JOSUA 23
Araith olaf Josua
1 Aeth blynyddoedd lawer heibio. Roedd yr ARGLWYDD wedi cadw Israel yn saff rhag y gelynion o'i chwmpas, ac roedd Josua wedi mynd yn hen iawn.
2 Dyma fe'n galw pobl Israel at ei gilydd – y dynion hŷn, yr arweinwyr, y barnwyr a'r swyddogion. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dw i wedi mynd yn hen.
3 Dych chi wedi gweld beth wnaeth yr ARGLWYDD ar eich rhan chi i'r bobloedd yma i gyd. Yr ARGLWYDD eich Duw chi ydy e, ac mae e wedi ymladd drosoch chi.
4 Dw i wedi rhannu rhwng eich llwythau dir y bobl hynny sydd ddim eto wedi'u concro, yn ogystal â'r rhai dw i wedi'u dinistrio – sef yr holl dir sydd rhwng afon Iorddonen a Môr y Canoldir.
5 Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cael gwared â'r rhai sydd ar ôl, a byddwch chi'n byw ar y tir yn eu lle nhw, fel mae'r ARGLWYDD wedi addo i chi.
6 “Felly byddwch yn ddewr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud popeth sydd wedi'i ysgrifennu yn sgrôl Cyfraith Moses. Peidiwch crwydro oddi wrth hynny o gwbl.
7 A pheidiwch cael dim i'w wneud â'r bobloedd sydd ar ôl gyda chi. Peidiwch galw ar eu duwiau nhw na tyngu llw i'r duwiau hynny. Peidiwch addoli nhw na gweddïo arnyn nhw.
8 Arhoswch yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eich Duw, fel dych chi wedi gwneud hyd heddiw.
9 Mae'r ARGLWYDD wedi gyrru cenhedloedd mawr cryfion allan o'ch blaen chi. Does neb wedi gallu'ch rhwystro chi hyd yn hyn.
10 Mae un ohonoch chi yn ddigon i wneud i fil ohonyn nhw ffoi, am fod yr ARGLWYDD yn ymladd drosoch chi, fel gwnaeth e addo.
11 Gwyliwch eich hunain! Carwch yr ARGLWYDD eich Duw!
12 Os byddwch chi'n troi cefn arno, ac yn cymysgu gyda'r bobloedd yma sydd yn dal gyda chi – priodi eu merched nhw, a gadael iddyn nhw briodi eich merched chi –
13 gallwch fod yn siŵr y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn stopio eu gyrru nhw allan o'ch blaen chi. Byddan nhw'n eich trapio chi. Fyddan nhw'n achosi dim byd ond trwbwl i chi, fel chwip ar eich cefnau neu ddrain yn eich llygaid. A byddwch chi'n diflannu o'r wlad dda yma mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi'i rhoi i chi.
14 “Edrychwch, fydda i ddim byw yn hir iawn eto. Dych chi'n gwybod yn berffaith iawn fod yr ARGLWYDD wedi cadw pob un addewid wnaeth e i chi. Mae e wedi gwneud popeth wnaeth e addo.
15 Ond gallwch fod yr un mor siŵr y bydd yr ARGLWYDD yn dod â barn a dinistr arnoch chi os byddwch chi'n anufudd iddo. Byddwch yn cael eich gyrru allan o'r wlad dda yma mae e wedi'i rhoi i chi.
16 Os byddwch chi'n torri amodau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi'i wneud, ac yn dechrau addoli a gweddïo ar dduwiau eraill, bydd yr ARGLWYDD yn digio gyda chi, a byddwch chi'n diflannu o'r wlad dda yma mae e wedi'i rhoi i chi.”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity