|
|
(Mathew 26:6-13; Marc 14:3-9)
1 Chwe diwrnod cyn Gŵyl y Pasg cyrhaeddodd Iesu Bethania, lle roedd Lasarus yn byw (y dyn wnaeth Iesu ddod ag e'n ôl yn fyw). 2 Roedd swper wedi'i drefnu i anrhydeddu Iesu. Roedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o'r rhai oedd yn eistedd gydag Iesu wrth y bwrdd. 3 Daeth Mair i mewn gyda jar hanner litr o nard pur, oedd yn bersawr drud iawn. Tywalltodd y persawr ar draed Iesu ac wedyn sychu ei draed â'i gwallt. Roedd arogl y persawr i'w glywed drwy'r tŷ i gyd. 4 Ond yna dyma Jwdas Iscariot (y disgybl oedd yn mynd i fradychu Iesu yn nes ymlaen) yn protestio, 5 “Roedd y persawr yna'n werth ffortiwn! Dylid bod wedi'i werthu, a rhoi'r arian i bobl dlawd!” 6 (Doedd e ddim wir yn poeni am y tlodion. Beth oedd tu ôl i'w eiriau oedd y ffaith ei fod yn lleidr. Roedd Iesu a'i ddisgyblion yn rhannu un pwrs, a Jwdas oedd yn gyfrifol amdano, ond byddai'n arfer helpu ei hun i'r arian.) 7 “Gad lonydd iddi,” meddai Iesu. “Mae hi wedi cadw hwn ar gyfer y diwrnod pan fydda i'n cael fy nghladdu. 8 Bydd pobl dlawd o gwmpas i chi eu helpu nhw bob amser,Croes ond fydda i ddim yma bob amser.” 9 Roedd tyrfa fawr o bobl Jwdea wedi darganfod fod Iesu yn Bethania. Dyma nhw'n mynd yno, ddim jest i weld Iesu, ond hefyd i weld Lasarus yr un ddaeth Iesu ag e'n ôl yn fyw. 10 Ond roedd y prif offeiriaid wedi penderfynu fod rhaid cael gwared â Lasarus hefyd, 11 am fod llawer o bobl Jwdea wedi'u gadael nhw a dod i gredu yn Iesu o'i achos e.(Mathew 21:1-11; Marc 11:1-11; Luc 19:28-40)
12 Y diwrnod wedyn clywodd y dyrfa fawr oedd wedi dod i'r Ŵyl fod Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem. 13 Dyma nhw'n torri canghennau o'r coed palmwydd a mynd allan i'w gyfarfod gan weiddi,“Hosanna! Clod iddo!”
“Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd
wedi'i fendithio'n fawr!”Croes
“Ie, dyma Frenin Israel!” 14 Eisteddodd Iesu ar gefn asyn, fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd,15 “Paid ag ofni, ddinas Jerwsalem.
Edrych! dy frenin sy'n dod,
ar gefn ebol asen.”Croes
16 (Doedd y disgyblion ddim wedi deall arwyddocâd hyn i gyd ar y pryd. Dim ond ar ôl i Iesu gael ei anrhydeddu wnaethon nhw sylweddoli fod y pethau yma wedi'u hysgrifennu amdano, a'u bod nhw wedi digwydd iddo.) 17 Roedd llawer iawn o'r bobl yn y dyrfa wedi gweld Iesu'n galw Lasarus allan o'r bedd a dod ag e'n ôl yn fyw, ac roedden nhw wedi bod yn dweud wrth bawb arall beth ddigwyddodd. 18 Dyna pam roedd cymaint o bobl wedi mynd allan i'w gyfarfod – roedden nhw wedi clywed am yr arwydd gwyrthiol roedd wedi'i wneud. 19 Dyma'r Phariseaid yn dweud wrth ei gilydd, “Does dim pwynt! Edrychwch! Mae fel petai'r byd i gyd yn mynd ar ei ôl e!”“Arglwydd, oes rhywun wedi credu ein neges?
Oes rhywun wedi gweld mor rymus ydy'r Arglwydd?”Croes
39 Ac mae Eseia'n dweud mewn man arall pam oedd hi'n amhosib iddyn nhw gredu:40 “Mae'r Arglwydd wedi dallu eu llygaid
a chaledu eu calonnau;
Fel arall, bydden nhw'n gweld a'u llygaid,
yn deall go iawn, ac yn troi,
a byddwn i'n eu hiacháu nhw.”Croes
41 (Dwedodd Eseia y pethau yma am ei fod wedi gweld ysblander dwyfol Iesu. Am Iesu roedd e'n siarad.) 42 Ac eto roedd nifer o arweinwyr crefyddol, hyd yn oed, wedi dod i gredu ynddo. Ond doedden nhw ddim yn barod i gyfaddef hynny'n agored am eu bod yn ofni'r Phariseaid, a ddim am gael eu diarddel o'r synagog. 43 Roedd yn well ganddyn nhw gael eu canmol gan bobl na chan Dduw. 44 Yna dyma Iesu'n cyhoeddi'n uchel, “Mae'r rhai sy'n credu ynof fi yn credu yn Nuw hefyd, yn yr un sydd wedi fy anfon i. 45 Pan maen nhw yn fy ngweld i maen nhw'n gweld yr un sydd wedi fy anfon i. 46 Dw i wedi dod fel golau i'r byd, fel bod dim rhaid i'r bobl sy'n credu ynof fi aros yn y tywyllwch. 47 “Dim fi sy'n condemnio rhywun sydd wedi clywed beth dw i'n ddweud a gwrthod ufuddhau. Dod i achub y byd wnes i, dim dod i gondemnio'r byd. 48 Ond bydd pawb sy'n fy ngwrthod i ac yn gwrthod derbyn beth dw i'n ddweud yn cael eu barnu – bydd beth ddwedais i yn eu condemnio nhw ar y dydd olaf. 49 Dw i ddim wedi siarad ar fy liwt fy hun. Y Tad sydd wedi fy anfon i sydd wedi dweud wrtho i beth i'w ddweud, a sut i'w ddweud. 50 A dw i'n gwybod fod beth mae e'n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. Felly dw i'n dweud yn union beth mae'r Tad yn ei ddweud wrtho i.”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity