|
|
(Mathew 27:32-44; Marc 15:21-32; Luc 23:26-43)
Felly aeth y milwyr ag Iesu i ffwrdd. 17 Aeth allan, yn cario'i groes, i'r lle sy'n cael ei alw Lle y Benglog (‛Golgotha‛ yn Hebraeg). 18 Yno, dyma nhw'n hoelio Iesu ar groes, a dau arall hefyd – un bob ochr iddo, a Iesu yn y canol. 19 Trefnodd Peilat fod arwydd yn cael ei rwymo ar ei groes, yn dweud: IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON. 20 Gwelodd llawer o Iddewon yr arwydd yma, am fod y lle y cafodd Iesu ei groeshoelio yn agos i'r ddinas. Roedd yr arwydd mewn tair iaith – Hebraeg, Lladin a Groeg. 21 Aeth y prif offeiriaid at Peilat i gwyno, “Ddylet ti ddim ysgrifennu, ‛Brenin yr Iddewon‛, ond yn hytrach fod y dyn yna'n hawlio mai fe oedd Brenin yr Iddewon.” 22 Atebodd Peilat, “Dw i wedi'i ysgrifennu, a dyna ddiwedd ar y mater.” 23 Pan wnaeth y milwyr groeshoelio Iesu, dyma nhw'n cymryd ei ddillad a'u rhannu rhwng y pedwar ohonyn nhw. Ond roedd ei grys yn un darn o frethyn o'r top i'r gwaelod. 24 Felly dyma nhw'n dweud, “Ddylen ni ddim rhwygo hwn. Gadewch i ni gamblo amdano.” Digwyddodd hyn er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir,“Maen nhw wedi rhannu fy nillad rhyngddyn nhw,
a gamblo am fy nghrys.”Croes
Dyna'n union wnaeth y milwyr! 25 Roedd mam Iesu yn sefyll wrth ymyl ei groes, a'i fodryb hefyd, a Mair gwraig Clopas a Mair Magdalen. 26 Pan welodd Iesu ei fam yn sefyll yno, a'r disgybl oedd Iesu'n ei garu yn sefyll gyda hi, meddai wrth ei fam, “Mam annwyl, cymer e fel mab i ti,” 27 ac wrth y disgybl, “Gofala amdani hi fel petai'n fam i ti.” Felly o hynny ymlaen aeth mam Iesu i fyw gyda'r disgybl hwnnw.(Mathew 27:45-56; Marc 15:33-41; Luc 23:44-49)
28 Roedd Iesu'n gwybod ei fod wedi gwneud popeth roedd gofyn iddo'i wneud. “Dw i'n sychedig,”Croes meddai, gan gyflawni beth oedd yr ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud. 29 Roedd jwg o win sur rhad wrth ymyl, felly dyma nhw'n trochi ysbwng yn y gwin a'i rwymo ar goesyn isop i'w godi i fyny at wefusau Iesu. 30 Ar ôl cael diod, dyma Iesu'n dweud, “Mae'r cwbl wedi'i wneud.” Yna plygodd ei ben a marw. 31 Gan ei bod yn ddiwrnod paratoi ar gyfer wythnos y Pasg, a'r Saboth hwnnw'n ddiwrnod arbennig iawn, dyma'r arweinwyr Iddewig yn mynd i weld Peilat. Doedd ganddyn nhw ddim eisiau i'r cyrff gael eu gadael yn hongian ar y croesau dros y Saboth. Dyma nhw'n gofyn i Peilat ellid torri coesau Iesu a'r ddau leidr iddyn nhw farw'n gynt, ac wedyn gallai'r cyrff gael eu cymryd i lawr. 32 Felly dyma'r milwyr yn dod ac yn torri coesau'r ddau ddyn oedd wedi'u croeshoelio gyda Iesu. 33 Ond pan ddaethon nhw at Iesu gwelon nhw ei fod wedi marw'n barod. Yn lle torri ei goesau, 34 dyma un o'r milwyr yn trywanu Iesu yn ei ochr gyda gwaywffon, a dyma ddŵr a gwaed yn llifo allan. 35 Dw i'n dweud beth welais i â'm llygaid fy hun, ac mae beth dw i'n ddweud yn wir. Mae'r cwbl yn wir, a dw i'n rhannu beth welais i er mwyn i chi gredu. 36 Digwyddodd y pethau hynny er mwyn i beth sydd yn yr ysgrifau sanctaidd ddod yn wir: “Fydd dim un o'i esgyrn yn cael ei dorri,”Croes 37 ac fel mae'n dweud yn rhywle arall, “Byddan nhw'n edrych ar yr un maen nhw wedi'i drywanu.”Croes(Mathew 27:57-61; Marc 15:42-47; Luc 23:50-56)
38 Wedyn, dyma Joseff o Arimathea yn mynd at Peilat i ofyn am ganiatâd i gymryd corff Iesu. (Roedd Joseff yn un o ddilynwyr Iesu, ond yn cadw'n ddistaw am y peth am fod ganddo ofn yr arweinwyr Iddewig.) Cafodd ganiatâd Peilat, a daeth a chymryd y corff. 39 Roedd Nicodemus gydag e hefyd, sef y dyn oedd wedi mynd i weld Iesu ganol nos.Croes Daeth Nicodemus a tua 34 cilogram o fyrr ac aloes, 40 i'w ddefnyddio wrth rwymo corff Iesu gyda stribedi o liain. Dyma sut roedd yr Iddewon yn arfer claddu pobl. 41 Roedd gardd wrth ymyl y man lle cafodd Iesu ei groeshoelio, ac roedd bedd newydd yn yr ardd – doedd neb erioed wedi'i gladdu ynddo o'r blaen. 42 Am ei bod hi'n bnawn Gwener (y diwrnod cyn y dydd Saboth Iddewig), ac am fod y bedd mor agos, dyma nhw'n rhoi Iesu i orwedd yno.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity