|
|
1 Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf.
Roedd y Gair gyda Duw,
a Duw oedd y Gair.
2 Roedd gyda Duw o'r dechrau cyntaf un.
3 Drwyddo y crëwyd popeth sy'n bod.
Does dim yn bodoli ond beth greodd e.
a'r bywyd hwnnw'n rhoi golau i bobl.
5 Mae'r golau'n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch,
a'r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd.
6 Daeth dyn o'r enw Ioan i'r golwg. Duw oedd wedi anfon Ioan i roi tystiolaeth – 7 i ddweud wrth bawb am y golau, er mwyn i bawb ddod i gredu drwy'r hyn oedd yn ei ddweud. 8 Dim Ioan ei hun oedd y golau; dweud wrth bobl am y golau roedd e'n ei wneud. 9 Roedd y golau go iawn, sy'n rhoi golau i bawb, ar fin dod i'r byd.ac er mai fe greodd y byd,
wnaeth pobl y byd mo'i nabod.
a chael ei wrthod
gan ei bobl ei hun.
12 Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn,
(sef y rhai sy'n credu ynddo)
hawl i ddod yn blant Duw.
13 Dim am fod ganddyn nhw waed Iddewig
(Dim canlyniad perthynas rywiol a chwant gŵr sydd yma);
Duw sydd wedi'u gwneud nhw'n blant iddo'i hun!
14 Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed;
daeth i fyw yn ein plith ni.
Gwelon ni ei ysblander dwyfol—
ei ysblander fel Mab unigryw
wedi dod oddi wrth y Tad
yn llawn haelioni a gwirionedd.
15 Dyma'r un roedd Ioan yn sôn amdano. Cyhoeddodd yn uchel, “Dyma'r un ddwedais i amdano, ‘Mae'r un sy'n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e'n bodoli o'm blaen i.’” 16 Ynddo fe mae un fendith hael wedi cael ei rhoi yn lle'r llall – a hynny i bob un ohonon ni! 17 Rhoddodd Moses Gyfraith Duw i ni; wedyn dyma rodd hael Duw a'i wirionedd yn dod i ni yn Iesu y Meseia. 18 Does neb erioed wedi gweld Duw, ond mae'r Mab unigryw hwn (sy'n Dduw ei hun, gyda'r berthynas agosaf posib â'r Tad), wedi dweud yn glir amdano.(Mathew 3:1-12; Marc 1:1-8; Luc 3:15-17)
19 Dyma'r arweinwyr Iddewig Ref yn Jerwsalem yn anfon offeiriaid a Lefiaid at Ioan Fedyddiwr i ofyn iddo pwy oedd. 20 Dwedodd Ioan yn blaen wrthyn nhw, “Dim fi ydy'r Meseia.” 21 “Felly pwy wyt ti?” medden nhw. “Ai Elias y proffwyd wyt ti?” “Nage” meddai Ioan. “Ai y Proffwyd soniodd Moses amdano wyt ti?” Atebodd eto, “Na.”Croes 22 “Felly, pwy ti'n ddweud wyt ti?” medden nhw yn y diwedd, “i ni gael rhoi rhyw ateb i'r rhai sydd wedi'n hanfon ni. Beth fyddet ti'n ei ddweud amdanat ti dy hun?” 23 Atebodd Ioan drwy ddyfynnu geiriau'r proffwyd Eseia: “ Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Cliriwch y ffordd i'r Arglwydd!’Croes Dyna ydw i.” 24 Yna dyma'r rhai ohonyn nhw oedd yn Phariseaid 25 yn gofyn iddo, “Ond pa hawl sydd gen ti i fedyddio os mai dim ti ydy'r Meseia, nac Elias, na'r Proffwyd?” 26 Atebodd Ioan nhw, “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i fedyddio pobl. Ond mae yna un dych chi ddim yn ei nabod yn sefyll yn eich plith chi – 27 sef yr un sy'n dod ar fy ôl i. Fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!” 28 Digwyddodd hyn i gyd yn Bethania Ref yr ochr draw i afon Iorddonen, lle roedd Ioan yn bedyddio.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity