JOSUA 2
Anfon Ysbiwyr i Jericho
1 Dyma Josua fab Nwn yn anfon dau ysbïwr allan o'r gwersyll yn Sittim, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi ddarganfod beth allwch chi am y wlad, yn arbennig tref Jericho.” Felly, i ffwrdd â nhw, a dyma nhw'n mynd i dŷ putain o'r enw Rahab, ac aros yno dros nos.
2 Ond dyma rywun yn dweud wrth frenin Jericho, “Mae rhai o ddynion Israel wedi dod yma i ysbïo'r wlad.”
3 Felly dyma'r brenin yn anfon milwyr at Rahab, “Tyrd â dy gwsmeriaid allan – y dynion sydd wedi dod i aros yn dy dŷ di. Ysbiwyr ydyn nhw, wedi dod i edrych dros y wlad.”
4 Ond roedd Rahab wedi cuddio'r dynion, a dyma hi'n ateb, “Mae'n wir, roedd yna ddynion wedi dod ata i, ond doeddwn i ddim yn gwybod o ble roedden nhw'n dod.
5 Pan oedd hi'n tywyllu, a giât y ddinas ar fin cael ei chau dros nos, dyma nhw'n gadael. Dw i ddim yn gwybod i ba gyfeiriad aethon nhw. Os brysiwch chi, gallwch chi eu dal nhw!”
6 (Ond beth roedd Rahab wedi'i wneud go iawn oedd mynd â'r dynion i ben to'r tŷ, a'u cuddio nhw dan y pentyrrau o lin roedd hi wedi'u gosod allan yno.)
7 Felly dyma weision y brenin yn mynd i chwilio amdanyn nhw ar hyd y ffordd sy'n arwain at afon Iorddonen, lle mae'r rhydau. A dyma giât y ddinas yn cael ei chau yn syth ar ôl iddyn nhw fynd.
8 Cyn i'r ysbiwyr fynd i gysgu'r noson honno, dyma Rahab yn mynd i fyny i'r to i siarad gyda nhw.
9 Meddai wrthyn nhw, “Dw i'n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD yn mynd i roi'r wlad yma i chi. Mae gan bawb eich ofn chi. Mae pawb yn ofni am eu bywydau.
10 Dŷn ni wedi clywed sut wnaeth yr ARGLWYDD sychu'r Môr Coch Ref o'ch blaenau chi pan ddaethoch chi allan o'r Aifft. A hefyd, sut wnaethoch chi ddinistrio dau frenin yr Amoriaid, Sihon ac Og, yr ochr arall i afon Iorddonen.Croes
11 Pan glywson ni am y peth roedden ni wedi digalonni'n llwyr. Roedd pawb mewn panig. Mae'r ARGLWYDD eich Duw chi yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear!
12 Dw i eisiau i chi fynd ar eich llw, ac addo i mi o flaen yr ARGLWYDD, y byddwch chi'n arbed bywydau fy nheulu i, fel dw i wedi arbed eich bywydau chi. Rhowch arwydd sicr i mi
13 na fyddwch chi'n lladd neb yn fy nheulu – dad, mam, fy mrodyr a'm chwiorydd, na neb arall yn y teulu.”
14 A dyma'r dynion yn addo iddi, “Os wnei di ddim dweud wrth neb amdanon ni, byddwn ni'n cadw'n haddewid i ti pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoi'r wlad yma i ni. Boed i ni dalu gyda'n bywydau os cewch chi'ch lladd!”
15 Yna dyma Rahab yn eu gollwng nhw i lawr ar raff o ffenest ei thŷ. (Roedd wal allanol ei thŷ hi yn rhan o wal y ddinas.)
16 “Ewch i gyfeiriad y bryniau,” meddai wrthyn nhw. “Fydd y dynion sydd ar eich ôl chi ddim yn dod o hyd i chi wedyn. Cuddiwch yno am dri diwrnod, i roi cyfle iddyn nhw ddod yn ôl. Wedyn gallwch fynd ar eich ffordd.”
17 Dyma'r dynion yn dweud wrthi, “Allwn ni ddim ond cadw'r addewid wnaethon ni i ti ar un amod:
18 Pan fyddwn ni'n ymosod ar y wlad, rhwyma'r rhaff goch yma iddi hongian allan o'r ffenest wnaethon ni ddianc drwyddi. A rhaid i ti gasglu dy deulu i gyd at ei gilydd yn y tŷ – dy dad, dy fam, dy frodyr a dy chwiorydd, a phawb arall.
19 Os bydd unrhyw un yn gadael y tŷ ac yn cael ei ladd, nhw eu hunain fydd ar fai – fydd dim bai arnon ni. Ond os bydd unrhyw un sydd yn y tŷ yn cael niwed, ni fydd yn gyfrifol.
20 Ond os byddi di'n dweud wrth unrhyw un amdanon ni, fyddwn ni ddim yn gyfrifol am dorri'r addewid.”
21 “Digon teg,” meddai hithau. A dyma hi'n eu hanfon nhw i ffwrdd, ac yn rhwymo'r rhaff goch i'r ffenest.
22 Dyma nhw'n mynd i'r bryniau, ac yn aros yno am dri diwrnod – digon o amser i'r dynion oedd yn chwilio amdanyn nhw fynd yn ôl. Roedd y rheiny wedi bod yn edrych amdanyn nhw ym mhobman ar hyd y ffordd, ond wedi methu dod o hyd iddyn nhw.
23 Yna dyma'r ddau ddyn yn troi am yn ôl. Dyma nhw'n dod i lawr o'r bryniau, croesi afon Iorddonen, a mynd at Josua i roi adroddiad iddo o beth oedd wedi digwydd.
24 “Does dim amheuaeth,” medden nhw. “Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi'r wlad i gyd i ni! Mae'r bobl i gyd yn ofni am eu bywydau!”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity