sidon, yn meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Doedden nhw'n gweld dim perygl o gwbl a doedd neb yn eu bygwth nhw na dwyn oddi arnyn nhw. Roedden nhw'n bell oddi wrth Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall chwaith.
8 Aeth y dynion yn ôl at eu pobl yn Sora ac Eshtaol. A dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw, “Wel? Sut aeth hi?”
9 A dyma nhw'n ateb, “Dewch! Dŷn ni wedi dod o hyd i le da. Dewch i ymosod arnyn nhw! Peidiwch eistedd yma'n diogi! Rhaid i ni fynd ar unwaith a chymryd y tir oddi arnyn nhw.
10 Maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n hollol saff. Mae yna ddigon o dir yna, ac mae Duw yn ei roi i ni! Mae popeth sydd ei angen arnon ni yna!”
11 Felly dyma chwe chant o ddynion Dan yn gadael Sora ac Eshtaol, yn barod i frwydro.
12 Dyma nhw'n gwersylla yn Ciriath-iearîm yn Jwda. (Mae'r lle'n dal i gael ei alw'n Wersyll Dan hyd heddiw. Mae i'r gorllewin o Ciriath-iearîm.)
13 Yna aethon nhw yn eu blaenau i fryniau Effraim a chyrraedd tŷ Micha.
14 A dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn chwilio'r ardal yn dweud wrth y lleill, “Wyddoch chi fod yna effod yma ac eilun-ddelwau teuluol, hefyd eilun wedi'i gerfio a delw o fetel tawdd? Beth dych chi am ei wneud?”
15 Felly dyma nhw'n galw heibio'r tŷ lle roedd y Lefiad ifanc yn byw (tŷ Micha), a'i gyfarch, “Sut mae pethau?”
16 Roedd y chwe chant o filwyr yn sefyll wrth giât y dref.
17 Tra oedd yr offeiriad yn sefyll yno gyda'r milwyr, dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad yn torri i mewn i'w dŷ, a dwyn yr eilun wedi'i gerfio, yr effod, yr eilun-ddelwau teuluol a'r ddelw o fetel tawdd.
18 Pan welodd yr offeiriad nhw, dyma fe'n gofyn, “Beth ydych chi'n wneud?”
19 A dyma nhw'n ei ateb, “Paid dweud dim! Tyrd gyda ni. Cei di fod yn gynghorydd ac offeiriad i ni. Pa un sydd well – cael bod yn offeiriad i lwyth cyfan yn Israel neu i deulu un dyn?”
20 Roedd yr offeiriad wrth ei fodd. Cymerodd yr effod, eilun-ddelwau'r teulu a'r eilun wedi'i gerfio, a mynd gyda nhw.
21 I ffwrdd â nhw, gyda'r plant, yr anifeiliaid a'r eiddo i gyd ar y blaen.
22 Yna, pan oedden nhw wedi mynd yn reit bell o dŷ Micha, dyma Micha a chriw o ddynion oedd yn gymdogion iddo yn dod ar eu holau.
23 Dyma nhw'n gweiddi arnyn nhw. A dyma ddynion Dan yn troi a gofyn, “Beth sy'n bod? Pam dych chi wedi dod ar ein holau ni?”
24 Dyma Micha'n ateb, “Dych chi wedi dwyn y duwiau dw i wedi'u gwneud, a'r offeiriad, a cherdded i ffwrdd! Beth sydd gen i ar ôl? Sut allwch chi ddweud, ‘Beth sy'n bod?’”
25 Ond dyma ddynion Dan yn ei ateb, “Byddai'n syniad i ti gau dy geg – mae yna ddynion milain yma, a gallen nhw ddod a dy ladd di a dy deulu!”
26 A dyma nhw'n troi a mynd yn eu blaenau ar eu taith. Gwelodd Micha eu bod nhw'n gryfach na'r criw o ddynion oedd gyda fe, felly dyma fe'n troi am adre.
27 Aeth pobl llwyth Dan yn eu blaenau i Laish, gyda'r offeiriad a'r delwau roedd Micha wedi'u gwneud. Doedd pobl Laish yn gweld dim peryg o gwbl ac yn meddwl eu bod yn hollol saff. Ond dyma filwyr Dan yn ymosod arnyn nhw, ac yn llosgi'r dref yn ulw.
28 Doedd neb yn gallu dod i'w helpu nhw. Roedden nhw'n rhy bell o Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw bobl eraill. Roedd y dref mewn dyffryn heb fod yn bell o Beth-rechof.
Dyma lwyth Dan yn ailadeiladu'r dref, a symud i fyw yno.
29 Cafodd y dref ei galw'n Dan, ar ôl eu hynafiad, oedd yn un o feibion Israel. Laish oedd yr hen enw arni.
30 Cymerodd bobl Dan yr eilun wedi'i gerfio a'i osod i fyny i'w addoli, a gwneud Jonathan (oedd yn un o ddisgynyddion Gershom, mab Moses) yn offeiriad. Roedd ei deulu e'n dal i wasanaethu fel offeiriaid i lwyth Dan adeg y gaethglud!
31 Bu llwyth Dan yn dal i addoli'r eilun gafodd ei wneud gan Micha yr holl amser roedd cysegr Duw yn Seilo.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity