BARNWYR 20
Pobl Israel yn paratoi i fynd i ryfel
1 Dyma bobl Israel yn dod at ei gilydd yn un dyrfa fawr o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa. Roedden nhw wedi dod o bobman – o Dan yn y gogledd i Beersheba Ref yn y de, ac o dir Gilead i'r dwyrain o afon Iorddonen.
2 A dyma arweinwyr llwythau Israel yn cymryd eu lle – roedd 400,000 o filwyr traed wedi'u harfogi yno i gyd.
3 Clywodd llwyth Benjamin fod gweddill pobl Israel wedi dod at ei gilydd yn Mitspa. A dyma bobl Israel yn gofyn, “Sut allai peth mor ofnadwy fod wedi digwydd?”
4 Atebodd y dyn o lwyth Lefi (gŵr y wraig oedd wedi cael ei llofruddio), “Rôn i a'm partner wedi cyrraedd Gibea, sydd ar dir Benjamin, i aros dros nos.
5 A dyma arweinwyr Gibea yn dod ar fy ôl i, ac yn amgylchynu'r tŷ lle roedden ni'n aros. Roedden nhw am fy lladd i. Ond yn lle hynny, dyma nhw'n treisio a cham-drin fy mhartner i nes buodd hi farw.
6 Roedd yn beth hollol erchyll i bobl Israel ei wneud. Felly dyma fi'n cymryd ei chorff, ei dorri'n ddarnau, ac anfon y darnau i bob rhan o dir Israel.
7 Rhaid i chi, bobl Israel, benderfynu beth ddylid ei wneud!”
8 Dyma nhw'n cytuno'n unfrydol, “Does neb ohonon ni am fynd adre – neb o gwbl –
9 nes byddwn ni wedi delio gyda phobl Gibea. Rhaid i ni ymosod ar y dre. Gwnawn ni dynnu coelbren i benderfynu pa lwyth ddylai arwain yr ymosodiad.
10 Bydd degfed ran dynion pob llwyth yn gyfrifol am nôl bwyd i'r milwyr. Pan fydd y fyddin yn cyrraedd Gibea, byddan nhw'n eu cosbi nhw am wneud peth mor erchyll yn Israel.”
11 Felly aeth dynion Israel i gyd gyda'i gilydd i ymosod ar dref Gibea.
12 Dyma nhw'n anfon negeswyr at lwyth Benjamin i ofyn, “Sut allech chi fod wedi gwneud peth mor ofnadwy?
13 Anfonwch y rapsgaliwns yn Gibea sydd wedi gwneud hyn aton ni, i gael eu dienyddio. Rhaid cael gwared â'r drwg yma o Israel.” Ond doedd pobl llwyth Benjamin ddim yn fodlon cydweithredu.
14 Yn lle hynny, dyma nhw'n dod o'u trefi i Gibea, a chasglu yno i fynd i ryfel yn erbyn gweddill Israel.
15 Roedd dau ddeg chwe mil o filwyr arfog o lwyth Benjamin wedi ymuno gyda'r saith mil o filwyr profiadol oedd yn Gibea ei hun.
16 Roedd y fyddin yn cynnwys saith gant o ddynion llaw chwith oedd yn gallu taro targed i drwch blewyn gyda charreg o ffon dafl.
17 Roedd gan weddill Israel bedwar can mil o filwyr arfog profiadol.
18 Cyn y frwydr, aethon nhw i Bethel Ref i ofyn i Dduw, “Pwy sydd i arwain y frwydr yn erbyn llwyth Benjamin?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Llwyth Jwda sydd i arwain.”
Y frwydr
19 Yn gynnar y bore wedyn, dyma fyddin Israel yn paratoi i ymosod ar Gibea.
20 Dyma nhw'n mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin, a threfnu'u hunain yn rhengoedd yn barod i ymosod ar Gibea.
21 Ond daeth milwyr llwyth Benjamin allan o Gibea, a lladd dau ddeg dwy fil o filwyr Israel yn y frwydr y diwrnod hwnnw.
22 Ond wnaeth byddin Israel ddim digalonni. Dyma nhw'n mynd allan eto, a sefyll mewn trefn yn yr un lle â'r diwrnod cynt.
23 Roedden nhw wedi mynd yn ôl i Bethel, ac wedi bod yn crio o flaen yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedden nhw wedi gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu ddim?” Ac roedd yr ARGLWYDD wedi ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw!”
24 Felly dyma fyddin Israel yn mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin yr ail ddiwrnod.
25 Ond daeth milwyr Benjamin allan o Gibea unwaith eto, a lladd un deg wyth mil arall o filwyr Israel.
26 Felly dyma fyddin Israel i gyd yn mynd yn ôl i Bethel. Buon nhw'n eistedd yno'n crio o flaen yr ARGLWYDD, a wnaethon nhw ddim bwyta o gwbl nes roedd hi wedi nosi. Buon nhw hefyd yn cyflwyno aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
27-28 Dyna lle roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar y pryd, gyda Phineas (mab Eleasar ac ŵyr i Aaron) yn gwasanaethu fel offeiriad. Dyma nhw'n gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu roi'r gorau iddi?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw! Dw i'n mynd i'w rhoi nhw'n eich dwylo chi.”
29 Felly dyma Israel yn anfon dynion i guddio o gwmpas Gibea, i ymosod yn ddirybudd.
30 Y diwrnod wedyn, dyma'r fyddin yn mynd allan eto i ymosod ar lwyth Benjamin. Roedden nhw'n sefyll yn rhengoedd fel o'r blaen, yn barod i ymosod ar Gibea.
31 A dyma fyddin Benjamin yn dod allan i ymladd yn eu herbyn, gan adael y dref heb ei hamddiffyn. Dyma nhw'n dechrau taro byddin Israel, fel o'r blaen. Cafodd tua tri deg o filwyr Israel eu lladd yng nghefn gwlad ac ar y ffyrdd (sef y ffordd sy'n mynd i Bethel, a'r un sy'n mynd i Gibea).
32 Felly roedd byddin Benjamin yn meddwl eu bod nhw'n eu curo nhw fel o'r blaen. Ond tacteg Israel oedd ffoi o'u blaenau nhw er mwyn eu harwain nhw i ffwrdd o dref Gibea i'r priffyrdd.
33 Pan ddaeth byddin Israel i Baal-tamar, dyma nhw'n ailgasglu a threfnu'u hunain yn rhengoedd, yn barod i ymladd. Yr un pryd, dyma'r milwyr oedd yn cuddio i'r gorllewin o Gibea yn dod allan
34 ac yn ymosod ar y dref – deg mil o filwyr profiadol i gyd. Roedd y brwydro'n filain, ond doedd gan filwyr Benjamin ddim syniad eu bod nhw ar fin cael crasfa.
Sut oedd Israel wedi ennill y frwydr
35 Dyma'r ARGLWYDD yn taro byddin Benjamin i lawr o flaen milwyr Israel. Cafodd 25,100 o filwyr Benjamin eu lladd.
36 Roedd byddin Benjamin yn gweld ei bod ar ben arnyn nhw! Roedd byddin Israel wedi ffoi o flaen milwyr llwyth Benjamin, gan wybod fod ganddyn nhw ddynion yn cuddio ac yn barod i ymosod ar Gibea.
37 Ac roedd y dynion hynny wedi rhuthro i ymosod ar y dre a lladd pawb oedd yn byw yno.
38 Roedden nhw wedi trefnu i roi arwydd i weddill y fyddin eu bod nhw wedi llwyddo – sef, cynnau tân a gwneud i golofn o fwg godi o'r dref.
39 Dyna pryd fyddai byddin Israel yn troi a dechrau gwrthymosod.
Pan oedd milwyr Benjamin wedi lladd rhyw dri deg o filwyr Israel, roedden nhw'n meddwl eu bod nhw'n ennill y frwydr fel o'r blaen.
40 Ond yna dyma nhw'n gweld colofn o fwg yn codi o'r dref. Roedd y dref i gyd ar dân, a mwg yn codi'n uchel i'r awyr.
41 Pan drodd byddin Israel i ymladd, dyma filwyr llwyth Benjamin yn panicio – roedden nhw'n gweld ei bod hi ar ben arnyn nhw.
42 Dyma nhw'n ffoi o flaen byddin Israel, ar hyd y ffordd i'r anialwch. Ond roedden nhw'n methu dianc. Roedd milwyr Israel yn eu taro nhw o bob cyfeiriad.
43 Roedden nhw wedi amgylchynu byddin Benjamin a wnaethon nhw ddim stopio mynd ar eu holau. Roedden nhw'n eu taro nhw i lawr yr holl ffordd i'r dwyrain o Geba.
44 Roedd un deg wyth o filoedd o filwyr gorau llwyth Benjamin wedi'u lladd.
45 Dyma'r gweddill yn dianc i'r anialwch, i gyfeiriad Craig Rimmon. Ond lladdodd byddin Israel bum mil ohonyn nhw ar y ffordd. Dyma nhw'n aros yn dynn ar eu sodlau yr holl ffordd i Gidom, a lladd dwy fil arall.
46 Felly cafodd dau ddeg pum mil o filwyr llwyth Benjamin eu lladd y diwrnod hwnnw – i gyd yn filwyr profiadol.
47 Chwe chant wnaeth lwyddo i ddianc i Graig Rimmon, a buon nhw yno am bedwar mis.
48 Dyma fyddin Israel yn troi'n ôl a mynd drwy drefi Benjamin i gyd, yn lladd popeth byw, pobl ac anifeiliaid. Wedyn roedden nhw'n llosgi'r trefi'n llwyr, bob un.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity