BARNWYR 3
Y bobloedd oedd yn dal yn y tir
1 Roedd yr ARGLWYDD wedi gadael y bobloedd yn y wlad er mwyn profi pobl Israel (sef y rhai oedd ddim wedi gorfod brwydro yn erbyn y Canaaneaid eu hunain).
2 Roedd e eisiau i bob cenhedlaeth oedd ddim wedi cael profiad o ryfela, ddysgu sut i ymladd.
3 Dyma'r bobloedd oedd ar ôl: Y Philistiaid a'u pum arweinydd, y Canaaneaid i gyd, y Sidoniaid a'r Hefiaid oedd yn byw yn mynydd-dir Libanus (o Fynydd Baal-hermon i Fwlch Chamath).
4 Cafodd y rhain eu gadael i brofi pobl Israel, er mwyn gweld fyddai'r bobl yn ufudd i'r gorchmynion roedd yr ARGLWYDD wedi'u rhoi i'w hynafiaid nhw drwy Moses.
5 Roedd pobl Israel wedi setlo i lawr yng nghanol y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid.
6 Roedden nhw'n priodi eu merched, ac yn rhoi eu merched eu hunain i'r Canaaneaid. Ac roedden nhw'n addoli eu duwiau nhw hefyd.
Othniel
7 Gwnaeth pobl Israel rywbeth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw ac addoli delwau o Baal a pholion y dduwies Ashera.
8 Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. Dyma fe'n gadael i Cwshan-rishathaïm, brenin Mesopotamia, Ref eu rheoli nhw. Roedden nhw'n gaethion i Cwshan-rishathaïm am wyth mlynedd.
9 Pan waeddodd pobl Israel ar yr ARGLWYDD am help, dyma fe'n codi rhywun i'w hachub nhw – Othniel, mab Cenas (brawd iau Caleb).
10 Daeth Ysbryd yr ARGLWYDD arno, a dyma fe'n arwain Israel i frwydro yn erbyn Cwshan-rishathaïm. A dyma Othniel yn ennill y frwydr.
11 Ar ôl hynny, roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg mlynedd, nes i Othniel, mab Cenas, farw.
Ehwd
12 Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly, o achos hyn, dyma'r ARGLWYDD yn gadael i Eglon, brenin Moab, reoli Israel.
13 Roedd Eglon wedi ffurfio cynghrair milwrol gyda'r Ammoniaid a'r Amaleciaid i ymosod ar Israel. Dyma nhw'n ennill y frwydr ac yn dal Jericho. Ref
14 Buodd pobl Israel yn gaethion i'r brenin Eglon am un deg wyth mlynedd.
15 Pan waeddodd pobl Israel ar yr ARGLWYDD am help, dyma fe'n codi rhywun i'w hachub nhw. Ei enw oedd Ehwd, mab Gera, o lwyth Benjamin. Roedd yn ddyn llaw chwith.
Roedd Ehwd i fod i fynd â threthi pobl Israel i Eglon, brenin Moab.
16 Ond cyn mynd, dyma Ehwd yn gwneud cleddyf iddo'i hun. Roedd y cleddyf tua 45 centimetr o hyd, gyda min ar ddwy ochr y llafn. Dyma fe'n strapio'r cleddyf ar ei ochr dde, o dan ei ddillad.
17 Yna dyma fe'n mynd â'r arian trethi i Eglon. Roedd Eglon yn ddyn tew iawn.
18 Ar ôl cyflwyno'r trethi i'r brenin, dyma Ehwd a'r dynion oedd wedi cario'r arian yn troi am adre.
19 Ond pan ddaethon nhw at y delwau cerrig yn Gilgal, dyma Ehwd yn troi yn ei ôl. A dyma fe'n dweud wrth y Brenin Eglon, “Mae gen i neges gyfrinachol i'w rhannu gyda chi, eich mawrhydi.”
“Ust! Aros eiliad,” meddai Eglon; a dyma fe'n anfon ei weision i gyd allan.
20 Felly roedd yn eistedd ar ei ben ei hun yn yr ystafell uchaf – ystafell agored braf. Dyma Ehwd yn mynd draw ato, a dweud, “Mae gen i neges i chi gan Dduw!”
Pan gododd y brenin ar ei draed,
21 tynnodd Ehwd ei gleddyf allan gyda'i law chwith a'i wthio i stumog Eglon.
22 Aeth mor ddwfn nes i'r carn fynd ar ôl y llafn, a diflannu yn ei floneg. Allai Ehwd ddim tynnu'r cleddyf allan.
23 Yna dyma fe'n cloi drysau'r ystafell, a dianc drwy ddringo i lawr y twll carthion o'r tŷ bach.
24 Pan ddaeth gweision y brenin yn ôl a darganfod fod y drysau wedi'u cloi, roedden nhw'n meddwl, “Mae'n rhaid ei fod e'n y tŷ bach.”
25 Ond ar ôl aros ac aros am amser hir, dyma nhw'n dechrau teimlo'n anesmwyth. Doedd e'n dal heb agor y drysau. Felly dyma nhw'n nôl allwedd a mynd i mewn. A dyna lle roedd eu meistr, yn gorwedd yn farw ar lawr!
26 Ond erbyn hynny roedd Ehwd wedi hen ddianc. Roedd wedi mynd heibio'r delwau cerrig, ac ar y ffordd i Seira.
27 Pan gyrhaeddodd Seira, dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd ar fryniau Effraim, i alw byddin at ei gilydd. A dyma ddynion Effraim yn mynd yn ôl i lawr gydag e o'r bryniau. Ehwd oedd yn eu harwain.
28 “Dewch!” meddai. “Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i chi yn erbyn eich gelynion, y Moabiaid!”
Felly aethon nhw ar ei ôl i lawr i ddyffryn Iorddonen, a dal y rhydau lle mae pobl yn croesi drosodd i Moab. Doedden nhw ddim yn gadael i unrhyw un groesi.
29 Y diwrnod hwnnw, lladdon nhw tua deg mil o filwyr gorau Moab – dynion cryf i gyd. Wnaeth dim un ohonyn nhw ddianc.
30 Cafodd byddin Moab ei threchu'n llwyr y diwrnod hwnnw, ac roedd heddwch yn y wlad am wyth deg mlynedd.
Shamgar
31 Ar ôl Ehwd, yr un nesaf i achub Israel oedd Shamgar, mab Anat. Lladdodd Shamgar chwe chant o Philistiaid gyda ffon brocio ychen.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity