JOSUA 15
Y tir gafodd llwyth Jwda
- 1 Roedd y tir gafodd ei roi i lwyth Jwda yn dilyn y ffin gydag Edom i Anialwch Sin yn y Negef, i lawr yn y de.
2 Roedd y ffin yn y de yn dechrau o ben isaf y Môr Marw, Ref
3 yn mynd heibio i'r de o Fwlch y Sgorpion, ar draws i Sin ac yna i'r ochr isaf i Cadesh-barnea. Yna roedd yn croesi i Hesron ac yn mynd i fyny i Adar, cyn troi i gyfeiriad Carca.
4 Wedyn roedd yn croesi i Atsmon ac yn dilyn Wadi'r Aifft yr holl ffordd i Fôr y Canoldir. Dyna oedd y ffin yn y de.
- 5 Y Môr Marw at aber afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain.
- Wedyn roedd y ffin ogleddol yn ymestyn o aber yr Iorddonen ar ben uchaf y Môr Marw,
6 i fyny i Beth-hogla, yna ar draws o du uchaf Beth-araba at Garreg Bohan (mab Reuben).
7 Ymlaen wedyn o Ddyffryn Achor i Debir, cyn troi i'r gogledd i gyfeiriad Gilgal (sydd gyferbyn â Bwlch Adwmîm, i'r de o'r ceunant). Yna heibio ffynnon En-shemesh cyn belled ag En-rogel. Ref
8 Wedyn roedd y ffin yn dilyn Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o dre'r Jebwsiaid (sef Jerwsalem). Yna i'r gorllewin, ac i gopa'r mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom ac i'r gogledd o Ddyffryn Reffaïm.
9 O dop y mynydd roedd yn mynd at ffynnon dyfroedd Nefftoach, at drefi Mynydd Effron, ac yna'n troi i gyfeiriad Baäla (sef Ciriath-iearîm).
10 Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin o Baäla i gyfeiriad Mynydd Seir, ac yn croesi i dref Cesalon ar lethr gogleddol Mynydd Iearim, cyn mynd i lawr i Beth-shemesh a chroesi i Timna.
11 Yna i gyfeiriad y gogledd at lethrau Ecron, ymlaen i Shicron, croesi i Fynydd Baäla, ac i Iabneël a Môr y Canoldir.
- 12 Môr y Canoldir ei hun oedd y ffin orllewinol.
Dyna oedd ffiniau teuluoedd llwyth Jwda.
Caleb yn concro Hebron a Debir
(Barnwyr 1:11-15)
13 Cafodd tref Ciriath-arba (sef Hebron) ei rhoi i Caleb fab Jeffwnne, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.)
14 Dyma Caleb yn gyrru allan dri cawr oedd yn ddisgynyddion i Anac, sef Sheshai, Achiman a Talmai.
15 Yna dyma fe'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir. (Ciriath-seffer oedd yr hen enw ar Debir.)
16 Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.”
17 Othniel, mab Cenas (brawd Caleb) wnaeth goncro'r dref, a dyma Caleb yn rhoi ei ferch, Achsa, yn wraig iddo.
18 Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, dyma'i thad Caleb yn gofyn iddi, “Beth sy'n bod?”
19 A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi.
Trefi Jwda
20 Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Jwda:
- 21 Y trefi i lawr yn y de ar y ffin gydag Edom: Cabseël, Eder, Iagwr,
22 Cina, Dimona, Adada,
23 Cedesh, Chatsor, Ithnan,
24 Siff, Telem, Bealoth,
25 Chatsor-chadatta, Cerioth-chetsron (sef Chatsor),
26 Amam, Shema, Molada,
27 Chatsar-gada, Cheshmon, Beth-pelet,
28 Chatsar-shwal, Beersheba, Bisiotiâ,
29 Baäla, Iîm, Etsem,
30 Eltolad, Cesil, Horma,
31 Siclag, Madmanna, Sansanna,
32 Lebaoth, Shilchim, Ain a Rimmon. – dau ddeg naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
- 33 Yna'r trefi ar yr iseldir: Eshtaol, Sora, Ashna,
34 Sanoach, En-gannîm, Tapŵach, Enam,
35 Iarmwth, Adwlam, Socho, Aseca,
36 Shaaraim, Adithaîm, a Gedera (neu Gederothaîm) – un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
- 37 Hefyd trefi Senan, Chadasha, Migdal-gad,
38 Dilean, Mitspe, Iocteël,
39 Lachish, Botscath, Eglon,
40 Cabbon, Lachmas, Citlish,
41 Gederoth, Beth-dagon, Naamâ, a Macceda – un deg chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
- 42 Trefi Libna, Ether, Ashan,
43 Ifftach, Ashna, Netsib,
44 Ceila, Achsib, a Maresha – naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
- 45 Yna Ecron a'r trefi a'r pentrefi o'i chwmpas hi,
46 ac i gyfeiriad y gorllewin, y trefi oedd yn ymyl Ashdod, a'r pentrefi o'u cwmpas.
47 Ashdod ei hun, a Gasa a'r trefi a'r pentrefi o'u cwmpas – yr holl ffordd at Wadi'r Aifft ac arfordir Môr y Canoldir.
- 48 Wedyn y trefi yn y bryniau: Shamîr, Iattir, Socho,
49 Danna, Ciriath-sanna (sef Debir),
50 Anab, Eshtemoa, Anim,
51 Gosen, Cholon, a Gilo – un deg un o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
- 52 Hefyd Arab, Dwma, Eshan,
53 Ianŵm, Beth-tapŵach, Affeca,
54 Chwmta, Ciriath-arba (sef Hebron), a Sior – naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
- 55 Yna Maon, Carmel, Siff, Iwtta,
56 Jesreel, Iocdeam, Sanoach,
57 Cain, Gibea, a Timna – deg o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
- 58 Chalchwl, Beth-tswr, Gedor,
59 Maarath, Beth-anoth, ac Eltecon – chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
- 60 Ciriath-baal (sef Ciriath-iearîm) a Rabba – dwy dref, a'r pentrefi o'u cwmpas.
- 61 Yna'r trefi yn yr anialwch – Beth-araba, Midin, Sechacha,
62 Nibshan, Tre'r Halen, ac En-gedi – chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
63 Ond wnaeth dynion Jwda ddim llwyddo i goncro'r Jebwsiaid oedd yn byw yn Jerwsalem. Felly mae'r Jebwsiaid yn dal i fyw gyda phobl Jwda hyd heddiw.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity