|
|
2 Roeddwn i mewn trafferthion,
a dyma fi'n galw ar yr
ARGLWYDD,a dyma fe'n fy ateb i.
Dyma fi'n gweiddi am dy help di,
o ganol byd y meirw,
a dyma ti'n gwrando arna i!
i waelod y môr.
Roedd y cerrynt o'm cwmpas,
a'r tonnau mawr yn torri uwch fy mhen.
4 Roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi cael
fy ysgubo i ffwrdd gen ti am byth,
ac y byddwn i byth yn cael gweld
dy deml sanctaidd di eto!
roedd y môr dwfn o'm cwmpas,
a gwymon wedi lapio am fy mhen.
at waelod isa'r mynyddoedd.
Roedd giatiau byd y meirw
wedi cloi tu ôl i mi am byth.
Ond dyma ti,
ARGLWYDD Dduw,yn fy achub i o'r Pwll dwfn.
7 Pan oedd fy mywyd yn llithro i ffwrdd,
dyma fi'n galw arnat ti,
ARGLWYDD;a dyma ti'n gwrando ar fy ngweddi
o dy deml sanctaidd.
8 Mae'r rhai sy'n addoli eilunod diwerth
yn troi cefn ar dy drugaredd di.
9 Ond dw i'n mynd i offrymu aberth i ti,
a chanu mawl i ti'n gyhoeddus.
Bydda i'n gwneud beth dw i wedi ei addo!
Yr
ARGLWYDD ydy'r un sy'n achub! 10 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth y pysgodyn am chwydu Jona ar dir sych.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity