LEFITICUS 12
Puro gwraig ar ôl iddi eni plentyn
1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Dwed wrth bobl Israel: Pan mae gwraig yn cael babi, os mai bachgen ydy'r babi, bydd hi'n aflan am saith diwrnod (fel gyda'r misglwyf).
3 Pan mae'r bachgen yn wythnos oed, rhaid iddo fynd drwy'r ddefod o gael ei enwaedu, sef torri blaengroen ei bidyn i ffwrdd.
4 Fydd y wraig ddim yn hollol lân am dri deg tri diwrnod arall. Felly yn ystod y cyfnod yma o gael ei glanhau, ddylai hi ddim cyffwrdd unrhyw beth cysegredig na mynd i'r cysegr i addoli.
5 Os mai merch ydy'r babi, bydd y fam yn aflan am bythefnos (fel gyda'r misglwyf). A fydd hi ddim yn hollol lân am chwe deg chwech diwrnod arall.
6 “Pan fydd y fam wedi gorffen y cyfnod o gael ei glanhau, rhaid iddi ddod at fynedfa'r Tabernacl, a chyflwyno oen sy'n flwydd oed yn offrwm i'w losgi a cholomen neu durtur yn offrwm i lanhau o bechod.
7 Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno i'r ARGLWYDD ac yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi hi a Duw. Dyma sydd i ddigwydd pan fydd bachgen neu ferch yn cael eu geni.
8 Os ydy'r wraig ddim yn gallu fforddio oen, mae hi'n gallu cyflwyno dwy durtur neu ddwy golomen. Un yn offrwm i'w losgi a'r llall yn offrwm i lanhau o bechod. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi hi a Duw, a bydd hi'n lân.”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity