IOAN 5
Iacháu wrth y pwll
1 Beth amser wedyn, aeth Iesu i Jerwsalem eto i un o wyliau'r Iddewon. Ref
2 Yn Jerwsalem wrth ymyl Giât y Defaid mae pwll o'r enw Bethsatha Ref (enw Hebraeg). O gwmpas y pwll mae pum cyntedd colofnog gyda tho uwchben pob un.
’
3 Roedd nifer fawr o bobl anabl yn gorwedd yno – rhai yn ddall, eraill yn gloff neu wedi'u parlysu. Ref
’’
5 Roedd un dyn yno oedd wedi bod yn anabl ers tri deg wyth o flynyddoedd.
6 Gwelodd Iesu e'n gorwedd yno, ac roedd yn gwybod ers faint roedd y dyn wedi bod yn y cyflwr hwnnw, felly gofynnodd iddo, “Wyt ti eisiau gwella?”
7 “Syr,” meddai'r dyn, “does gen i neb i'm helpu i fynd i mewn i'r pwll pan mae'r dŵr yn cyffroi. Tra dw i'n ceisio mynd i mewn, mae rhywun arall yn llwyddo i gyrraedd o mlaen i.”
8 Yna dwedodd Iesu wrtho, “Saf ar dy draed! Cod dy fatras a cherdda.”
9 A dyma'r dyn yn cael ei wella ar unwaith; cododd ei fatras a dechrau cerdded. Digwyddodd hyn ar ddydd Saboth yr Iddewon,
10 felly dyma'r arweinwyr Iddewig yn dweud wrth y dyn oedd wedi cael ei iacháu, “Mae hi'n ddydd Saboth heddiw; rwyt ti'n torri'r Gyfraith wrth gario dy fatras!” Ref
11 Ond atebodd, “Ond y dyn wnaeth fy iacháu i ddwedodd wrtho i, ‘Cod dy fatras a cherdda.’”
12 Felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Pwy ydy'r dyn ddwedodd hynny wrthot ti?”
13 Ond doedd gan y dyn gafodd ei iacháu ddim syniad, ac roedd Iesu wedi llithro i ffwrdd am fod tyrfa fawr wedi casglu yno.
14 Yna'n nes ymlaen daeth Iesu o hyd i'r dyn yn y deml, a dweud wrtho, “Edrych, rwyt ti'n iach bellach. Stopia bechu neu gallai rhywbeth gwaeth ddigwydd i ti.”
15 Aeth y dyn i ffwrdd a dweud wrth yr arweinwyr mai Iesu oedd wedi'i wella.
Bywyd drwy'r Mab
16 Dyna pam dechreuodd yr arweinwyr Iddewig erlid Iesu – am ei fod yn gwneud pethau fel hyn ar y dydd Saboth.
17 Ond yr ateb roddodd Iesu iddyn nhw oedd: “Mae fy Nhad yn dal i weithio drwy'r amser, felly dw innau'n gweithio hefyd.”
18 Am iddo ddweud hyn roedd yr arweinwyr crefyddol yn ceisio'n galetach fyth i'w ladd; doedd e ddim yn unig yn torri rheolau'r Saboth, roedd hefyd yn galw Duw yn Dad iddo'i hun, a gwneud ei hun yn gyfartal â Duw.
19 Dyma ddwedodd Iesu wrthyn nhw: “Credwch chi fi, dydy'r Mab ddim yn gallu gwneud unrhyw beth ohono'i hun; dim ond beth mae'n gweld ei Dad yn ei wneud. Dw i, y Mab, yn gwneud yn union beth mae'r Tad yn ei wneud.
20 Mae'r Tad yn caru'r Mab ac yn dangos iddo bopeth mae'n ei wneud. Bydda i'n gwneud pethau mwy na iacháu'r dyn yma – pethau fydd yn eich syfrdanu chi hyd yn oed!
21 Bydd y Mab yn dod â pwy bynnag mae'n ei ddewis yn ôl yn fyw, yn union fel y mae'r Tad yn codi'r meirw a rhoi bywyd iddyn nhw.
22 A dydy'r Tad ddim yn barnu neb – mae wedi rhoi'r awdurdod i farnu yng ngofal y Mab,
23 er mwyn i bawb anrhydeddu'r Mab yn union fel y maen nhw'n anrhydeddu'r Tad. Pwy bynnag sy'n gwrthod anrhydeddu'r Mab, mae hefyd yn gwrthod anrhydeddu Duw'r Tad anfonodd y Mab i'r byd.
24 “Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan y rhai sy'n gwrando ar beth dw i'n ddweud ac yn credu'r un wnaeth fy anfon i. Dŷn nhw ddim yn cael eu condemnio; maen nhw wedi croesi o fod yn farw i fod yn fyw.
25 Credwch chi fi, mae'r amser yn dod, ac mae yma'n barod, pan fydd y rhai sy'n farw yn clywed llais Mab Duw a bydd pob un sy'n gwrando ar beth mae'n ei ddweud yn byw.
26 Fel mae gan y Tad fywyd ynddo'i hun i'w roi i eraill, mae wedi caniatáu i'r Mab fod â bywyd ynddo'i hun i'w roi i eraill.
27 Ac mae hefyd wedi rhoi'r awdurdod iddo i farnu, am mai fe ydy Mab y Dyn.
28 “Peidiwch rhyfeddu at hyn! Mae'r amser yn dod pan fydd pawb sy'n eu beddau yn clywed llais Mab Duw
29 ac yn dod allan – bydd y rhai sydd wedi gwneud da yn codi i gael bywyd tragwyddol, a bydd y rhai sydd wedi gwneud drwg yn codi i gael eu barnu.
30 Ond dw i'n gwneud dim ar fy liwt fy hun; dw i'n barnu yn union fel dw i'n clywed. A dw i'n dyfarnu'n iawn, achos dw i ddim yn gwneud beth dw i eisiau, dim ond beth mae Duw, wnaeth fy anfon i, eisiau.
Tystiolaeth pobl am Iesu
31 “Os mai dim ond fi sy'n tystio ar fy rhan fy hun, dydy'r dystiolaeth ddim yn ddilys.
32 Ond mae yna un arall sy'n rhoi tystiolaeth o'm plaid i, a dw i'n gwybod fod ei dystiolaeth e amdana i yn ddilys.
33 “Dych chi wedi anfon negeswyr at Ioan Fedyddiwr ac mae e wedi tystio am y gwir.
34 Does dim angen tystiolaeth ddynol arna i; ond dw i'n cyfeirio ato er mwyn i chi gael eich achub.
35 Roedd Ioan fel lamp ddisglair, a buoch chi'n mwynhau sefyll yn ei olau am gyfnod.
36 “Ond mae gen i dystiolaeth bwysicach na beth ddwedodd Ioan. Mae beth dw i'n ei wneud (y gwaith mae'r Tad wedi'i roi i mi ei gyflawni), yn dystiolaeth fod y Tad wedi fy anfon i.
37 Ac mae'r Tad ei hun, yr un anfonodd fi, wedi tystiolaethu amdana i. Ond dych chi ddim wedi clywed ei lais heb sôn am ei weld!
38 Dych chi ddim yn gwrando ar beth mae e'n ddweud, achos dych chi'n gwrthod credu ynof fi, yr un mae wedi'i anfon.
39 Dych chi'n astudio'r ysgrifau sanctaidd yn ddiwyd am eich bod yn meddwl y cewch fywyd tragwyddol wrth wneud hynny. Tystiolaethu amdana i mae'r ysgrifau hynny,
40 ond dych chi'n gwrthod troi ata i er mwyn cael y bywyd yna!
41 “Dw i ddim yn edrych am ganmoliaeth pobl.
42 Dw i'n eich nabod chi'n iawn. Dw i'n gwybod eich bod chi ddim yn caru Duw go iawn.
43 Dw i wedi dod i gynrychioli fy Nhad, a dych chi'n fy ngwrthod i. Os daw rhywun arall ar ei liwt ei hun, byddwch yn ei dderbyn e!
44 Sut allwch chi gredu? Dych chi'n mwynhau canmol eich gilydd, tra'n gwneud dim ymdrech i dderbyn y ganmoliaeth sy'n dod oddi wrth yr unig Dduw.
45 “Ond peidiwch tybio mai fi fydd yn eich cyhuddo chi o flaen y Tad. Moses ydy'r un sy'n eich cyhuddo chi. Ie, Moses, yr un dych chi wedi bod yn pwyso arno.
46 Tasech chi wir yn credu Moses, byddech chi'n fy nghredu i, achos amdana i ysgrifennodd e!
47 Ond gan eich bod chi ddim yn credu beth ysgrifennodd e, sut ydych chi'n gallu credu beth dw i'n ddweud?”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity