JOSUA 3
Pobl Israel yn croesi afon Iorddonen
1 Yn gynnar y bore wedyn, dyma Josua a phobl Israel i gyd yn gadael Sittim a mynd at yr Iorddonen. Dyma nhw'n aros yno cyn croesi'r afon.
2 Ddeuddydd wedyn, dyma'r arweinwyr yn mynd drwy'r gwersyll
3 i roi gorchymyn i'r bobl, “Pan fyddwch chi'n gweld Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD eich Duw yn cael ei chario gan yr offeiriaid o lwyth Lefi, rhaid i chi symud o'r fan yma, a dilyn yr Arch.
4 Ond peidiwch mynd yn rhy agos ati. Cadwch bellter o ryw hanner milltir Ref rhyngoch chi a'r Arch. Wedyn byddwch yn gweld pa ffordd i fynd. Dych chi ddim wedi bod y ffordd yma o'r blaen.”
5 A dyma Josua'n dweud wrth y bobl, “Gwnewch eich hunain yn barod! Ref Ewch drwy'r ddefod o buro eich hunain i'r ARGLWYDD. Mae e'n mynd i wneud rhywbeth hollol ryfeddol i chi yfory.”
6 Yna dyma Josua'n dweud wrth yr offeiriaid, “Codwch Arch yr Ymrwymiad ac ewch o flaen y bobl.” A dyma nhw'n gwneud hynny.
7 Dwedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “O heddiw ymlaen dw i'n mynd i dy wneud di'n arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Byddan nhw'n gwybod mod i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses.
8 Dw i eisiau i ti ddweud wrth yr offeiriaid sy'n cario Arch yr Ymrwymiad, ‘Pan ddewch chi at lan afon Iorddonen, cerddwch i mewn i'r dŵr a sefyll yno.’”
9 Felly dyma Josua'n galw ar bobl Israel, “Dewch yma i glywed beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud!
10 Dyma sut byddwch chi'n gweld fod y Duw byw gyda chi, a'i fod yn mynd i yrru allan y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebwsiaid.
11 Edrychwch! Mae Arch Ymrwymiad Meistr y ddaear gyfan yn barod i'ch arwain chi ar draws afon Iorddonen!
12 Dewiswch un deg dau o ddynion o lwythau Israel – un o bob llwyth.
13 Pan fydd traed yr offeiriaid sy'n cario Arch yr ARGLWYDD, Meistr y ddaear gyfan, yn cyffwrdd dŵr yr afon, bydd y dŵr yn stopio llifo ac yn codi'n bentwr.”
14 Felly pan adawodd y bobl eu pebyll i groesi'r Iorddonen, dyma'r offeiriaid oedd yn cario Arch yr Ymrwymiad yn mynd o'u blaenau.
15-16 Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a'r afon wedi gorlifo. Dyma nhw'n dod at yr afon, a phan gyffyrddodd eu traed y dŵr, dyma'r dŵr yn stopio llifo. Roedd y dŵr wedi codi'n bentwr gryn bellter i ffwrdd, wrth Adam (tref wrth ymyl Sarethan). Doedd dim dŵr o gwbl yn llifo i'r Môr Marw. Ref Felly dyma'r bobl yn croesi'r afon gyferbyn â Jericho.
17 Safodd yr offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar wely afon Iorddonen, nes oedd pobl Israel i gyd wedi croesi i'r ochr arall ar dir sych.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity