|
|
2 Yna bydda i'n casglu'r cenhedloedd i gyd
i “Ddyffryn Barn yr
ARGLWYDD” RefYno bydda i'n eu barnu nhw
am y ffordd maen nhw wedi trin
fy mhobl arbennig i, Israel.
Am eu gyrru nhw ar chwâl i bobman,Croes
rhannu y tir rois i iddyn nhw
3 a gamblo i weld pwy fyddai'n eu cael nhw'n gaethion.
Gwerthu bachgen bach am wasanaeth putain,
a merch fach am win i'w yfed.
4 Pam wnaethoch chi'r pethau yma Tyrus a Sidon Ref ac ardal Philistia? Oeddech chi'n ceisio talu'n ôl i mi? Byddwch chi'n talu yn fuan iawn am beth wnaethoch chi! 5 Dwyn fy arian a'm aur, a rhoi'r trysorau gwerthfawr oedd gen i yn eich temlau paganaidd chi. 6 Gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid, er mwyn eu symud nhw yn bell o'u gwlad eu hunain. 7 Wel, dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl. A bydda i'n gwneud i chi dalu am beth wnaethoch chi! 8 Bydda i'n rhoi'ch meibion a'ch merched chi i bobl Jwda i'w gwerthu. Byddan nhw'n eu gwerthu nhw i'r Sabeaid Ref sy'n byw yn bell i ffwrdd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud!Paratowch eich hunain i fynd i ryfel.
Galwch eich milwyr gorau!
Dewch yn eich blaen i ymosod!
10 Curwch eich sychau aradr yn gleddyfau,
a'ch crymanau tocio yn waywffyn. Ref
Bydd rhaid i'r ofnus ddweud, “Dw i'n filwr dewr!”
11 Brysiwch! Dewch, chi'r gwledydd paganaidd i gyd.
Dewch at eich gilydd yno!
(“
ARGLWYDD, anfon dy filwyr di i lawr yno!”) Ref12 Dewch yn eich blaen, chi'r cenhedloedd,
i Ddyffryn Barn yr
ARGLWYDD. RefYno bydda i'n eistedd i lawr
i farnu'r cenhedloedd i gyd.
i'w fedi gyda'r cryman!
Mae'r winwasg yn llawn grawnwin
sy'n barod i'w sathru! Ref
Bydd y cafnau yn gorlifo!
Maen nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg.
14 Mae tyrfaoedd enfawr yn Nyffryn y dyfarniad!
Mae dydd barn yr
ARGLWYDD yn agos yn Nyffryn y dyfarniad!15 Mae'r haul a'r lleuad wedi tywyllu,
a'r sêr wedi diflannu.
ARGLWYDD yn rhuo o Seion;a'i lais yn taranu o Jerwsalem,Croes
nes bod yr awyr a'r ddaear yn crynu.
Ond mae'r
ARGLWYDD yn lle saff i'w bobl guddio ynddo,mae e'n gaer ddiogel i bobl Israel.Croes
17 Byddwch chi'n deall mai fi ydy'r
ARGLWYDD eich Duwa'm bod i'n byw ar Seion, fy mynydd cysegredig.
Bydd dinas Jerwsalem yn lle cysegredig,Croes
a fydd byddinoedd estron ddim yn mynd yno byth eto.
18 Bryd hynny bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedd,Croes
a llaeth yn llifo o'r bryniau;
fydd nentydd Jwda byth yn sychu.
Bydd ffynnon yn tarddu a dŵr yn llifo
allan o deml yr
ARGLWYDD,Croesi ddyfrio Dyffryn y Coed Acasia. Ref
19 Am iddyn nhw fod mor greulon at bobl Jwda,
a lladd pobl ddiniwed yno,
bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag
ac Edom yn anialwch llwm.
20 Ond bydd pobl Jwda yn saff bob amser,
ac yn byw yn Jerwsalem o un genhedlaeth i'r llall.
21 Wna i ddial ar y rhai wnaeth dywallt eu gwaed nhw?
Gwnaf! Bydda i'n eu cosbi nhw.
Bydda i, yr ARGLWYDD, yn byw yn Seion am byth!Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity