JOSUA 11
Yr Ymgyrch i'r Gogledd
Taro Jabin a brenhinoedd eraill y Gogledd
1 Pan glywodd Jabin, brenin Chatsor, beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n anfon neges at frenhinoedd eraill yr ardal honno – Iobab brenin Madon, brenin Shimron, brenin Achsaff,
2 a'r brenhinoedd oedd yn teyrnasu yn y bryniau i'r gogledd, yn Nyffryn Iorddonen Ref i'r de o Lyn Galilea, Ref ac ar yr iseldir ac arfordir Dor i'r gorllewin.
3 Daeth Canaaneaid o gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid a Jebwsiaid o'r bryniau, a Hefiaid o'r ardal wrth droed Mynydd Hermon yn Mitspa.
4 Daeth y brenhinoedd yma i gyd allan gyda'i byddinoedd – roedd gormod ohonyn nhw i'w cyfrif! Roedden nhw fel y tywod ar lan y môr! Ac roedd ganddyn nhw lot fawr o geffylau a cherbydau rhyfel.
5 Daethon nhw i gyd at ei gilydd wrth ffynnon Merom, i ymladd yn erbyn Israel.
6 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn. Erbyn tua'r adeg yma yfory bydda i wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw i gyd yn gorwedd yn farw o flaen Israel. Gwna eu ceffylau yn gloff, a llosga eu cerbydau rhyfel.”
7 Felly dyma Josua a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw yn ddirybudd wrth Ddyfroedd Merom.
8 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r fuddugoliaeth i fyddin Israel. Ac aeth byddin Israel ar eu holau yr holl ffordd i Sidon a Misreffoth-maim, a hefyd i Ddyffryn Mitspe yn y dwyrain, a'u taro nhw i lawr. Wnaethon nhw adael neb ar ôl yn fyw.
9 Wedyn dyma Josua yn gwneud y ceffylau'n gloff ac yn llosgi'r cerbydau rhyfel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
10 Yna dyma Josua'n troi yn ôl a choncro tref Chatsor a lladd y brenin yno. (Chatsor oedd wedi bod yn arwain y teyrnasoedd yma i gyd.)
11 Dyma nhw'n lladd pawb yno – gafodd yr un enaid byw ei adael ar ôl. A dyma nhw'n llosgi'r dref.
12 Aeth Josua yn ei flaen i goncro'r trefi brenhinol i gyd, a lladd pawb oedd yn byw ynddyn nhw, yn union fel roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi gorchymyn.
13 Ond wnaeth pobl Israel ddim llosgi unrhyw un o'r trefi oedd wedi'u hadeiladu ar garnedd, ar wahân i Chatsor – hi oedd yr unig un gafodd ei llosgi.
14 Cymerodd pobl Israel bopeth gwerthfawr o'r trefi, a chadw'r anifeiliaid. Ond cafodd y boblogaeth i gyd eu lladd – adawyd neb yn fyw.
Y tiroedd enillodd Josua
15 Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi dweud wrth Josua beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn, a dyna wnaeth Josua. Gwnaeth bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud wrth Moses.
16 Llwyddodd Josua i goncro'r wlad gyfan, gan gynnwys y bryniau a'r iseldir yn y de, y Negef, tir Gosen, Dyffryn Iorddonen, Ref a bryniau ac iseldir Israel yn y gogledd hefyd.
17 Concrodd bobman o fynydd Halac, sydd i gyfeiriad Edom yn y de, yr holl ffordd i Baal-gad yn Nyffryn Libanus, wrth droed Mynydd Hermon. Daliodd bob un o'u brenhinoedd, a'u lladd.
18 Roedd Josua wedi bod yn rhyfela yn erbyn y brenhinoedd yma am amser hir iawn.
19 Wnaeth neb ohonyn nhw gytundeb heddwch gyda phobl Israel (dim ond yr Hefiaid yn Gibeon). Roedd rhaid i bobl Israel frwydro yn eu herbyn nhw i gyd.
20 Roedd yr ARGLWYDD ei hun wedi'u gwneud nhw'n ystyfnig, er mwyn iddyn nhw frwydro yn erbyn Israel. Roedd e eisiau i Israel eu dinistrio nhw'n llwyr, yn gwbl ddidrugaredd, fel roedd e wedi gorchymyn i Moses.
21 Yn ystod y cyfnod yma, llwyddodd Josua a'i fyddin i ddinistrio disgynyddion Anac hefyd, oedd yn byw yn y bryniau – yn Hebron, Debir, Anab, a gweddill bryniau Jwda ac Israel. Lladdodd Josua nhw i gyd, a dinistrio'u trefi.
22 Doedd neb o ddisgynyddion Anac ar ôl lle mae pobl Israel yn byw. Ond roedd rhai yn dal ar ôl yn Gasa, Gath ac Ashdod. Ref
23 Felly roedd Josua wedi concro'r wlad i gyd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Moses. A dyma Josua yn rhannu'r wlad rhwng y llwythau, ac yn rhoi eu tiriogaeth arbennig i bob un.
Ac roedd heddwch yn y wlad.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity