JOSUA 12
Crynodeb o hanes concro'r wlad
1 Dyma'r brenhinoedd wnaeth pobl Israel eu trechu i'r dwyrain o afon Iorddonen, a'r tiroedd wnaethon nhw eu meddiannu – o Ddyffryn Arnon i Fynydd Hermon, sef yr holl dir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen: Ref
- 2 Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon ac yn teyrnasu o Aroer, ger Dyffryn Arnon. Roedd yn teyrnasu o ganol Dyffryn Arnon i Ddyffryn Jabboc, sef y ffin gyda thiriogaeth pobl Ammon – yn cynnwys hanner Gilead.
3 Roedd ei diriogaeth yn cynnwys y tir sydd i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, yr holl ffordd o Lyn Galilea Ref i'r Môr Marw. Ref Yna o Beth-ieshimoth yn y dwyrain i lawr i'r de, cyn belled â llethrau Mynydd Pisga.
- 4 Og, brenin Bashan – un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl. Roedd Og yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei,
5 a'i diriogaeth yn ymestyn o Fynydd Hermon i Salca yn y gogledd; Bashan yn y dwyrain i'r ffin gyda theyrnasoedd Geshwr a Maacha yn y gorllewin; a hanner arall Gilead at y ffin gyda theyrnas Sihon, oedd yn frenin yn Cheshbon.
6 Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, a phobl Israel wedi'u trechu nhw a rhannu eu tiroedd nhw rhwng llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse.Croes
7 A dyma'r brenhinoedd wnaeth Josua a phobl Israel eu trechu i'r gorllewin o afon Iorddonen – o Baal-gad yn Nyffryn Libanus yn y gogledd i lawr i Fynydd Halac i gyfeiriad Edom yn y de. (Rhannodd Josua y tiroedd yma i gyd rhwng llwythau Israel.
8 Roedd yn cynnwys y bryniau a'r iseldir, y tir anial, y llethrau, anialwch Jwda a'r Negef, sef tiroedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid):
9 Brenin Jericho; brenin Ai, ger Bethel;
10 brenin Jerwsalem; brenin Hebron;
11 brenin Iarmwth; brenin Lachish;
12 brenin Eglon; brenin Geser;
13 brenin Debir; brenin Geder;
14 brenin Horma; brenin Arad;
15 brenin Libna; brenin Adwlam;
16 brenin Macceda; brenin Bethel;
17 brenin Tapŵach; brenin Cheffer;
18 brenin Affec; brenin Lasaron;
19 brenin Madon; brenin Chatsor;
20 brenin Shimron-meron; brenin Achsaff;
21 brenin Taanach; brenin Megido;
22 brenin Cedesh; brenin Iocneam, ger Mynydd Carmel;
23 brenin Dor, ar yr arfordir; brenin Goïm, ger Gilgal;
24 a brenin Tirsa. (Tri deg un o frenhinoedd i gyd.)
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity