JOSUA 16
Y tir gafodd disgynyddion Joseff
1 Roedd y tir gafodd ei roi i ddisgynyddion Joseff yn ymestyn o afon Iorddonen gyferbyn â ffynnon Jericho, drwy'r anialwch, ac i fyny o Jericho i fryniau Bethel.
2 Roedd y ffin yn y de yn ymestyn o Bethel i Lws, ac yn croesi i dir yr Arciaid yn Ataroth.
3 Yna roedd yn mynd i lawr i'r gorllewin i dir y Jaffletiaid, yna i Beth-choron Isaf, Geser ac at Fôr y Canoldir.
4 Dyma'r tir gafodd ei roi i ddisgynyddion Joseff, sef llwythau Effraim a Manasse.
Y tir gafodd llwyth Effraim
- 5 Y tir gafodd y teuluoedd oedd yn perthyn i lwyth Effraim: Roedd y ffin yn mynd o Atroth-adar yn y dwyrain i Beth-choron Uchaf,
6 yna ymlaen at y Môr. O Michmethath yn y gogledd roedd ffin y dwyrain yn mynd heibio Taanath-Seilo i Ianoach.
7 Wedyn roedd yn mynd i lawr o Ianoach i Ataroth a Naära, cyn cyffwrdd Jericho a mynd ymlaen at afon Iorddonen.
8 O Tapŵach roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Ddyffryn Cana, ac yna at y Môr.
Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Effraim.
9 Roedd hefyd yn cynnwys rhai trefi oedd y tu mewn i diriogaeth Manasse, gyda'r pentrefi o'u cwmpas.
10 Ond wnaeth llwyth Effraim ddim gyrru allan y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser. Mae'r Canaaneaid yno yn dal i fyw gyda phobl Effraim hyd heddiw, ac yn cael eu gorfodi i weithio fel caethweision iddyn nhw.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity