BARNWYR 9
Abimelech eisiau bod yn frenin
1 Aeth Abimelech, mab Jerwb-baal (sef Gideon), i Sichem i weld ei berthnasau. Dwedodd wrthyn nhw, ac wrth bobl y clan i gyd,
2 “Gofynnwch i arweinwyr Sichem, ‘Ydych chi eisiau saith deg o feibion Jerwb-baal yn llywodraethu arnoch chi, neu dim ond un dyn? Cofiwch mod i'n perthyn drwy waed i chi.’”
3 Felly dyma'i berthnasau yn mynd i weld arweinwyr Sichem ar ei ran. Roedden nhw'n tueddu i'w gefnogi am ei fod yn perthyn drwy waed iddyn nhw.
4 Dyma nhw'n rhoi saith deg darn arian iddo o deml Baal-berith. A defnyddiodd Abimelech yr arian i gyflogi criw o rapsgaliwns gwyllt i'w ddilyn.
5 Aeth yn ôl i gartref ei dad yn Offra, a lladd ei frodyr, sef saith deg mab Gideon, ar yr un garreg. Dim ond Jotham, mab ifancaf Gideon, lwyddodd i ddianc drwy guddio.
6 Yna dyma arweinwyr Sichem a Beth-milo yn dod at ei gilydd at y dderwen sydd wrth y golofn yn Sichem, i wneud Abimelech yn frenin.
7 Pan glywodd Jotham am hyn, dyma fe'n dringo i gopa Mynydd Gerisim a gweiddi'n uchel ar y bobl islaw, “Gwrandwch arna i, arweinwyr Sichem – os ydych chi eisiau i Dduw wrando arnoch chi.
8 Aeth y coed allan i ddewis brenin.
A dyma nhw'n dweud wrth y goeden olewydd,
‘Bydd yn frenin arnon ni.’
9 Ond atebodd y goeden olewydd,
‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu olew,
sy'n bendithio Duw a dynion,
er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’
10 Felly dyma'r coed yn dweud wrth y goeden ffigys,
‘Bydd di yn frenin arnon ni.’
11 Ond atebodd y goeden ffigys,
‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu ffigys melys,
fy ffrwyth hyfryd,
er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’
12 Felly dyma'r coed yn dweud wrth y winwydden,
‘Bydd di yn frenin arnon ni.’
13 Ond atebodd y winwydden,
‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu gwin,
sy'n gwneud duwiau a dynion yn hapus,
er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’
14 Felly dyma'r coed yn dweud wrth berth o ddrain,
‘Bydd di yn frenin arnon ni.’
15 A dyma'r berth ddrain yn ateb,
‘Os ydych chi wir eisiau fi'n frenin,
dewch i gysgodi oddi tanaf fi.
Os na wnewch chi, bydda i'n cynnau tân
fydd yn llosgi coed cedrwydd Libanus.’
16-17 “Roedd fy nhad i wedi ymladd drosoch chi a mentro'i fywyd i'ch achub chi o afael y Midianiaid. Ai dyma sut ydych chi'n diolch iddo – drwy wneud Abimelech yn frenin? Ydych chi wedi ymddwyn yn anrhydeddus? Ydych chi wedi bod yn deg â Gideon Ref a'i deulu? Naddo!
18 Dych chi wedi'i fradychu. Dych chi wedi lladd ei feibion – saith deg ohonyn nhw – ar un garreg. A dyma chi, yn gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin, dim ond am ei fod yn perthyn i chi.
19 Os ydych chi wedi trin Gideon a'i deulu yn anrhydeddus, boed i Abimelech eich gwneud chi'n hapus, ac i chi ei wneud e'n hapus.
20 Ond os ddim, boed i Abimelech gynnau tân fydd yn eich llosgi chi, arweinwyr Sichem a Beth-milo! A boed i arweinwyr Sichem a Beth-milo gynnau tân fydd yn dinistrio Abimelech!”
21 Yna dyma Jotham yn dianc i dref Beër i gadw o ffordd Abimelech, ei hanner brawd.
Sichem yn gwrthryfela yn erbyn Abimelech
22 Pan oedd Abimelech wedi rheoli Israel am dair blynedd,
23 anfonodd Duw ysbryd i godi helynt rhyngddo fe ac arweinwyr Sichem. Dyma arweinwyr Sichem yn gwrthryfela yn ei erbyn.
24 Gwnaeth Duw hyn i'w gosbi e ac arweinwyr Sichem am lofruddio meibion Gideon i gyd – y saith deg ohonyn nhw.
25 Dyma arweinwyr Sichem yn gosod lladron yn y bryniau, i ymosod ar bawb oedd yn teithio'r ffordd honno. A dyma Abimelech yn clywed am y peth.
26 Bryd hynny, dyma Gaal fab Efed yn symud i fyw i Sichem gyda'i berthnasau. A dyma arweinwyr Sichem yn troi ato fe i'w hamddiffyn nhw.
27 Pan oedd hi'n adeg y cynhaeaf grawnwin, roedd pobl Sichem wedi bod yn casglu'r grawnwin, eu sathru i gael y sudd ohonyn nhw, ac yna wedi mynd i deml eu Duw i ddathlu a chynnal parti. Dyna lle roedden nhw, yn rhegi Abimelech wrth fwynhau gwledda ac yfed.
28 “Pwy ydy Abimelech?” meddai Gaal fab Efed. “Pam ddylen ni, bobl Sichem, fod yn weision bach iddo? Mab Gideon ydy e, a Sebwl yn ddirprwy wedi'i benodi ganddo. Un o ddisgynyddion Hamor, tad Sechem, ddylen ni ei wasanaethu. Pam ddylen ni wasanaethu Abimelech?
29 Petawn i'n rheoli pobl Sichem, byddwn i'n cael gwared ag Abimelech! Byddwn i'n dweud wrtho, ‘Gwell i ti gael byddin fwy os wyt ti am ddod allan yn ein herbyn ni!’”
30 Pan glywodd Sebwl, llywodraethwr Sichem, beth oedd Gaal wedi'i ddweud, roedd yn wyllt gynddeiriog.
31 Anfonodd negeswyr at Abimelech, oedd yn Arwma, Ref i ddweud, “Gwylia dy hun! Mae Gaal fab Efed a'i frodyr wedi dod i Sichem i godi twrw a chael y dref i wrthryfela yn dy erbyn di.
32 Tyrd yma gyda dy fyddin dros nos, a disgwyl tu allan i'r dref.
33 Yna wrth iddi wawrio bore yfory, ymosod arni. Pan fydd Gaal a'i ddynion yn dod allan i ymladd, gelli wneud beth fynni iddo.”
34 Felly yn ystod y nos, dyma Abimelech a'i fyddin yn dod i baratoi i ymosod ar Sichem. Rhannodd ei fyddin yn bedair uned filwrol.
35 Y bore wedyn, roedd Gaal fab Efed wedi codi a mynd i sefyll tu allan i giât y dref, a daeth Abimelech a'i fyddin i'r golwg.
36 Pan welodd Gaal nhw, dyma fe'n dweud wrth Sebwl, “Edrych, mae yna bobl yn dod i lawr o'r mynyddoedd acw.” Ond dyma Sebwl yn ei ateb, “Cysgodion wyt ti'n eu gweld – mae'n edrych fel pobl o'r fan yma.”
37 Ond dyma Gaal yn dweud eto, “Edrych, mae yna bobl yn dod i lawr o Tabbwr-erets, ac mae yna griw arall yn dod o gyfeiriad Derwen y Dewiniaid.”
38 Dyma Sebwl yn dweud wrtho, “Ble mae'r geg fawr yna nawr? Ti ddwedodd, ‘Pwy ydy Abimelech i ni fod yn weision bach iddo?’ Wel, dyma'r dynion roeddet ti'n eu bychanu! Dos allan i ymladd gyda nhw!”
39 Felly dyma Gaal ac arweinwyr Sichem yn mynd allan i ymladd gydag Abimelech.
40 Ond roedd rhaid iddyn nhw ddianc o flaen byddin Abimelech, a chafodd llawer iawn ohonyn nhw eu lladd yr holl ffordd at giât y dref.
41 Dyma Abimelech yn mynd yn ôl i Arwma. A dyma Sebwl yn gyrru Gaal a'i berthnasau allan o Sichem.
42 Ond y diwrnod wedyn, dyma bobl Sichem yn dod allan eto. Pan glywodd Abimelech am y peth,
43 dyma fe'n rhannu'i fyddin yn dair uned filwrol, a pharatoi i ymosod. Yna wrth i'r bobl ddod allan o'r dref, dyma fe'n ymosod arnyn nhw.
44 Aeth Abimelech a'i uned at giât y dref a blocio'r ffordd yn ôl, a dyma'r ddwy uned arall yn ymosod ar y bobl oedd wedi mynd allan i'r caeau, a'u lladd nhw.
45 Aeth y frwydr ymlaen drwy'r dydd. Dyma Abimelech yn concro'r dref a lladd pawb oedd ynddi. Yna dyma fe'n chwalu'r adeiladau i gyd a gwasgaru halen Ref dros y safle.
46 Pan glywodd arweinwyr Tŵr Shechem beth oedd wedi digwydd, aethon nhw i guddio yn y siambr dan ddaear yn nheml El-berith.
47 Clywodd Abimelech eu bod nhw gyda'i gilydd yno.
48 Felly dyma fe'n mynd â'i filwyr i ben Mynydd Salmon. Torrodd gangen oddi ar goeden gyda bwyell a'i rhoi ar ei ysgwydd, a dweud wrth ei filwyr, “Brysiwch! Gwnewch chithau'r un peth.”
49 Dyma nhw'n gwneud hynny, a mynd ar ei ôl. Yna dyma nhw'n gosod y canghennau yn erbyn waliau'r gaer, a'u rhoi ar dân. Cafodd pawb oedd yn byw yn Tŵr Shechem eu lladd – tua mil o ddynion a merched.
50 Wedyn dyma Abimelech yn mynd yn ei flaen i ymosod ar dref Thebes, a'i choncro.
51 Roedd tŵr amddiffynnol yng nghanol y dref, a dyma'r arweinwyr a phawb arall yn rhedeg i'r tŵr a chloi'r drws. Yna dyma nhw'n dringo i ben to'r tŵr.
52 Dyma Abimelech yn ymosod ar y tŵr, ond wrth iddo baratoi i roi'r fynedfa ar dân,
53 dyma ryw wraig yn gollwng maen melin ar ei ben a chracio'i benglog.
54 Galwodd ar y dyn ifanc oedd yn cario'i arfau, “Tyn dy gleddyf a lladd fi. Dw i ddim eisiau i bobl ddweud fod gwraig wedi fy lladd i.” Felly dyma'r dyn ifanc yn ei drywanu gyda'i gleddyf, a bu farw.
55 Pan sylweddolodd dynion Israel fod Abimelech wedi marw, dyma nhw i gyd yn mynd adre.
56 Dyna sut wnaeth Duw gosbi Abimelech am y drwg wnaeth e i deulu'i dad drwy ladd ei saith deg hanner brawd.
57 A dyna sut wnaeth Duw gosbi pobl Sichem hefyd, am y drwg wnaethon nhw. Daeth beth ddwedodd Jotham, mab Gideon, pan felltithiodd nhw, yn wir.
I'r pen