LEFITICUS 14
Y seremoni ar ôl i rywun wella o glefyd heintus
1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Dyma'r drefn pan mae rhywun wedi gwella o glefyd heintus ar y croen:
“Rhaid mynd â'r mater at yr offeiriad.
3 Bydd yr offeiriad yn mynd allan o'r gwersyll i'w archwilio. Os ydy'r afiechyd wedi gwella,
4 bydd yr offeiriad yn dweud wrth y person am fynd â dau aderyn byw i'w haberthu, darn o bren cedrwydd, edau goch, a brigau o isop.
5 Wedyn bydd yr offeiriad yn dweud wrtho am ladd un o'r adar uwchben potyn pridd sydd â dŵr glân ynddo.
6 Wedyn rhaid iddo gymryd yr aderyn sy'n dal yn fyw, y darn o bren cedrwydd, yr edau goch a'r brigau o isop, a'u trochi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn gafodd ei ladd.
7 Wedyn bydd yn taenellu peth o'r gwaed saith gwaith ar y person sydd wedi gwella o'r clefyd heintus. Yna bydd yn cyhoeddi fod y person yn lân, ac yn gadael i'r aderyn hedfan i ffwrdd.
8 “Nesaf, rhaid i'r person sydd wedi gwella o'r afiechyd olchi ei ddillad, siafio'i gorff i gyd, ac ymolchi mewn bath. Wedyn bydd yn lân. Bydd yn gallu mynd i mewn i'r gwersyll, ond ddim yn cael mynd i fyw i'w babell am saith diwrnod.
9 Ar ôl hynny bydd yn siafio eto – ei ben, ei farf, ei aeliau, a gweddill ei gorff. Yna'n olaf bydd yn golchi ei ddillad eto, cymryd bath arall, a bydd e'n gwbl lân.
10 “Y diwrnod wedyn, mae i fynd â dau oen gwryw ac oen banw blwydd oed, sydd â dim byd o'i le arnyn nhw, at yr offeiriad. Hefyd tri cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd, ac un rhan o dair o litr o olew olewydd.
11 Bydd yr offeiriad sy'n arwain y ddefod glanhau yn mynd â'r person a'i offrwm o flaen yr ARGLWYDD at fynedfa'r Tabernacl.
12 Yno, bydd yr offeiriad yn aberthu un o'r ŵyn yn offrwm i gyfaddef bai. Bydd yn ei gymryd gyda'r olew olewydd ac yn eu codi nhw'n uchel i'w cyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
13 Mae'r oen i gael ei ladd yn yr un lle ag mae'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi yn cael eu lladd. Yr offeiriad sydd biau fe, fel gyda'r offrwm i lanhau o bechod. Mae'n gysegredig iawn.
14 “Mae'r offeiriad wedyn i gymryd peth o waed yr offrwm i gyfaddef bai, a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde.
15 Wedyn mae'r offeiriad i gymryd peth o'r olew olewydd a'i dywallt i gledr ei law ei hun.
16 Yna rhoi bys ei law dde yn yr olew sydd yn ei law chwith, a'i daenellu saith gwaith o flaen yr ARGLWYDD.
17 Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd ar ôl yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw.
18 Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau. Wedyn bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw:
19 bydd yn cyflwyno'r offrwm i lanhau o bechod, i wneud pethau'n iawn rhwng y person a Duw a'i lanhau o'r cyflwr aflan roedd wedi bod ynddo. Yna bydd yr offeiriad yn lladd yr offrwm sydd i'w losgi.
20 Bydd yn cyflwyno'r offrwm sydd i'w losgi a'r offrwm o rawn ar yr allor. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person a Duw, a bydd e'n lân.
21 “Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio hyn i gyd, mae i gymryd un oen gwryw yn offrwm i gyfaddef bai sydd i'w godi'n uchel. Bydd yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw. Hefyd, un rhan o dair o litr o olew olewydd a cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew yn offrwm o rawn.
22 Hefyd, dwy durtur neu ddwy golomen – un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi.
23 Dylai fynd â nhw at yr offeiriad ar yr wythfed diwrnod, ar gyfer y ddefod i gael ei lanhau. Mae i fynd â nhw at fynedfa'r Tabernacl, o flaen yr ARGLWYDD.
24 “Bydd yr offeiriad yn cymryd yr oen sy'n offrwm i gyfaddef bai, gyda'r olew olewydd, ac yn eu codi nhw'n uchel yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
25 Mae'r oen i gael ei ladd fel offrwm i gyfaddef bai. Mae'r offeiriad i gymryd peth o waed yr offrwm a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde.
26 Wedyn mae'r offeiriad i dywallt peth o'r olew olewydd i gledr ei law chwith.
27 Yna gyda bys ei law dde, mae i daenellu peth o'r olew sydd yn ei law chwith saith gwaith o flaen yr ARGLWYDD.
28 Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw.
29 Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau, i wneud pethau'n iawn rhyngddo a Duw.
30 “Wedyn mae i gymryd y turturod neu'r colomennod ifanc (beth bynnag mae'n gallu ei fforddio).
31 Mae un i'w gyflwyno'n offrwm i lanhau o bechod, a'r llall yn offrwm i'w losgi'n llwyr gyda'r offrwm o rawn. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cael ei lanhau a Duw.
32 Dyna'r drefn ar gyfer rhywun sydd wedi bod â clefyd heintus ar y croen, ond sy'n methu fforddio'r offrymau ar gyfer y ddefod glanhau.”
Tyfiant ffyngaidd mewn tŷ
33 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:
34 “Pan fyddwch chi wedi cyrraedd gwlad Canaan, sef y wlad dw i'n ei rhoi i chi, dyma beth sydd rhaid ei wneud os bydd tyfiant ffyngaidd yn un o'r tai:
35 Mae perchennog y tŷ i fynd at yr offeiriad, a dweud, ‘Mae'n edrych fel petai rhyw dyfiant fel ffwng yn fy nhŷ i.’
36 Bydd yr offeiriad yn dweud fod rhaid gwagio'r tŷ cyn iddo fynd yno i'w archwilio, rhag i bopeth yn y tŷ gael ei wneud yn aflan. Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yno i archwilio'r tŷ.
37 Os bydd e'n darganfod tyfiant gwyrdd neu goch ar y waliau sy'n ddyfnach na'r wyneb,
38 mae'r offeiriad i fynd allan o'r tŷ a'i gau am saith diwrnod.
39 Wedyn bydd yr offeiriad yn mynd yn ôl mewn wythnos i archwilio'r tŷ eto. Os ydy'r tyfiant wedi lledu ar waliau'r tŷ,
40 mae'r offeiriad i orchymyn fod y cerrig oedd â'r tyfiant arnyn nhw i gael eu tynnu allan o'r waliau a'u taflu i le aflan tu allan i'r dre.
41 Wedyn bydd yn trefnu i'r plastr ar y waliau gael ei grafu i ffwrdd i gyd. Bydd y plastr hefyd yn cael ei daflu i le aflan tu allan i'r dre.
42 Wedyn bydd y waliau'n cael eu trwsio gyda cherrig newydd, a bydd y tŷ yn cael ei ailblastro.
43 “Os bydd y tyfiant yn ailymddangos ar ôl cael gwared â'r cerrig, trwsio'r waliau ac ailblastro'r tŷ,
44 mae'r offeiriad i fynd yn ôl i archwilio'r tŷ eto. Os bydd y tyfiant wedi lledu, mae'n broblem barhaol. Rhaid ystyried y tŷ yn aflan.
45 Bydd rhaid i'r tŷ gael ei dynnu i lawr, a bydd rhaid i'r cerrig, y coed, a'r plastr i gyd gael eu taflu mewn lle aflan tu allan i'r dre.
46 Bydd pawb aeth i mewn i'r tŷ pan oedd wedi'i gau, yn aflan am weddill y dydd.
47 A rhaid i bawb fuodd yn cysgu neu'n bwyta yn y tŷ olchi eu dillad.
48 “Ond os ydy'r offeiriad yn darganfod fod y tyfiant heb ddod yn ôl i'r tŷ ar ôl iddo gael ei ailblastro, bydd e'n cyhoeddi fod y tŷ yn lân – mae'r drwg wedi mynd.
49 Ac er mwyn dangos fod y tŷ yn lân, bydd e'n cymryd dau aderyn, darn o bren cedrwydd, edau goch a brigau o isop.
50 Bydd yn lladd un o'r adar uwchben potyn pridd sydd â dŵr glân ynddo.
51 Wedyn rhaid iddo gymryd y darn o bren cedrwydd, yr edau goch a'r brigau o isop, a'r aderyn sy'n dal yn fyw, a'u trochi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn gafodd ei ladd a'r dŵr, ac yna taenellu'r tŷ saith gwaith gydag e.
52 Dyna sut y bydd e'n glanhau'r tŷ gyda gwaed yr aderyn gafodd ei ladd, y dŵr, yr aderyn byw, y darn o bren cedrwydd, y brigau o isop a'r edau goch.
53 Yna bydd yn gadael i'r aderyn byw hedfan i ffwrdd allan o'r dre. Dyna sut y bydd e'n gwneud y tŷ yn lân ac yn iawn i fyw ynddo eto.
54 “Dyna'r drefn ar gyfer delio gydag unrhyw glefyd heintus, ffafws,
55 llwydni mewn dilledyn, neu dyfiant ffyngaidd mewn tŷ,
56 chwydd neu rash neu smotyn.
57 Dyna sut mae gwahaniaethu rhwng y glân a'r aflan. Dyna'r drefn ar gyfer delio gydag afiechydon heintus.”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity