|
|
2 Pan mae arweinwyr Israel yn arwain,
a dynion yn gwirfoddoli'n frwd,
Molwch yr
ARGLWYDD!3 Clywch, frenhinoedd! Gwrandwch, arweinwyr!
Dw i'n canu i'r
ARGLWYDD! –ie, canu mawl i'r
ARGLWYDD, Duw Israel. ARGLWYDD, pan adewaist Seir,a chroesi gwastatir Edom,
dyma'r ddaear yn crynu,
a chymylau'r awyr yn tywallt y glaw.
o flaen yr
ARGLWYDD, Duw Sinai;o flaen yr
ARGLWYDD, Duw Israel.6 Yn nyddiau Shamgar, mab Anat,
ac eto yn nyddiau Jael,
roedd pobl yn osgoi'r priffyrdd
ac yn teithio ar ffyrdd troellog cefn gwlad.
7 Roedd rhyfelwyr yn brin yn Israel,
nes i ti, Debora, godi,
fel mam yn amddiffyn Israel.
8 Roedd Israel yn dilyn duwiau newydd,
a daeth gelynion i ymosod ar eu giatiau.
Doedd dim tarian na gwaywffon i'w cael
gan bedwar deg o unedau milwrol Israel.
ARGLWYDD!Diolch am arweinwyr Israel,
a'r dynion wnaeth wirfoddoli i ymladd.
chi sy'n marchogaeth asennod gwynion,
yn eistedd yn gyfforddus ar garthenni cyfrwy,
a chi sy'n gorfod cerdded ar y ffordd.
11 Gwrandwch arnyn nhw'n canu wrth y ffynhonnau! –
yn canu am y cwbl Ref wnaeth yr
ARGLWYDD, ’a'r cwbl wnaeth rhyfelwyr Israel.
Aeth byddin yr
ARGLWYDD at giatiau'r ddinas!Deffra! deffra! cana gân!
Ar dy draed, Barac!
Cymer garcharorion rhyfel, fab Abinoam!
13 A dyma'r dynion oedd ar gael
yn dod i lawr at eu harweinwyr.
Daeth pobl yr
ARGLWYDDi ymuno â mi fel rhyfelwyr.
(lle bu'r Amaleciaid yn byw),
a milwyr Benjamin yn eu dilyn.
Daeth capteiniaid i lawr o Machir,
ac uchel-swyddogion o Sabulon.
15 Roedd arweinwyr Issachar gyda Debora,
ac yn ufudd i orchymyn Barac,
yn rhuthro ar ei ôl i'r dyffryn.
Ond roedd pobl llwyth Reuben
yn methu penderfynu beth i'w wneud.
16 Pam wnaethoch chi aros wrth y corlannau?
Ai i wrando ar y bugeiliaid yn canu eu pibau i'r defaid?
Oedden, roedd pobl llwyth Reuben
yn methu penderfynu beth i'w wneud.
yn aros yr ochr draw i'r Iorddonen
Ac yna llwyth Dan –
pam wnaethon nhw symud i weithio yn y dociau?
Ac Asher, oedd yn byw ar yr arfordir –
arhosodd yntau ger yr harbwr.
18 Roedd dynion Sabulon a Nafftali
yn mentro'u bywydau ar faes y gâd.
19 Daeth brenhinoedd Canaan i ymladd yn ein herbyn,
yn Taanach wrth nentydd Megido.
Ond gymron nhw ddim arian oddi arnon ni.
20 Daeth sêr yr awyr i ymuno yn y frwydr,
ac ymladd yn erbyn Sisera.
21 Dyma afon Cison yn eu hysgubo i ffwrdd;
roedd yr afon yn eu hwynebu – afon Cison.
O, saf ar yddfau'r rhai cryfion!
22 Roedd carnau eu ceffylau yn taro'r tir,
a'u meirch yn carlamu i ffwrdd.
23 “Melltithiwch dref Meros!” meddai angel yr
ARGLWYDD.“Melltithiwch bawb sy'n byw yno,
am iddyn nhw beidio dod i ymladd brwydr yr
ARGLWYDD –ymladd yn erbyn arwyr y gelyn.”
24 Mae Jael yn haeddu ei hanrhydeddu,
sef gwraig Heber y Cenead.
Mae hi'n haeddu anrhydedd mwy
nag unrhyw wraig sy'n byw mewn pabell.
25 Gofynnodd Sisera am ddŵr, a rhoddodd iddo laeth;
a phowlen hardd o gaws colfran.
26 Gyda peg pabell yn ei llaw chwith
a morthwyl yn y llaw dde,
trawodd Sisera a malu ei benglog –
bwrw'r peg drwy ochr ei ben!
Syrthio, a gorwedd yn llipa.
Gorwedd ar lawr wrth ei thraed,
yn llipa a difywyd – yn farw!
28 Wrth y ffenest roedd ei fam yn disgwyl;
mam Sisera'n gweiddi yn ei gofid:
“Pam mae e mor hir yn dod nôl?
Pam nad oes sŵn carnau a cherbyd yn cyrraedd?”
29 Ac mae'r gwragedd doeth o'i chwmpas
yn ateb, a hithau'n meddwl yr un fath,
30 “Mae'n siŵr eu bod nhw'n casglu trysorau,
a merch neu ddwy i bob dyn ei threisio!
Dillad lliwgar, hardd i Sisera;
dillad gwych o ddefnydd wedi'i frodio,
a sgarff neu ddau i'w gwisgo!”
ARGLWYDD, boed i dy elynion i gydddarfod yr un fath!
Ond boed i'r rhai sy'n dy garu di
ddisgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd!
Ar ôl hynny, roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg o flynyddoedd.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity