JOSUA 18
Josua yn rhannu gweddill y tir
1 Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Seilo, ac yn codi pabell presenoldeb Duw. Er eu bod nhw'n rheoli'r wlad,
2 roedd saith o'r llwythau yn dal heb gael eu tir.
3 A dyma Josua yn dweud wrth bobl Israel, “Am faint mwy dych chi'n mynd i dindroi cyn cymryd y tir mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi'i roi i chi?
4 Dewiswch dri dyn o bob llwyth. Dw i am eu hanfon nhw i grwydro'r wlad, ei mapio a gwneud arolwg llawn ohoni.
5 Byddan nhw'n ei rhannu yn saith ardal. Ond fydd hyn ddim yn cynnwys tir Jwda i lawr yn y de, na thir Joseff yn y gogledd.
6 Mapiwch y tir a'i rannu'n saith ardal wahanol, a dewch ag e i mi. Wedyn bydda i'n bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, i ddewis pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.
7 Ond fydd llwyth Lefi ddim yn cael rhan o'r tir. Eu braint nhw ydy cael bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. Ac mae llwythau Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn tir yr ochr arall i afon Iorddonen, gan Moses, gwas yr ARGLWYDD.”
8 Cyn i'r dynion gychwyn ar eu taith, dyma Josua yn gorchymyn iddyn nhw: “Ewch i grwydro drwy'r wlad a'i mapio, a pharatoi arolwg llawn ohoni i mi. Yna dewch yn ôl ata i. Bydda i wedyn yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yma yn Seilo, i weld pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.”
9 Felly dyma'r dynion yn mynd drwy'r wlad i gyd, a'i mapio, a rhestru'r trefi i gyd ar sgrôl, a rhannu'r tir yn saith ardal. Yna dyma nhw'n dod yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Seilo.
10 A dyma Josua yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yn Seilo, i rannu'r tir rhwng pobl Israel, a gweld pa ardal fyddai pob llwyth yn ei gael.
Y tir gafodd llwyth Benjamin
11 Teuluoedd llwyth Benjamin gafodd y rhan gyntaf. Eu tir nhw fyddai'r ardal rhwng tir Jwda a thir meibion Joseff.
12 Roedd y ffin yn y gogledd yn mynd o afon Iorddonen ar hyd y llethr i'r gogledd o Jericho, wedyn i fyny i'r bryniau i gyfeiriad y gorllewin ac ymlaen at anialwch Beth-afen.
13 Roedd yn croesi wedyn i Lws, ar hyd y llethr sydd i'r de o Lws (sef Bethel). Yna i lawr i Atroth-adar sydd ar y bryn i'r de o Beth-choron Isaf.
14 Wedyn roedd yn troi o'r fan honno i'r de, ar hyd ochr orllewinol y bryn ac i lawr i Ciriath-baal (sef Ciriath-iearîm), un o'r trefi oedd ar dir llwyth Jwda. Dyna'r ffin i'r gorllewin.
15 Yna roedd ffin y de yn dechrau wrth Ciriath-iearîm, ac yn rhedeg i gyfeiriad Ffynnon Nefftoach.
16 Wedyn roedd y ffin yn mynd i lawr at droed y mynydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom, sydd wrth ben gogleddol Dyffryn Reffaïm. Yna i lawr Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o Jerwsalem, Ref ac ymlaen i En-rogel.
17 O En-rogel roedd yn troi i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i En-shemesh, ac yna i Geliloth, sydd gyferbyn â Bwlch Adwmîm, ac yna i lawr at Garreg Bohan (mab Reuben).
18 Yna croesi i gyfeiriad y gogledd ar hyd y llethr sydd o flaen Dyffryn Iorddonen, cyn mynd i lawr i'r dyffryn ei hun.
19 Croesi wedyn at lethr Beth-hogla ac ymlaen i ben uchaf y Môr Marw, Ref wrth aber afon Iorddonen. Dyna ffin y de.
20 Wedyn afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain.
Dyna ffiniau'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.
21 A dyma'r trefi oedd yn perthyn i lwyth Benjamin:
- Jericho, Beth-hogla, Emec-cetsits,
22 Beth-araba, Semaraïm, Bethel,
23 Afim, Para, Offra,
24 Ceffar-ammona, Offni, a Geba – un deg dwy o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
- 25 Gibeon, Rama, Beëroth,
26 Mitspe, Ceffira, Motsa,
27 Recem, Irpeël, Tarala,
28 Sela, Eleff, tref y Jebwsiaid (sef Jerwsalem), Gibea, a Ciriath – un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity