BARNWYR 19
Rhyfel cartref gyda llwyth Benjamin
Y Lefiad a'i bartner
1 Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd rhyw ddyn o lwyth Lefi yn byw yn bell o bobman yng nghanol bryniau Effraim. A dyma fe'n cymryd dynes o Bethlehem yn Jwda i fyw gydag e fel ei bartner Ref
2 Ond roedd hi'n anffyddlon iddo, a dyma hi'n mynd yn ôl i fyw gyda'i theulu yn Bethlehem.
Rhyw bedwar mis wedyn,
3 dyma'r dyn yn mynd gyda'i was a dau asyn i geisio'i pherswadio i fynd yn ôl gydag e. Pan gyrhaeddodd, dyma hi'n mynd ag e i'w chartref, a chafodd groeso brwd gan ei thad.
4 Dyma'r tad yn ei berswadio i aros am dri diwrnod, a dyna lle buodd e, yn bwyta ac yn yfed ac yn aros dros nos.
5 Ond yna, ar y pedwerydd diwrnod, dyma fe'n codi'n gynnar a dechrau paratoi i adael. Dyma dad y ferch yn dweud wrtho, “Rhaid i ti gael tamaid i'w fwyta cyn mynd. Cewch fynd wedyn.”
6 Felly dyma'r ddau ohonyn nhw'n cael pryd o fwyd gyda'i gilydd. Yna dyma dad y ferch yn dweud wrth y dyn, “Tyrd, aros un noson arall. Cei amser da!”
7 Roedd y dyn ar fin mynd, ond dyma'r tad yn pwyso arno a'i berswadio i aros noson arall.
8 Yna'n gynnar y bore wedyn, y pumed diwrnod, dyma'r dyn yn codi eto i fynd. Ond dyma dad y ferch yn dweud wrtho eto, “Dylet ti gael rhywbeth i dy gadw di i fynd! Pam wnei di ddim gadael ar ôl cinio?” Felly dyma'r ddau'n bwyta gyda'i gilydd eto.
9 Rywbryd yn ystod y p'nawn, dyma'r dyn yn codi i fynd gyda'i bartner a'i was. Ond dyma dad y ferch yn dweud, “Gwranda, mae'n rhy hwyr yn y dydd. Aros un noson arall! Mae hi wedi mynd yn rhy hwyr i ti fynd bellach. Aros un noson arall i fwynhau dy hun. Wedyn cei godi'n gynnar bore fory a chychwyn ar dy daith am adre.”
10 Ond doedd y dyn ddim am wneud hynny. Dyma fe a'i bartner yn cymryd y ddau asyn oedd wedi'u cyfrwyo, a chychwyn ar eu taith. Dyma nhw'n cyrraedd Jebws (sef Jerwsalem).
11 Erbyn hynny, roedd hi'n dechrau nosi, a dyma'r gwas yn gofyn i'w feistr, “Beth am i ni aros yma dros nos, yn nhref y Jebwsiaid?”
12 Dyma'r meistr yn ei ateb, “Na, allwn ni ddim aros gyda phaganiaid sydd ddim yn perthyn i Israel. Awn ni ymlaen i Gibea.
13 Gallwn ni ddod o hyd i rywle i aros, naill ai'n Gibea neu yn Rama.”
14 Felly dyma nhw'n teithio yn eu blaenau. Erbyn iddyn nhw gyrraedd Gibea, sydd ar dir llwyth Benjamin, roedd yr haul wedi machlud.
15 Felly dyma nhw'n penderfynu aros yno dros nos. Aethon nhw i mewn i'r dref, ac eistedd i lawr i orffwys yn y sgwâr. Ond wnaeth neb eu gwahodd nhw i'w tŷ i aros dros nos.
16 Ond yna, dyma ryw hen ddyn yn dod heibio. Roedd wedi bod yn gweithio yn y caeau drwy'r dydd ac ar ei ffordd adre. Un o fryniau Effraim oedd e'n wreiddiol, ond roedd yn byw yn Gibea gyda phobl llwyth Benjamin.
17 Pan welodd e'r teithiwr yn y sgwâr, dyma fe'n gofyn iddo, “O ble dych chi'n dod, ac i ble dych chi'n mynd?”
18 A dyma'r dyn o lwyth Lefi'n dweud wrtho, “Dŷn ni ar ein ffordd adre o Bethlehem yn Jwda. Dw i'n byw mewn ardal ym mryniau Effraim sy'n bell o bobman. Dw i wedi bod i Bethlehem, a nawr dw i ar fy ffordd adre. Ref Ond does neb yn y dref yma wedi'n gwahodd ni i aros gyda nhw.
19 Does arnon ni angen dim byd. Mae gynnon ni ddigon o wellt a grawn i'n mulod, ac mae gynnon ni fwyd a gwin i'r tri ohonon ni – fi, dy forwyn, a'r bachgen ifanc sydd gyda ni.”
20 “Mae croeso i chi ddod ata i!” meddai'r hen ddyn. “Gwna i ofalu amdanoch chi. Well i chi beidio aros ar sgwâr y dref drwy'r nos!”
21 Felly dyma fe'n mynd â nhw i'w dŷ, ac yn bwydo'r asynnod. Wedyn, ar ôl golchi eu traed Ref dyma nhw'n cael pryd o fwyd gyda'i gilydd.
22 Tra oedden nhw'n mwynhau'u hunain, dyma griw o rapsgaliwns o'r dref yn codi twrw, amgylchynu'r tŷ a dechrau curo ar y drws. Roedden nhw'n gweiddi ar yr hen ddyn, “Anfon y dyn sy'n aros gyda ti allan. Dŷn ni eisiau cael rhyw gydag e!”
23 Ond dyma'r dyn oedd piau'r tŷ yn mynd allan atyn nhw, a dweud, “Na, ffrindiau. Peidiwch bod mor ffiaidd! Fy ngwestai i ydy'r dyn. Peidiwch bod mor amharchus!
24 Mae gen i ferch sy'n wyryf, ac mae partner y dyn yma hefyd. Gwna i eu hanfon nhw allan. Gewch chi wneud beth leiciwch chi iddyn nhw. Ond peidiwch meddwl gwneud rhywbeth mor amharchus i'r dyn yma!”
25 Ond roedd y dynion yn gwrthod gwrando arno. Felly dyma'r dyn o lwyth Lefi yn gafael yn ei bartner ac yn ei gwthio hi allan atyn nhw. A buon nhw'n ei threisio hi a'i cham-drin hi drwy'r nos. Roedd hi bron yn gwawrio cyn iddyn nhw'i gollwng hi'n rhydd.
26 Dim ond dechrau goleuo oedd hi pan gyrhaeddodd hi'n ôl i'r tŷ lle roedd ei gŵr yn aros. Syrthiodd ar lawr tu allan i'r drws, a dyna lle buodd hi'n gorwedd nes oedd yr haul wedi codi.
27 Pan gododd ei gŵr y bore hwnnw, roedd yn bwriadu cychwyn ar ei daith. Agorodd y drws, a dyna lle roedd ei bartner yn gorwedd wrth ddrws y tŷ, a'i dwylo ar y trothwy.
28 “Tyrd, dŷn ni'n mynd,” meddai wrthi. Ond doedd dim ymateb. Felly dyma fe'n ei chodi ar ei asyn a mynd.
29 Pan gyrhaeddodd adre, cymerodd gyllell a thorri corff ei bartner yn un deg dau darn. Yna dyma fe'n anfon y darnau, bob yn un, i bob rhan o Israel.
30 Roedd pawb yn dweud, “Does yna ddim byd fel yma wedi digwydd erioed o'r blaen, ers i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft! Meddyliwch am y peth! A trafodwch beth ddylid ei wneud.”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity