JOSUA 9
Y cytundeb gyda phobl Gibeon
1-2 Pan glywodd y brenhinoedd oedd yn byw i'r gorllewin o afon Iorddonen am hyn i gyd, dyma nhw'n dod at ei gilydd i ffurfio cynghrair milwrol i ymladd yn erbyn Josua a phobl Israel. Roedd yn cynnwys brenhinoedd y mynydd-dir, yr iseldir, a'r rhai ar hyd arfordir Môr y Canoldir cyn belled â Libanus (yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid).
3 Ond pan glywodd pobl Gibeon beth roedd Josua wedi'i wneud i drefi Jericho ac Ai,
4 dyma nhw'n bod yn gyfrwys. Dyma rai ohonyn nhw'n cymryd arnyn nhw eu bod yn negeswyr o wlad bell. Dyma nhw'n rhoi hen sachau ar gefnau eu hasynnod, a chario hen boteli crwyn oedd wedi rhwygo a chael eu trwsio;
5 gwisgo hen sandalau oedd wedi treulio, hen ddillad carpiog, a chario bara oedd wedi sychu a llwydo.
6 Wedyn mynd at Josua i'r gwersyll yn Gilgal, a dweud wrth bobl Israel, “Dŷn ni wedi teithio o wlad bell, i ofyn i chi wneud cytundeb heddwch â ni.”
7 Ond dyma bobl Israel yn dweud wrth yr Hefiaid, “Sut ydyn ni'n gwybod nad ydych chi'n dod o'r ardaloedd yma? Allwn ni ddim gwneud cytundeb heddwch gyda chi os ydych chi.”
8 A dyma nhw'n dweud wrth Josua, “Dŷn ni'n fodlon bod yn weision i chi.”
Gofynnodd Josua iddyn nhw, “Pwy ydych chi ac o ble dych chi'n dod?”
9 A dyma nhw'n ateb, “Mae dy weision wedi dod o wlad bell iawn. Mae'r ARGLWYDD eich Duw chi yn enwog – dŷn ni wedi clywed adroddiadau am beth wnaeth e yn yr Aifft,
10 a beth wnaeth e i ddau frenin yr Amoriaid yr ochr arall i afon Iorddonen – Sihon, brenin Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth.Croes
11 Dyma'n harweinwyr ni, a'n pobl i gyd, yn ein hanfon ni i'ch cyfarfod chi, i ofyn i chi wneud cytundeb heddwch â ni, a dweud ein bod ni'n fodlon bod yn weision i chi.
12 Roedd y bara yma'n gynnes o'r popty pan wnaethon ni adael ein cartrefi i ddod i'ch cyfarfod chi. Ond bellach mae e wedi sychu a llwydo.
13 A'r hen boteli crwyn yma – roedden nhw'n newydd sbon pan wnaethon ni eu llenwi nhw. Ac edrychwch ar gyflwr ein dillad a'n sandalau ni! Mae wedi bod yn daith mor hir!”
14 Dyma arweinwyr Israel yn edrych ar y bara, ond wnaethon nhw ddim gofyn i'r ARGLWYDD am arweiniad.
15 Felly dyma Josua'n gwneud cytundeb heddwch â nhw, ac addo gadael iddyn nhw fyw. A dyma arweinwyr Israel yn cadarnhau'r cytundeb drwy dyngu llw.
16 Dri diwrnod wedyn dyma bobl Israel yn darganfod y gwir – pobl leol oedden nhw!
17 Symudodd Israel yn eu blaenau, a chyrraedd eu trefi ddeuddydd wedyn, sef Gibeon, Ceffira, Beëroth, a Ciriath-iearîm. Ref
18 Ond wnaeth pobl Israel ddim ymosod arnyn nhw am fod eu harweinwyr wedi cymryd llw yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel. Roedd y bobl i gyd yn cwyno am yr arweinwyr.
19 Ond meddai'r arweinwyr wrthyn nhw, “Dŷn ni wedi cymryd llw, a gwneud addewid i'r bobl yma yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel. Allwn ni ddim eu cyffwrdd nhw!
20 Os ydyn ni am osgoi melltith Duw arnon ni am dorri'n haddewid, rhaid i ni adael iddyn nhw fyw.
21 Felly gadewch iddyn nhw fyw.” A chawson nhw dorri coed a chario dŵr i bobl Israel, fel roedd yr arweinwyr wedi addo iddyn nhw.
22 Galwodd Josua y bobl o Gibeon ato, a gofyn iddyn nhw, “Pam wnaethoch chi'n twyllo ni? Pam wnaethoch chi ddweud eich bod chi'n dod o wlad bell, a chithau'n byw yma wrth ein hymyl ni?
23 Nawr dych chi wedi'ch condemnio i fod yn gaethweision am byth. Byddwch chi'n torri coed ac yn cario dŵr i deml fy Nuw i.”
24 Dyma nhw'n ateb, “Roedden ni'n clywed o hyd ac o hyd fod yr ARGLWYDD eich Duw wedi dweud wrth ei was Moses fod y wlad gyfan i'w rhoi i chi, a'ch bod i ddinistrio pawb oedd yn byw yma o'ch blaen. Roedd gynnon ni ofn am ein bywydau, a dyna pam wnaethon ni beth wnaethon ni.
25 Dŷn ni yn eich dwylo chi. Gwnewch beth bynnag dych chi'n feddwl sy'n iawn.”
26 Wnaeth Josua ddim gadael i bobl Israel eu lladd nhw.
27 Gwnaeth nhw'n gaethweision i dorri coed a chario dŵr i bobl Israel, ac i allor yr ARGLWYDD – ble bynnag fyddai'r ARGLWYDD yn dewis ei gosod. A dyna maen nhw'n ei wneud hyd heddiw.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity